MATTHEW
Chapter 23
Matt | WelBeibl | 23:3 | ac wrth gwrs ‘Dylech chi wrando arnyn nhw a gwneud popeth maen nhw'n ei ddweud.’ Ond peidiwch dilyn eu hesiampl nhw – dŷn nhw ddim yn byw beth maen nhw'n ei bregethu. | |
Matt | WelBeibl | 23:4 | Maen nhw'n gosod beichiau trwm eu rheolau crefyddol ar ysgwyddau pobl, ond wnân nhw ddim codi bys bach i helpu pobl i gario'r baich. | |
Matt | WelBeibl | 23:5 | “Maen nhw'n gwneud popeth er mwyn dangos eu hunain. Maen nhw'n gwneud yn siŵr fod y blychau gweddi ar eu breichiau a'u talcennau yn amlwg, a'r taselau hir ar eu clogyn yn dangos mor dduwiol ydyn nhw. | |
Matt | WelBeibl | 23:6 | Maen nhw wrth eu bodd yn cael y seddi gorau mewn gwleddoedd a'r seddi pwysica yn y synagogau, | |
Matt | WelBeibl | 23:7 | a chael pobl yn symud o'u ffordd a'u cyfarch yn barchus yn sgwâr y farchnad, a'u galw yn ‛Rabbi‛. | |
Matt | WelBeibl | 23:8 | “Peidiwch chi â gadael i neb eich galw'n ‛Rabbi‛. Dim ond un athro sydd gynnoch chi, a dych chi i gyd yn gydradd, fel brodyr a chwiorydd i'ch gilydd. | |
Matt | WelBeibl | 23:9 | A pheidiwch rhoi'r teitl anrhydedd ‛Y tad‛ i neb. Duw yn y nefoedd ydy'ch Tad chi. | |
Matt | WelBeibl | 23:10 | A pheidiwch gadael i neb eich galw'n ‛meistr‛ chwaith. Un meistr sydd gynnoch chi, a'r Meseia ydy hwnnw. | |
Matt | WelBeibl | 23:12 | Bydd pwy bynnag sy'n gwthio ei hun i'r top yn cael ei dynnu i lawr, a phwy bynnag sy'n gwasanaethu eraill yn cael dyrchafiad. | |
Matt | WelBeibl | 23:13 | “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n cau drws yn wyneb pobl, a'u rhwystro rhag dod dan deyrnasiad yr Un nefol. Dych chi'ch hunain ddim yn mynd i mewn, nac yn fodlon gadael i unrhyw un sydd am fynd i mewn gael mynediad. | |
Matt | WelBeibl | 23:15 | “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n barod i deithio dros fôr a thir i gael un person i gredu yr un fath â chi. Wrth wneud hynny dych chi'n ei droi'n blentyn uffern – ddwywaith gwaeth na chi'ch hunain! | |
Matt | WelBeibl | 23:16 | “Gwae chi! Arweinwyr dall ydych chi! Er enghraifft, dych chi'n dweud: ‘Os ydy rhywun yn enwi'r deml wrth dyngu llw, dydy'r llw ddim yn ddilys; ond os ydy rhywun yn enwi trysor y deml, mae wedi'i rwymo gan ei lw.’ | |
Matt | WelBeibl | 23:17 | Y ffyliaid dall! Pa un ydy'r pwysica – y trysor, neu'r deml sy'n gwneud y trysor yn gysegredig? | |
Matt | WelBeibl | 23:18 | “Dyma enghraifft arall: ‘Os ydy rhywun yn enwi'r allor wrth dyngu llw, dydy'r llw ddim yn ddilys; ond os ydy rhywun yn enwi'r offrwm ar yr allor, mae wedi'i rwymo gan ei lw.’ | |
Matt | WelBeibl | 23:19 | Dych chi mor ddall! Pa un ydy'r pwysica – yr offrwm, neu'r allor sy'n gwneud yr offrwm yn gysegredig? | |
Matt | WelBeibl | 23:20 | Os ydy rhywun yn enwi'r allor wrth dyngu llw, mae hynny'n cynnwys popeth sydd arni hefyd! | |
Matt | WelBeibl | 23:21 | Ac os ydy rhywun yn enwi'r deml wrth dyngu llw, mae hefyd yn cyfeirio at Dduw, sy'n bresennol yn y deml. | |
Matt | WelBeibl | 23:22 | Ac os ydy rhywun yn enwi'r nefoedd wrth dyngu llw, mae'n cyfeirio at orsedd Duw, ac at Dduw ei hun, sy'n eistedd arni. | |
Matt | WelBeibl | 23:23 | “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n ofalus iawn gyda rhyw fanion fel rhoi un rhan o ddeg o beth sydd gynnoch chi i Dduw – hyd yn oed perlysiau fel mintys, anis a chwmin! Ond dych chi'n talu dim sylw i faterion pwysica'r Gyfraith – byw'n gyfiawn, bod yn drugarog ac yn ffyddlon i Dduw. Dylech chi wneud y pethau pwysica yma heb ddiystyru'r pethau eraill. | |
Matt | WelBeibl | 23:24 | Arweinwyr dall ydych chi! Dych chi'n hidlo dŵr rhag i chi lyncu gwybedyn, ond yna'n llyncu camel! | |
Matt | WelBeibl | 23:25 | “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n glanhau'r tu allan i'r gwpan neu'r ddysgl, ond cawsoch chi'r bwyd a'r diod oedd ynddyn nhw drwy drais a hunanoldeb. | |
Matt | WelBeibl | 23:26 | Y Pharisead dall! Glanha'r tu mewn i'r gwpan neu'r ddysgl gyntaf; wedyn bydd y tu allan yn lân hefyd. | |
Matt | WelBeibl | 23:27 | “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi fel beddau wedi'u gwyngalchu. Mae'r cwbl yn edrych yn ddel iawn ar y tu allan, ond y tu mewn maen nhw'n llawn o esgyrn pobl wedi marw a phethau afiach eraill. | |
Matt | WelBeibl | 23:28 | Dych chi'r un fath! Ar y tu allan dych chi'n edrych yn bobl dda a duwiol, ond y tu mewn dych chi'n llawn rhagrith a drygioni! | |
Matt | WelBeibl | 23:29 | “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n codi cofgolofnau i anrhydeddu'r proffwydi ac yn gofalu am feddau pobl dduwiol y gorffennol. | |
Matt | WelBeibl | 23:30 | Dych chi'n dweud, ‘Petaen ni'n byw bryd hynny, fydden ni ddim wedi lladd y proffwydi, fel gwnaeth ein cyndeidiau.’ | |
Matt | WelBeibl | 23:31 | Felly, dych chi'n cydnabod eich bod yn ddisgynyddion i'r rhai lofruddiodd y proffwydi. | |
Matt | WelBeibl | 23:33 | “Dych chi fel nythaid o nadroedd gwenwynig! Sut allwch chi osgoi cael eich dedfrydu i uffern? | |
Matt | WelBeibl | 23:34 | Bydda i'n anfon proffwydi atoch chi, a phobl ddoeth ac athrawon. Byddwch yn lladd rhai ohonyn nhw a'u croeshoelio; byddwch yn gwneud i eraill ddioddef drwy eu chwipio yn eich synagogau. Byddwch yn eu herlid o un lle i'r llall. | |
Matt | WelBeibl | 23:35 | Felly, chi fydd yn gyfrifol am yr holl bobl ddiniwed sydd wedi'u lladd ar y ddaear, o Abel (wnaeth ddim o'i le), hyd Sechareia fab Beracheia, gafodd ei lofruddio gynnoch chi rhwng y cysegr a'r allor yn y deml. | |
Matt | WelBeibl | 23:37 | “O! Jerwsalem, Jerwsalem! Y ddinas sy'n lladd y proffwydi a llabyddio'r negeswyr mae Duw'n eu hanfon ati. Mor aml dw i wedi hiraethu am gael casglu dy blant at ei gilydd, fel mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd – ond doedd gen ti ddim diddordeb! | |