MATTHEW
Chapter 20
Matt | WelBeibl | 20:1 | “Dyma sut mae'r Un nefol yn teyrnasu – mae fel meistr tir yn mynd allan gyda'r wawr i gyflogi pobl i weithio yn ei winllan. | |
Matt | WelBeibl | 20:2 | Cyn eu hanfon i'w winllan mae'n cytuno i dalu'r cyflog arferol iddyn nhw o un darn arian am ddiwrnod o waith. | |
Matt | WelBeibl | 20:3 | “Yna, tua naw o'r gloch y bore, aeth allan eto a gweld rhai eraill yn sefyllian o gwmpas sgwâr y farchnad yn gwneud dim byd. | |
Matt | WelBeibl | 20:5 | Felly i ffwrdd â nhw. “Gwnaeth yn union yr un peth pan aeth allan tua chanol dydd, ac eto am dri o'r gloch y p'nawn. | |
Matt | WelBeibl | 20:6 | Hyd yn oed am bump o'r gloch y p'nawn gofynnodd i ryw bobl, ‘Pam dych chi'n sefyllian yma yn gwneud dim byd drwy'r dydd?’ | |
Matt | WelBeibl | 20:7 | “‘Does neb wedi'n cyflogi ni,’ medden nhw. “Felly meddai wrthyn nhw, ‘Ewch i weithio yn y winllan i mi.’ | |
Matt | WelBeibl | 20:8 | “Pan oedd hi wedi mynd yn hwyr galwodd perchennog y winllan ei fforman, ac meddai wrtho, ‘Galw'r gweithwyr draw a thalu eu cyflog iddyn nhw. Dechreua gyda'r rhai olaf i gael eu cyflogi a gorffen gyda'r rhai cyntaf.’ | |
Matt | WelBeibl | 20:9 | “Dyma'r gweithwyr oedd wedi dechrau tua pump o'r gloch y p'nawn yn dod ac yn cael un darn arian bob un. | |
Matt | WelBeibl | 20:10 | Felly pan ddaeth y rhai gafodd eu cyflogi yn gynnar yn y bore, roedden nhw'n disgwyl derbyn mwy. Ond un darn arian gafodd pob un ohonyn nhw hefyd. | |
Matt | WelBeibl | 20:12 | ‘Dim ond am awr weithiodd y rhai olaf yna,’ medden nhw, ‘A dych chi wedi rhoi'r un faint iddyn nhw ag i ni sydd wedi gweithio'n galed drwy'r dydd.’ | |
Matt | WelBeibl | 20:13 | “Ond meddai'r perchennog wrth un ohonyn nhw, ‘Gwranda gyfaill, dw i ddim yn annheg. Gwnest ti gytuno i weithio am y cyflog arferol, hynny ydy un darn arian am ddiwrnod o waith. | |
Matt | WelBeibl | 20:14 | Felly cymer dy gyflog a dos adre. Fy newis i ydy rhoi'r un faint i'r person olaf un i gael ei gyflogi. | |
Matt | WelBeibl | 20:15 | Mae gen i hawl i wneud beth fynna i gyda f'arian fy hun! Ai bod yn hunanol wyt ti am fy mod i'n dewis bod yn hael?’ | |
Matt | WelBeibl | 20:16 | “Felly bydd y rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen a'r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn.” | |
Matt | WelBeibl | 20:17 | Pan oedd Iesu ar ei ffordd i Jerwsalem, aeth â'r deuddeg disgybl i'r naill ochr i gael gair gyda nhw. | |
Matt | WelBeibl | 20:18 | “Pan gyrhaeddwn ni Jerwsalem, bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy mradychu i'r prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith. Byddan nhw'n rhoi dedfryd marwolaeth arna i, | |
Matt | WelBeibl | 20:19 | ac yna'n fy rhoi yn nwylo'r Rhufeiniaid. Bydd y rheiny yn gwneud sbort am fy mhen, fy chwipio a'm croeshoelio. Ond yna ddeuddydd wedyn bydda i'n dod yn ôl yn fyw!” | |
Matt | WelBeibl | 20:20 | Dyma fam Iago ac Ioan, sef gwraig Sebedeus, yn mynd at Iesu gyda'i meibion. Aeth ar ei gliniau o'i flaen i ofyn ffafr ganddo. | |
Matt | WelBeibl | 20:21 | “Beth ga i wneud i chi?” gofynnodd Iesu iddi. Dyma'r fam yn ateb, “Baswn i'n hoffi i'm meibion i gael eistedd bob ochr i ti pan fyddi'n teyrnasu.” | |
Matt | WelBeibl | 20:22 | “Dych chi ddim yn gwybod am beth dych chi'n siarad!” meddai Iesu. “Allwch chi yfed o'r gwpan chwerw dw i'n mynd i yfed ohoni?” “Gallwn,” medden nhw wrtho. | |
Matt | WelBeibl | 20:23 | Dwedodd Iesu, “Byddwch chi'n yfed o'm cwpan i, ond dim fi sydd i ddweud pwy sy'n cael eistedd bob ochr i mi. Mae'r lleoedd hynny wedi'u cadw i bwy bynnag mae fy Nhad wedi'u dewis.” | |
Matt | WelBeibl | 20:24 | Pan glywodd y deg disgybl arall am y peth, roedden nhw'n wyllt gyda'r ddau frawd. | |
Matt | WelBeibl | 20:25 | Ond dyma Iesu'n eu galw nhw i gyd at ei gilydd a dweud, “Dych chi'n gwybod sut mae'r rhai sy'n llywodraethu'r cenhedloedd yn ymddwyn – maen nhw wrth eu bodd yn dangos eu hawdurdod ac yn ei lordio hi dros bobl. | |
Matt | WelBeibl | 20:26 | Ond rhaid i chi fod yn wahanol. Rhaid i'r sawl sydd am arwain ddysgu gwasanaethu, | |
Matt | WelBeibl | 20:28 | Wnes i, hyd yn oed, ddim disgwyl i bobl eraill fy ngwasanaethu i, er mai fi ydy Mab y Dyn; des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu'r pris i ryddhau llawer o bobl.” | |
Matt | WelBeibl | 20:29 | Wrth iddo fynd allan o Jericho gyda'i ddisgyblion, roedd tyrfa fawr yn dilyn Iesu. | |
Matt | WelBeibl | 20:30 | Roedd dau ddyn dall yn cardota ar ochr y ffordd, a phan ddeallodd y ddau ohonyn nhw mai Iesu oedd yn mynd heibio, dyma nhw'n gweiddi, “Helpa ni Fab Dafydd!” | |
Matt | WelBeibl | 20:31 | “Caewch eich cegau!” meddai'r dyrfa wrthyn nhw. Ond yn lle hynny dyma nhw'n gweiddi'n uwch, “Arglwydd! Helpa ni Fab Dafydd!” | |