Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
MATTHEW
Prev Up Next
Chapter 11
Matt WelBeibl 11:1  Pan oedd Iesu wedi gorffen dysgu ei ddeuddeg disgybl, aeth yn ei flaen ar ei daith o gwmpas trefi Galilea yn dysgu ac yn pregethu.
Matt WelBeibl 11:2  Pan glywodd Ioan Fedyddiwr, oedd yn y carchar, beth oedd Crist yn ei wneud, anfonodd ei ddisgyblion
Matt WelBeibl 11:3  i ofyn iddo, “Ai ti ydy'r Meseia sydd i ddod, neu ddylen ni ddisgwyl rhywun arall?”
Matt WelBeibl 11:4  Ateb Iesu oedd, “Ewch yn ôl a dweud wrth Ioan beth dych chi wedi'i glywed a'i weld:
Matt WelBeibl 11:5  Mae pobl ddall yn cael gweld, pobl gloff yn cerdded, pobl sy'n dioddef o'r gwahanglwyf yn cael eu hiacháu, pobl fyddar yn clywed, a phobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw. Ac mae'r newyddion da yn cael ei gyhoeddi i bobl dlawd!
Matt WelBeibl 11:6  Ac un peth arall: Mae bendith fawr i bwy bynnag sydd ddim yn colli hyder ynddo i.”
Matt WelBeibl 11:7  Wrth i ddisgyblion Ioan adael, dechreuodd Iesu siarad â'r dyrfa am Ioan: “Sut ddyn aethoch chi allan i'r anialwch i'w weld? Brwynen wan yn cael ei chwythu i bob cyfeiriad gan y gwynt?
Matt WelBeibl 11:8  Na? Pam aethoch chi allan felly? I weld dyn mewn dillad crand? Wrth gwrs ddim! Mewn palasau mae pobl grand yn byw!
Matt WelBeibl 11:9  Felly, pam aethoch chi allan? I weld proffwyd? Ie, a dw i'n dweud wrthoch chi ei fod e'n fwy na phroffwyd.
Matt WelBeibl 11:10  Dyma'r un mae'r ysgrifau sanctaidd yn sôn amdano: ‘Edrych! – dw i'n anfon fy negesydd o dy flaen di, i baratoi'r ffordd i ti.’
Matt WelBeibl 11:11  Wir i chi, mae Ioan Fedyddiwr yn fwy na neb arall sydd wedi byw erioed. Ac eto mae'r person lleia pwysig yn nheyrnas yr Un nefol yn fwy nag e.
Matt WelBeibl 11:12  Ers i Ioan ddechrau pregethu, mae teyrnas yr Un nefol wedi bod yn torri allan yn rymus, a'r rhai sy'n rhuthro trwodd yn cael gafael ynddi.
Matt WelBeibl 11:13  Achos roedd yr holl broffwydi a Chyfraith Moses yn sôn am y peth fel rhywbeth oedd i ddigwydd yn y dyfodol, nes i Ioan ddod i'r golwg.
Matt WelBeibl 11:14  Felly, os dych chi'n fodlon derbyn y peth, fe ydy'r Elias oedd i ddod.
Matt WelBeibl 11:15  Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu.
Matt WelBeibl 11:16  “Sut mae disgrifio'r genhedlaeth yma? Mae hi fel plant yn eistedd yn sgwâr y farchnad yn cwyno am ei gilydd fel hyn:
Matt WelBeibl 11:17  ‘Roedden ni'n chwarae priodas, ond wnaethoch chi ddim dawnsio; Roedden ni'n chwarae angladd, ond wnaethoch chi ddim galaru.’
Matt WelBeibl 11:18  Am fod Ioan ddim yn bwyta nac yn yfed fel pawb arall, roedden nhw'n dweud, ‘Mae yna gythraul ynddo.’
Matt WelBeibl 11:19  Ond wedyn dyma fi, Mab y Dyn yn dod, yn bwyta ac yn yfed, a maen nhw'n dweud, ‘Y bolgi! Meddwyn sy'n diota a stwffio'i hun ydy e! Ffrind i'r twyllwyr sy'n casglu trethi i Rufain ac i bechaduriaid eraill!’ Gallwch nabod doethineb go iawn yn ôl pa mor gyson ydy'r dadleuon!”
Matt WelBeibl 11:20  Dechreuodd Iesu feirniadu pobl y trefi hynny lle gwnaeth y rhan fwyaf o'i wyrthiau, am eu bod heb droi at Dduw.
Matt WelBeibl 11:21  “Gwae ti, Chorasin! Gwae ti, Bethsaida! Petai'r gwyrthiau wnes i ynoch chi wedi digwydd yn Tyrus a Sidon, byddai'r bobl yno wedi hen ddangos eu bod yn edifar drwy wisgo sachliain a thaflu lludw ar eu pennau.
Matt WelBeibl 11:22  Wir i chi, bydd hi'n well ar Tyrus a Sidon ar ddydd y farn nag arnoch chi!
Matt WelBeibl 11:23  A beth amdanat ti, Capernaum? Wyt ti'n meddwl y byddi di'n cael dy anrhydeddu? Na, byddi di'n cael dy fwrw i lawr i'r dyfnder tywyll! Petai'r gwyrthiau wnes i ynot ti wedi digwydd yn Sodom, byddai Sodom yn dal yma heddiw!
Matt WelBeibl 11:24  Wir i chi, bydd hi'n well ar Sodom ar ddydd y farn nag arnat ti!”
Matt WelBeibl 11:25  Bryd hynny dyma Iesu'n dweud, “Fy Nhad, Arglwydd y nefoedd a'r ddaear. Diolch i ti am guddio'r pethau yma oddi wrth y bobl sy'n meddwl eu bod nhw mor ddoeth a chlyfar, a'u dangos i rai sy'n agored fel plant bach.
Matt WelBeibl 11:27  “Mae fy Nhad wedi rhoi popeth yn fy ngofal i. Does neb yn nabod y Mab go iawn ond y Tad, a does neb yn nabod y Tad go iawn ond y Mab, a'r rhai hynny mae'r Mab wedi dewis ei ddangos iddyn nhw.
Matt WelBeibl 11:28  “Dewch ata i, bawb sy'n cael eich llethu gan feichiau trwm, a rhof i orffwys i chi.
Matt WelBeibl 11:29  Dewch gyda mi o dan fy iau, er mwyn i chi ddysgu gen i. Dw i'n addfwyn ac yn ostyngedig, a chewch chi orffwys.
Matt WelBeibl 11:30  Mae fy iau i yn gyfforddus a dw i ddim yn gosod beichiau trwm ar bobl.”