Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
MATTHEW
Prev Up Next
Chapter 5
Matt WelBeibl 5:1  Pan welodd Iesu yr holl dyrfaoedd, aeth i fyny i ben y mynydd. Pan eisteddodd i lawr, daeth ei ddilynwyr ato,
Matt WelBeibl 5:3  “Mae'r rhai sy'n teimlo'n dlawd ac annigonol wedi'u bendithio'n fawr, oherwydd mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.
Matt WelBeibl 5:4  Mae'r rhai sy'n galaru wedi'u bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n cael eu cysuro.
Matt WelBeibl 5:5  Mae'r rhai addfwyn sy'n cael eu gorthrymu wedi'u bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n etifeddu'r ddaear.
Matt WelBeibl 5:6  Mae'r rhai sy'n llwgu a sychedu am gyfiawnder wedi'u bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n cael eu bodloni'n llwyr.
Matt WelBeibl 5:7  Mae'r rhai sy'n dangos trugaredd wedi'u bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n cael profi trugaredd eu hunain.
Matt WelBeibl 5:8  Mae'r rhai sydd â chalon bur wedi'u bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n cael gweld Duw.
Matt WelBeibl 5:9  Mae'r rhai sy'n hyrwyddo heddwch wedi'u bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n cael eu galw'n blant Duw.
Matt WelBeibl 5:10  Mae'r rhai sy'n dioddef erledigaeth am eu bod yn byw'n gyfiawn wedi'u bendithio'n fawr, oherwydd mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.
Matt WelBeibl 5:11  “Pan fydd pobl yn eich sarhau chi, a'ch erlid, ac yn dweud pethau drwg amdanoch chi am eich bod yn perthyn i mi, dych chi wedi'ch bendithio'n fawr!
Matt WelBeibl 5:12  Byddwch yn llawen! Mwynhewch er gwaetha'r cwbl, achos mae gan Dduw yn y nefoedd wobr fawr i chi. Cofiwch fod y proffwydi oedd yn byw ers talwm wedi cael eu herlid yn union yr un fath!
Matt WelBeibl 5:13  “Chi ydy halen y ddaear. Ond pan mae'r halen wedi colli ei flas pa obaith sydd i'w wneud yn hallt eto? Dydy e'n dda i ddim ond i'w daflu i ffwrdd a'i sathru dan draed.
Matt WelBeibl 5:14  “Chi ydy'r golau sydd yn y byd. Mae'n amhosib cuddio dinas sydd wedi'i hadeiladu ar ben bryn.
Matt WelBeibl 5:15  A does neb yn goleuo lamp i'w gosod o dan fowlen! Na, dych chi'n gosod lamp ar fwrdd er mwyn iddi roi golau i bawb yn y tŷ.
Matt WelBeibl 5:16  Dyna sut dylai'ch golau chi ddisgleirio, er mwyn i bobl foli'ch Tad yn y nefoedd wrth weld y pethau da dych chi'n eu gwneud.
Matt WelBeibl 5:17  “Peidiwch meddwl fy mod i wedi dod i gael gwared â Chyfraith Moses ac ysgrifau'r Proffwydi. Dim o gwbl! Dw i wedi dod i ddangos beth maen nhw'n ei olygu.
Matt WelBeibl 5:18  Credwch chi fi, fydd dim un llythyren na manylyn lleia o'r Gyfraith yn cael ei ddileu nes bydd y nefoedd a'r ddaear yn diflannu. Rhaid i'r cwbl ddigwydd gyntaf.
Matt WelBeibl 5:19  Bydd pwy bynnag sy'n torri'r gorchymyn lleia, ac yn dysgu pobl eraill i wneud yr un peth, yn cael ei ystyried y lleia yn y deyrnas nefol. Ond bydd pwy bynnag sy'n byw yn ufudd i'r gorchmynion ac yn dysgu eraill i wneud hynny, yn cael ei ystyried y mwya yn y deyrnas nefol.
Matt WelBeibl 5:20  Dw i'n dweud hyn – os fyddwch chi ddim yn byw'n fwy cyfiawn na'r Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith, fyddwch chi byth yn un o'r rhai mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.
Matt WelBeibl 5:21  “Dych chi wedi clywed beth oedd yn cael ei ddweud wrth bobl ers talwm: ‘Paid llofruddio’ (ac y bydd pawb sy'n llofruddio rhywun yn euog ac yn cael eu barnu).
Matt WelBeibl 5:22  Ond dw i'n dweud wrthoch chi fod y sawl sy'n gwylltio gyda rhywun arall yn euog ac yn cael ei farnu. Os ydy rhywun yn sarhau ei gyfaill drwy ei alw'n idiot, mae'n atebol i'r Sanhedrin. Ac os bydd rhywun yn dweud ‘y diawl dwl’ wrth rywun arall, mae mewn perygl o losgi yn nhân uffern.
Matt WelBeibl 5:23  “Felly, os wyt ti wrth yr allor yn y deml yn addoli Duw, ac yn cofio yno fod gan rhywun gŵyn yn dy erbyn,
Matt WelBeibl 5:24  gad dy offrwm yno. Dos i wneud pethau'n iawn gyda nhw'n gyntaf; cei di gyflwyno dy offrwm i Dduw wedyn.
Matt WelBeibl 5:25  “Os bydd rhywun yn dy gyhuddo o rywbeth ac yn mynd â ti i'r llys, setla'r mater ar unwaith cyn cyrraedd y llys. Ydy'n well gen ti iddo fynd â ti o flaen y barnwr, ac i'r barnwr orchymyn i swyddog dy roi yn y carchar?
Matt WelBeibl 5:26  Cred di fi, chei di ddim dy ryddhau nes byddi wedi talu pob ceiniog.
Matt WelBeibl 5:27  “Dych chi wedi clywed beth oedd yn cael ei ddweud, ‘Paid godinebu’
Matt WelBeibl 5:28  Ond dw i'n dweud wrthoch chi fod unrhyw ddyn sy'n llygadu gwraig a'i feddwl ar ryw eisoes wedi cyflawni godineb gyda hi.
Matt WelBeibl 5:29  Os ydy dy lygad orau yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan a'i thaflu i ffwrdd. Mae'n well i ti golli rhan fach o dy gorff nag i dy gorff cyfan gael ei daflu i uffern.
Matt WelBeibl 5:30  Ac os ydy dy law gryfaf yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd a'i thaflu ymaith. Mae'n well i ti golli rhan o dy gorff nag i dy gorff cyfan gael ei daflu i uffern.
Matt WelBeibl 5:31  “Mae wedi cael ei ddweud, ‘Rhaid i bwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig roi tystysgrif ysgariad iddi.’
Matt WelBeibl 5:32  Ond dw i'n dweud wrthoch chi fod dyn sy'n ysgaru ei wraig am unrhyw reswm ond ei bod hi wedi bod yn anffyddlon iddo, yn gwneud iddi hi odinebu. Hefyd mae dyn sy'n priodi gwraig sydd wedi cael ysgariad yn godinebu.
Matt WelBeibl 5:33  “Dych chi hefyd wedi clywed i hyn gael ei ddweud wrth bobl ers talwm: ‘Paid gwneud llw, ac wedyn ei dorri. Rhaid cadw pob llw wyt ti wedi'i wneud i'r Arglwydd.’
Matt WelBeibl 5:34  Ond dw i'n dweud wrthoch chi, Peidiwch tyngu llw o gwbl: ddim i'r nefoedd, am mai dyna orsedd Duw;
Matt WelBeibl 5:35  nac i'r ddaear, y stôl iddo orffwys ei draed arni; nac i Jerwsalem, am mai hi ydy dinas Duw, y Brenin Mawr.
Matt WelBeibl 5:36  Peidiwch tyngu llw hyd yn oed i'ch pen eich hun, oherwydd allwch chi ddim troi un blewyn yn ddu neu'n wyn.
Matt WelBeibl 5:37  Yn lle hynny, dwedwch y gwir bob amser – dylai dweud ‘Ie’ olygu ‘Ie’, a dweud ‘Na’ olygu ‘Na’. Y diafol sy'n gwneud i chi fod eisiau dweud mwy na hynny.
Matt WelBeibl 5:38  “Dych chi wedi clywed fod hyn yn cael ei ddweud, ‘Llygad am lygad, a dant am ddant.’
Matt WelBeibl 5:39  Ond dw i'n dweud wrthoch chi: Peidiwch ceisio talu'n ôl. Os ydy rhywun yn rhoi clatsien i ti ar dy foch dde, cynnig y foch arall iddo.
Matt WelBeibl 5:40  Ac os ydy rhywun am dy siwio a chymryd dy grys, rho dy gôt iddo hefyd.
Matt WelBeibl 5:41  Os ydy milwr Rhufeinig yn dy orfodi i gario ei bac am un filltir, dos di ddwy.
Matt WelBeibl 5:42  Rho i bwy bynnag sy'n gofyn i ti am rywbeth, a phaid gwrthod y sawl sydd eisiau benthyg rhywbeth gen ti.
Matt WelBeibl 5:43  “Dych chi wedi clywed i hyn gael ei ddweud: ‘Rwyt i garu dy gymydog’ (ac ‘i gasáu dy elyn’).
Matt WelBeibl 5:44  Ond dw i'n dweud wrthoch chi: Carwch eich gelynion a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid chi!
Matt WelBeibl 5:45  Wedyn byddwch yn dangos eich bod yn blant i'ch Tad yn y nefoedd, am mai dyna'r math o beth mae e'n ei wneud – mae'n gwneud i'r haul dywynnu ar y drwg a'r da, ac yn rhoi glaw i'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn a'r rhai sydd ddim.
Matt WelBeibl 5:46  Pam dylech chi gael gwobr am garu'r bobl hynny sy'n eich caru chi? Onid ydy hyd yn oed y rhai sy'n casglu trethi i Rufain yn gwneud cymaint â hynny?
Matt WelBeibl 5:47  Ac os mai dim ond eich teip chi o bobl dych chi'n eu cyfarch, beth dych chi'n ei wneud sy'n wahanol? Mae hyd yn oed y paganiaid yn gwneud hynny!
Matt WelBeibl 5:48  Ond rhaid i chi fod yn berffaith, yn union fel mae'ch Tad nefol yn berffaith.