Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
MATTHEW
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 18
Matt WelBeibl 18:1  Bryd hynny daeth y disgyblion at Iesu a gofyn iddo, “Pwy ydy'r pwysica yn nheyrnas yr Un nefol?”
Matt WelBeibl 18:2  Galwodd blentyn bach ato, a'i osod yn y canol o'u blaenau,
Matt WelBeibl 18:3  ac yna dwedodd: “Credwch chi fi, os na newidiwch chi i fod fel plant bach, fyddwch chi byth yn un o'r rhai mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.
Matt WelBeibl 18:4  Felly, pwy bynnag sy'n gweld ei hun yn fach, fel y plentyn yma, ydy'r pwysica yn nheyrnas yr Un nefol.
Matt WelBeibl 18:5  Ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i blentyn bach fel yma am ei fod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi.
Matt WelBeibl 18:6  Ond pwy bynnag sy'n gwneud i un o'r rhai bach yma sy'n credu ynof fi bechu, byddai'n well i'r person hwnnw gael maen melin wedi'i rwymo am ei wddf, ac iddo foddi yn eigion y môr.
Matt WelBeibl 18:7  “Gwae'r sawl sy'n achosi i bobl eraill bechu! Mae temtasiynau yn siŵr o ddod, ond gwae'r sawl fydd yn gwneud y temtio!
Matt WelBeibl 18:8  Os ydy dy law neu dy droed yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd a'i thaflu ymaith. Mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd newydd wedi dy anafu neu'n gloff, na bod â dwy law a dwy droed a chael dy daflu i'r tân tragwyddol!
Matt WelBeibl 18:9  Ac os ydy dy lygad yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan a'i thaflu i ffwrdd. Mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd newydd gyda dim ond un llygad na bod dwy gen ti a chael dy daflu i dân uffern.
Matt WelBeibl 18:10  “Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn edrych i lawr ar un o'r rhai bach yma. Wir i chi, mae'r angylion sy'n eu gwarchod nhw yn gallu mynd i bresenoldeb fy Nhad yn y nefoedd unrhyw bryd.
Matt WelBeibl 18:12  “Beth ydych chi'n feddwl? Meddyliwch am ddyn a chant o ddefaid ganddo, a bod un ohonyn nhw'n crwydro i ffwrdd. Oni fyddai'n gadael y naw deg naw ar y bryniau ac yn mynd i chwilio am yr un sydd ar goll?
Matt WelBeibl 18:13  Credwch chi fi, os daw o hyd iddi, mae'r un ddafad yna yn rhoi mwy o lawenydd iddo na'r naw deg naw wnaeth ddim mynd ar goll!
Matt WelBeibl 18:14  Yr un fath, dydy'ch Tad yn y nefoedd ddim am i unrhyw un o'r rhai bach yma gael eu colli.
Matt WelBeibl 18:15  “Os ydy crediniwr arall yn pechu yn dy erbyn, dos i siarad ag e am y peth wyneb yn wyneb – paid dweud wrth neb arall. Os bydd yn gwrando arnat byddi wedi adfer y berthynas rhyngoch.
Matt WelBeibl 18:16  Ond os fydd e ddim yn gwrando arnat, dos ag un neu ddau o bobl gyda ti, am fod ‘rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir.’
Matt WelBeibl 18:17  Os bydd yn dal i wrthod gwrando, dos â'r mater o flaen yr eglwys. Ac os bydd hyd yn oed yn gwrthod gwrando ar yr eglwys, yna dylid ei drin fel pagan neu'r rhai sy'n casglu trethi i Rufain!
Matt WelBeibl 18:18  “Credwch chi fi, bydd pa bethau bynnag dych chi'n eu rhwystro ar y ddaear wedi'u rhwystro yn y nefoedd, a bydd pa bethau bynnag dych chi'n eu caniatáu ar y ddaear wedi'u caniatáu yn y nefoedd.
Matt WelBeibl 18:19  “A pheth arall hefyd: Pan mae dau ohonoch chi ar y ddaear yn cytuno i ofyn am arweiniad wrth ddelio ag unrhyw fater, bydd fy Nhad yn y nefoedd yn ei roi i chi.
Matt WelBeibl 18:20  Pan mae dau neu dri sy'n perthyn i mi wedi dod at ei gilydd, dw i yna gyda nhw.”
Matt WelBeibl 18:21  Gofynnodd Pedr i Iesu, “Arglwydd, sawl gwaith ddylwn i faddau i frawd neu chwaer sy'n dal ati i bechu yn fy erbyn? Gymaint â saith gwaith?”
Matt WelBeibl 18:22  Atebodd Iesu, “Na, wir i ti, dim saith gwaith, ond o leia saith deg saith gwaith!
Matt WelBeibl 18:23  “Dyna sut mae'r Un nefol yn teyrnasu – mae fel brenin oedd wedi benthyg arian i'w swyddogion, ac am archwilio'r cyfrifon.
Matt WelBeibl 18:24  Roedd newydd ddechrau ar y gwaith pan ddaethon nhw â dyn o'i flaen oedd mewn dyled o filiynau lawer iddo.
Matt WelBeibl 18:25  Doedd y swyddog ddim yn gallu talu'r ddyled, felly gorchmynnodd y meistr i'r dyn a'i wraig a'i blant gael eu gwerthu yn gaethweision, a bod y cwbl o'i eiddo i gael ei werthu hefyd, i dalu'r ddyled.
Matt WelBeibl 18:26  “Syrthiodd y dyn ar ei liniau o'i flaen, a phledio, ‘Rho amser i mi, ac fe dalaf i'r cwbl yn ôl i ti.’
Matt WelBeibl 18:27  Felly am ei fod yn teimlo trueni drosto, dyma'r meistr yn canslo'r ddyled gyfan a gadael iddo fynd yn rhydd.
Matt WelBeibl 18:28  Ond pan aeth y dyn allan, daeth ar draws un o'i gydweithwyr oedd mewn dyled fechan iddo. Gafaelodd ynddo a dechrau ei dagu, gan ddweud ‘Pryd wyt ti'n mynd i dalu dy ddyled i mi?’
Matt WelBeibl 18:29  Dyma'r cydweithiwr yn syrthio ar ei liniau a chrefu, ‘Rho amser i mi, ac fe dalaf i'r cwbl yn ôl i ti.’
Matt WelBeibl 18:30  Ond gwrthododd y dyn wrando arno. Yn lle hynny, aeth â'r mater at yr awdurdodau, a chafodd ei gydweithiwr ei daflu i'r carchar nes gallai dalu'r ddyled.
Matt WelBeibl 18:31  “Roedd y gweision eraill wedi ypsetio'n fawr pan welon nhw beth ddigwyddodd, a dyma nhw'n mynd ac yn dweud y cwbl wrth y brenin.
Matt WelBeibl 18:32  Felly dyma'r brenin yn galw'r dyn yn ôl. ‘Y cnaf drwg!’ meddai wrtho, ‘wnes i ganslo dy ddyled di yn llwyr am i ti grefu mor daer o mlaen i.
Matt WelBeibl 18:33  Ddylet ti ddim maddau i dy gydweithiwr fel gwnes i faddau i ti?’
Matt WelBeibl 18:34  Roedd y brenin yn gandryll, felly gorchmynnodd daflu'r swyddog i'r carchar i gael ei arteithio nes iddo dalu'r cwbl o'r ddyled yn ôl.
Matt WelBeibl 18:35  “Dyna sut fydd fy Nhad nefol yn delio gyda chi os na wnewch chi faddau'n llwyr i'ch gilydd.”