MATTHEW
Chapter 11
Matt | WelBeibl | 11:1 | Pan oedd Iesu wedi gorffen dysgu ei ddeuddeg disgybl, aeth yn ei flaen ar ei daith o gwmpas trefi Galilea yn dysgu ac yn pregethu. | |
Matt | WelBeibl | 11:2 | Pan glywodd Ioan Fedyddiwr, oedd yn y carchar, beth oedd Crist yn ei wneud, anfonodd ei ddisgyblion | |
Matt | WelBeibl | 11:3 | i ofyn iddo, “Ai ti ydy'r Meseia sydd i ddod, neu ddylen ni ddisgwyl rhywun arall?” | |
Matt | WelBeibl | 11:4 | Ateb Iesu oedd, “Ewch yn ôl a dweud wrth Ioan beth dych chi wedi'i glywed a'i weld: | |
Matt | WelBeibl | 11:5 | Mae pobl ddall yn cael gweld, pobl gloff yn cerdded, pobl sy'n dioddef o'r gwahanglwyf yn cael eu hiacháu, pobl fyddar yn clywed, a phobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw. Ac mae'r newyddion da yn cael ei gyhoeddi i bobl dlawd! | |
Matt | WelBeibl | 11:6 | Ac un peth arall: Mae bendith fawr i bwy bynnag sydd ddim yn colli hyder ynddo i.” | |
Matt | WelBeibl | 11:7 | Wrth i ddisgyblion Ioan adael, dechreuodd Iesu siarad â'r dyrfa am Ioan: “Sut ddyn aethoch chi allan i'r anialwch i'w weld? Brwynen wan yn cael ei chwythu i bob cyfeiriad gan y gwynt? | |
Matt | WelBeibl | 11:8 | Na? Pam aethoch chi allan felly? I weld dyn mewn dillad crand? Wrth gwrs ddim! Mewn palasau mae pobl grand yn byw! | |
Matt | WelBeibl | 11:9 | Felly, pam aethoch chi allan? I weld proffwyd? Ie, a dw i'n dweud wrthoch chi ei fod e'n fwy na phroffwyd. | |
Matt | WelBeibl | 11:10 | Dyma'r un mae'r ysgrifau sanctaidd yn sôn amdano: ‘Edrych! – dw i'n anfon fy negesydd o dy flaen di, i baratoi'r ffordd i ti.’ | |
Matt | WelBeibl | 11:11 | Wir i chi, mae Ioan Fedyddiwr yn fwy na neb arall sydd wedi byw erioed. Ac eto mae'r person lleia pwysig yn nheyrnas yr Un nefol yn fwy nag e. | |
Matt | WelBeibl | 11:12 | Ers i Ioan ddechrau pregethu, mae teyrnas yr Un nefol wedi bod yn torri allan yn rymus, a'r rhai sy'n rhuthro trwodd yn cael gafael ynddi. | |
Matt | WelBeibl | 11:13 | Achos roedd yr holl broffwydi a Chyfraith Moses yn sôn am y peth fel rhywbeth oedd i ddigwydd yn y dyfodol, nes i Ioan ddod i'r golwg. | |
Matt | WelBeibl | 11:16 | “Sut mae disgrifio'r genhedlaeth yma? Mae hi fel plant yn eistedd yn sgwâr y farchnad yn cwyno am ei gilydd fel hyn: | |
Matt | WelBeibl | 11:17 | ‘Roedden ni'n chwarae priodas, ond wnaethoch chi ddim dawnsio; Roedden ni'n chwarae angladd, ond wnaethoch chi ddim galaru.’ | |
Matt | WelBeibl | 11:18 | Am fod Ioan ddim yn bwyta nac yn yfed fel pawb arall, roedden nhw'n dweud, ‘Mae yna gythraul ynddo.’ | |
Matt | WelBeibl | 11:19 | Ond wedyn dyma fi, Mab y Dyn yn dod, yn bwyta ac yn yfed, a maen nhw'n dweud, ‘Y bolgi! Meddwyn sy'n diota a stwffio'i hun ydy e! Ffrind i'r twyllwyr sy'n casglu trethi i Rufain ac i bechaduriaid eraill!’ Gallwch nabod doethineb go iawn yn ôl pa mor gyson ydy'r dadleuon!” | |
Matt | WelBeibl | 11:20 | Dechreuodd Iesu feirniadu pobl y trefi hynny lle gwnaeth y rhan fwyaf o'i wyrthiau, am eu bod heb droi at Dduw. | |
Matt | WelBeibl | 11:21 | “Gwae ti, Chorasin! Gwae ti, Bethsaida! Petai'r gwyrthiau wnes i ynoch chi wedi digwydd yn Tyrus a Sidon, byddai'r bobl yno wedi hen ddangos eu bod yn edifar drwy wisgo sachliain a thaflu lludw ar eu pennau. | |
Matt | WelBeibl | 11:23 | A beth amdanat ti, Capernaum? Wyt ti'n meddwl y byddi di'n cael dy anrhydeddu? Na, byddi di'n cael dy fwrw i lawr i'r dyfnder tywyll! Petai'r gwyrthiau wnes i ynot ti wedi digwydd yn Sodom, byddai Sodom yn dal yma heddiw! | |
Matt | WelBeibl | 11:25 | Bryd hynny dyma Iesu'n dweud, “Fy Nhad, Arglwydd y nefoedd a'r ddaear. Diolch i ti am guddio'r pethau yma oddi wrth y bobl sy'n meddwl eu bod nhw mor ddoeth a chlyfar, a'u dangos i rai sy'n agored fel plant bach. | |
Matt | WelBeibl | 11:27 | “Mae fy Nhad wedi rhoi popeth yn fy ngofal i. Does neb yn nabod y Mab go iawn ond y Tad, a does neb yn nabod y Tad go iawn ond y Mab, a'r rhai hynny mae'r Mab wedi dewis ei ddangos iddyn nhw. | |
Matt | WelBeibl | 11:28 | “Dewch ata i, bawb sy'n cael eich llethu gan feichiau trwm, a rhof i orffwys i chi. | |
Matt | WelBeibl | 11:29 | Dewch gyda mi o dan fy iau, er mwyn i chi ddysgu gen i. Dw i'n addfwyn ac yn ostyngedig, a chewch chi orffwys. | |