MARK
Chapter 11
Mark | WelBeibl | 11:1 | Dyma nhw'n cyrraedd Bethffage a Bethania wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem. Dyma Iesu'n dweud wrth ddau o'i ddisgyblion, | |
Mark | WelBeibl | 11:2 | “Ewch i'r pentref acw sydd o'ch blaen chi, ac wrth fynd i mewn iddo dewch o hyd i ebol wedi'i rwymo – un does neb wedi bod ar ei gefn o'r blaen. Dewch â'r ebol i mi, ac | |
Mark | WelBeibl | 11:3 | os bydd rhywun yn gofyn, ‘Beth dych chi'n ei wneud?’ dwedwch, ‘Mae'r meistr ei angen; bydd yn ei anfon yn ôl wedyn.’” | |
Mark | WelBeibl | 11:4 | Felly i ffwrdd â nhw, a dyna lle roedd yr ebol, allan yn y stryd wedi'i rwymo wrth ddrws. Wrth iddyn nhw ei ollwng yn rhydd | |
Mark | WelBeibl | 11:6 | Dyma nhw'n dweud yn union beth ddwedodd Iesu wrthyn nhw, a dyma'r bobl yn gadael iddyn nhw fynd. | |
Mark | WelBeibl | 11:7 | Pan ddaethon nhw â'r ebol at Iesu dyma nhw'n taflu'u cotiau drosto, a dyma Iesu'n eistedd ar ei gefn. | |
Mark | WelBeibl | 11:8 | Roedd llawer o bobl yn gosod eu cotiau fel carped ar y ffordd o'i flaen, neu ganghennau deiliog oedden nhw wedi'u torri o'r caeau. | |
Mark | WelBeibl | 11:9 | Roedd pobl y tu blaen a'r tu ôl iddo yn gweiddi, “Hosanna! Clod i ti!” “Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi'i fendithio'n fawr!” | |
Mark | WelBeibl | 11:10 | “Mae teyrnas ein cyndad Dafydd wedi'i bendithio!” “Hosanna! Clod i Dduw yn y nefoedd uchaf!” | |
Mark | WelBeibl | 11:11 | Dyma Iesu'n mynd i mewn i Jerwsalem ac i'r deml. Edrychodd o gwmpas ar bopeth oedd yno cyn gadael. Gan ei bod yn mynd yn hwyr, aeth yn ôl i Bethania gyda'r deuddeg disgybl. | |
Mark | WelBeibl | 11:13 | Gwelodd goeden ffigys ddeiliog yn y pellter, ac aeth i edrych rhag ofn bod ffrwyth arni. Ond doedd dim byd ond dail, am ei bod hi ddim yr adeg iawn o'r flwyddyn i'r ffigys fod yn barod. | |
Mark | WelBeibl | 11:14 | “Fydd neb yn bwyta dy ffrwyth di byth eto!” meddai Iesu. Clywodd y disgyblion beth ddwedodd e. | |
Mark | WelBeibl | 11:15 | Pan gyrhaeddodd Iesu Jerwsalem, aeth i gwrt y deml a dechrau gyrru allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y farchnad yno. Gafaelodd ym myrddau'r rhai oedd yn cyfnewid arian a'u troi drosodd, a hefyd meinciau y rhai oedd yn gwerthu colomennod. | |
Mark | WelBeibl | 11:17 | Yna dechreuodd eu dysgu, “Onid ydy'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd.’? Ond dych chi wedi troi'r lle yn ‘guddfan i ladron’!” | |
Mark | WelBeibl | 11:18 | Clywodd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith beth ddwedodd e, a mynd ati i geisio dod o hyd i ffordd i'w ladd. Roedden nhw'n ei weld yn fygythiad i'w hawdurdod, am fod y bobl wedi'u syfrdanu gan ei eiriau. | |
Mark | WelBeibl | 11:20 | Y bore wedyn roedden nhw'n pasio'r goeden ffigys eto. Roedd hi wedi gwywo'n llwyr! | |
Mark | WelBeibl | 11:21 | Cofiodd Pedr eiriau Iesu'r diwrnod cynt, ac meddai, “Rabbi, edrych! Mae'r goeden wnest ti ei melltithio wedi gwywo!” | |
Mark | WelBeibl | 11:23 | “Credwch chi fi, does ond rhaid i chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Dos, a thaflu dy hun i'r môr’ – heb amau o gwbl, dim ond credu y gwnaiff ddigwydd – a bydd yn digwydd! | |
Mark | WelBeibl | 11:24 | Felly dw i'n dweud wrthoch chi, cewch beth bynnag dych chi'n gofyn amdano wrth weddïo, dim ond i chi gredu y byddwch yn ei dderbyn. | |
Mark | WelBeibl | 11:25 | Ond cyn gweddïo'n gyhoeddus, rhaid i chi faddau i unrhyw un sydd wedi gwneud rhywbeth yn eich erbyn. Wedyn bydd eich Tad yn y nefoedd yn maddau'ch pechodau chi.” | |
Mark | WelBeibl | 11:27 | Dyma nhw'n cyrraedd yn ôl i Jerwsalem. Pan oedd Iesu'n cerdded o gwmpas y deml, dyma'r prif offeiriaid, yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr Iddewig eraill yn dod ato, | |
Mark | WelBeibl | 11:28 | a gofyn iddo, “Pa hawl sydd gen ti i wneud beth wnest ti? Pwy roddodd yr awdurdod i ti?” | |
Mark | WelBeibl | 11:29 | Atebodd Iesu, “Gadewch i mi ofyn cwestiwn i chi. Atebwch chi hwn, ac ateba i'ch cwestiwn chi. | |
Mark | WelBeibl | 11:31 | Wrth drafod y peth gyda'i gilydd, dyma nhw'n dweud, “Os atebwn ni ‘Ie’, bydd yn gofyn, ‘Pam doeddech chi ddim yn ei gredu felly?’ | |
Mark | WelBeibl | 11:32 | Ond allwn ni byth ddweud ‘Na’ …” (Roedd ganddyn nhw ofn y bobl, am fod pawb yn meddwl fod Ioan yn broffwyd.) | |