MATTHEW
Chapter 2
Matt | WelBeibl | 2:1 | Cafodd Iesu ei eni yn Bethlehem yn Jwdea, yn y cyfnod pan oedd Herod yn frenin. Ar ôl hynny, daeth gwŷr doeth o wledydd y dwyrain i Jerwsalem | |
Matt | WelBeibl | 2:2 | i ofyn, “Ble mae'r un sydd newydd gael ei eni yn frenin yr Iddewon? Gwelon ni ei seren yn codi yn y dwyrain, a dŷn ni yma i dalu teyrnged iddo.” | |
Matt | WelBeibl | 2:3 | Pan glywodd y Brenin Herod hyn roedd wedi cynhyrfu'n lân. Roedd cynnwrf yn Jerwsalem hefyd. | |
Matt | WelBeibl | 2:4 | Felly galwodd Herod y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig i'w gyfarfod. Gofynnodd iddyn nhw, “Ble mae'r Meseia i fod i gael ei eni?” | |
Matt | WelBeibl | 2:6 | ‘Bethlehem, yn nhir Jwda – Nid rhyw bentref dibwys yn Jwda wyt ti; achos ohonot ti daw un i deyrnasu, un fydd yn fugail i arwain fy mhobl Israel.’” | |
Matt | WelBeibl | 2:7 | Ar ôl cael gwybod hyn, dyma Herod yn galw'r gwŷr doeth i gyfarfod preifat. Cafodd wybod ganddyn nhw pryd yn union oedd y seren wedi ymddangos. | |
Matt | WelBeibl | 2:8 | Yna dwedodd, “Ewch i Bethlehem i chwilio am y plentyn. A gadewch i mi wybod pan ddewch o hyd iddo, er mwyn i mi gael mynd i dalu teyrnged iddo hefyd.” | |
Matt | WelBeibl | 2:9 | Ar ôl gwrando beth oedd gan y brenin i'w ddweud, i ffwrdd â nhw. Dyma'r seren yn mynd o'u blaen, nes iddi aros uwchben yr union fan lle roedd y plentyn. | |
Matt | WelBeibl | 2:11 | Pan aethon nhw i mewn i'r tŷ, dyna lle roedd y plentyn gyda'i fam, Mair, a dyma nhw'n disgyn ar eu gliniau o'i flaen a'i addoli. Yna dyma nhw'n agor eu paciau a rhoi anrhegion gwerthfawr iddo – aur a thus a myrr | |
Matt | WelBeibl | 2:12 | Rhybuddiodd Duw nhw mewn breuddwyd i beidio mynd yn ôl at Herod, felly dyma'r gwŷr doeth yn teithio yn ôl i'w gwlad eu hunain ar hyd ffordd wahanol. | |
Matt | WelBeibl | 2:13 | Ar ôl iddyn nhw fynd, cafodd Joseff freuddwyd arall. Gwelodd angel Duw yn dweud wrtho, “Rhaid i chi ddianc ar unwaith! Dos â'r plentyn a'i fam i'r Aifft, ac aros yno nes i mi ddweud ei bod yn saff i chi ddod yn ôl. Mae Herod yn ceisio dod o hyd i'r plentyn er mwyn ei ladd.” | |
Matt | WelBeibl | 2:15 | Buon nhw yn yr Aifft nes oedd Herod wedi marw. Felly daeth beth ddwedodd yr Arglwydd drwy'r proffwyd yn wir: “Galwais fy mab allan o'r Aifft.” | |
Matt | WelBeibl | 2:16 | Aeth Herod yn wyllt gynddeiriog pan sylweddolodd fod y gwŷr doeth wedi'i dwyllo. Anfonodd filwyr i Bethlehem a'r cylch i ladd pob bachgen bach dan ddwyflwydd oed – hynny ar sail beth oedd y gwŷr doeth wedi'i ddweud wrtho am y dyddiad y daeth y seren i'r golwg. | |
Matt | WelBeibl | 2:18 | “Mae cri i'w chlywed yn Rama, sŵn wylo chwerw a galaru mawr – Rachel yn crio am ei phlant. Mae'n gwrthod cael ei chysuro, am eu bod nhw wedi mynd.” | |
Matt | WelBeibl | 2:19 | Pan fuodd Herod farw, cafodd Joseff freuddwyd arall yn yr Aifft. Gwelodd angel yr Arglwydd | |
Matt | WelBeibl | 2:20 | yn dweud wrtho, “Dos â'r plentyn a'i fam yn ôl i wlad Israel. Mae'r bobl oedd am ei ladd wedi marw.” | |
Matt | WelBeibl | 2:22 | Ond pan glywodd Joseff mai Archelaus, mab Herod, oedd llywodraethwr newydd Jwdea, roedd ganddo ofn mynd yno. Cafodd ei rybuddio mewn breuddwyd eto, a throdd i gyfeiriad Galilea, | |