MATTHEW
Chapter 26
Matt | WelBeibl | 26:2 | “Fel dych chi'n gwybod, mae'n Ŵyl y Pasg nos fory. Bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy mradychu i'm croeshoelio.” | |
Matt | WelBeibl | 26:3 | Yr un pryd, roedd y prif offeiriaid ac arweinwyr Iddewig eraill yn cyfarfod ym mhalas Caiaffas yr archoffeiriad, | |
Matt | WelBeibl | 26:6 | Pan oedd Iesu yn Bethania, aeth am bryd o fwyd i gartref dyn roedd pawb yn ei alw yn ‛Simon y gwahanglwyf‛. | |
Matt | WelBeibl | 26:7 | Roedd yno'n bwyta pan ddaeth gwraig ato gyda jar alabaster hardd yn llawn o bersawr drud, a thywallt y persawr ar ei ben. | |
Matt | WelBeibl | 26:8 | Roedd y disgyblion yn wyllt pan welon nhw hi'n gwneud hyn. “Am wastraff!” medden nhw, | |
Matt | WelBeibl | 26:9 | “Gallai rhywun fod wedi gwerthu'r persawr yna am arian mawr, a rhoi'r cwbl i bobl dlawd.” | |
Matt | WelBeibl | 26:10 | Roedd Iesu'n gwybod beth oedden nhw'n ei ddweud, ac meddai wrthyn nhw, “Gadewch lonydd i'r wraig! Mae hi wedi gwneud peth hyfryd. | |
Matt | WelBeibl | 26:12 | Wrth dywallt y persawr yma arna i mae hi wedi paratoi fy nghorff ar gyfer ei gladdu. | |
Matt | WelBeibl | 26:13 | Credwch chi fi, ble bynnag fydd y newyddion da yn cael ei gyhoeddi drwy'r byd i gyd, bydd pobl yn cofio beth wnaeth y wraig yma hefyd.” | |
Matt | WelBeibl | 26:14 | Ar ôl i hyn ddigwydd aeth Jwdas Iscariot, un o'r deuddeg disgybl, at y prif offeiriaid | |
Matt | WelBeibl | 26:15 | a gofyn iddyn nhw, “Faint wnewch chi dalu i mi os gwna i ei fradychu e?” A dyma nhw'n cytuno i roi tri deg darn arian iddo. | |
Matt | WelBeibl | 26:17 | Ar ddiwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw, gofynnodd y disgyblion i Iesu, “Ble rwyt ti am fwyta swper y Pasg? – i ni fynd i'w baratoi.” | |
Matt | WelBeibl | 26:18 | “Ewch i'r ddinas at hwn a hwn,” meddai. “Dwedwch wrtho: ‘Mae'r athro'n dweud fod yr amser wedi dod. Mae am ddathlu'r Pasg gyda'i ddisgyblion yn dy dŷ di.’” | |
Matt | WelBeibl | 26:19 | Felly dyma'r disgyblion yn gwneud yn union fel roedd Iesu wedi dweud wrthyn nhw, a pharatoi swper y Pasg yno. | |
Matt | WelBeibl | 26:21 | Tra oedden nhw'n bwyta, meddai wrthyn nhw, “Wir i chi, mae un ohonoch chi'n mynd i'm bradychu i.” | |
Matt | WelBeibl | 26:22 | Roedden nhw'n drist iawn, ac yn dweud wrtho, un ar ôl y llall, “Meistr, dim fi ydy'r un, nage?” | |
Matt | WelBeibl | 26:23 | Atebodd Iesu, “Bydd un ohonoch chi'n fy mradychu i – un sydd yma, ac wedi trochi ei fwyd yn y ddysgl saws gyda mi. | |
Matt | WelBeibl | 26:24 | Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw yn union fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud. Ond gwae'r un sy'n mynd i'm bradychu i! Byddai'n well arno petai erioed wedi cael ei eni!” | |
Matt | WelBeibl | 26:25 | Wedyn dyma Jwdas, yr un oedd yn mynd i'w fradychu, yn dweud, “Rabbi, dim fi ydy'r un, nage?” “Ti sy'n dweud,” atebodd Iesu. | |
Matt | WelBeibl | 26:26 | Tra oedden nhw'n bwyta, dyma Iesu'n cymryd torth, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a'i rhannu i'w ddisgyblion. “Cymerwch y bara yma, a'i fwyta,” meddai. “Dyma fy nghorff i.” | |
Matt | WelBeibl | 26:27 | Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto, a'i basio iddyn nhw, a dweud, “Yfwch o hwn, bob un ohonoch chi. | |
Matt | WelBeibl | 26:28 | Dyma fy ngwaed, sy'n selio ymrwymiad Duw i'w bobl. Mae'n cael ei dywallt ar ran llawer o bobl, i faddau eu pechodau nhw. | |
Matt | WelBeibl | 26:29 | Wir i chi, fydda i ddim yn yfed y gwin yma eto nes daw'r dydd y bydda i'n ei yfed o'r newydd gyda chi pan fydd fy Nhad yn teyrnasu.” | |
Matt | WelBeibl | 26:31 | “Dych chi i gyd yn mynd i droi cefn arna i heno” meddai Iesu wrthyn nhw. “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydda i'n taro'r bugail, a bydd y praidd yn mynd ar chwâl.’ | |
Matt | WelBeibl | 26:33 | Dyma Pedr yn dweud yn bendant, “Wna i byth droi cefn arnat ti, hyd yn oed os bydd pawb arall yn gwneud hynny!” | |
Matt | WelBeibl | 26:34 | “Wir i ti,” meddai Iesu wrtho, “heno, cyn i'r ceiliog ganu, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di'n fy nabod i.” | |
Matt | WelBeibl | 26:35 | Ond meddai Pedr, “Na! Wna i byth wadu mod i'n dy nabod di! Hyd yn oed os bydd rhaid i mi farw gyda ti!” Ac roedd y disgyblion eraill i gyd yn dweud yr un peth. | |
Matt | WelBeibl | 26:36 | Dyma Iesu'n mynd gyda'i ddisgyblion i le o'r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i'n mynd draw acw i weddïo.” | |
Matt | WelBeibl | 26:37 | Aeth â Pedr a dau fab Sebedeus gydag e, a dechreuodd deimlo tristwch ofnadwy a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu. | |
Matt | WelBeibl | 26:38 | “Mae'r tristwch dw i'n ei deimlo yn ddigon i'm lladd i,” meddai wrthyn nhw, “Arhoswch yma i wylio gyda mi.” | |
Matt | WelBeibl | 26:39 | Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar ei wyneb ar lawr a gweddïo, “Fy Nhad, gad i'r cwpan chwerw yma fynd i ffwrdd os ydy hynny'n bosib. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.” | |
Matt | WelBeibl | 26:40 | Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw'n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Felly, allech chi ddim cadw golwg gyda mi am un awr fechan? | |
Matt | WelBeibl | 26:41 | Cadwch yn effro, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi'ch profi. Mae'r ysbryd yn frwd, ond y corff yn wan.” | |
Matt | WelBeibl | 26:42 | Yna aeth i ffwrdd a gweddïo eto, “Fy Nhad, os ydy hi ddim yn bosib cymryd y cwpan chwerw yma i ffwrdd heb i mi yfed ohono, gwna i beth rwyt ti eisiau.” | |
Matt | WelBeibl | 26:43 | Ond pan ddaeth yn ôl, roedden nhw wedi syrthio i gysgu eto – roedden nhw'n methu'n lân â chadw eu llygaid ar agor. | |
Matt | WelBeibl | 26:45 | Yna daeth yn ôl at ei ddisgyblion a dweud wrthyn nhw, “Dych chi'n cysgu eto? Yn dal i orffwys? Edrychwch! Mae'r foment wedi dod. Dw i, Mab y Dyn, ar fin cael fy mradychu i afael pechaduriaid. | |
Matt | WelBeibl | 26:47 | Wrth iddo ddweud y peth, dyma Jwdas, un o'r deuddeg disgybl, yn ymddangos gyda thyrfa yn cario cleddyfau a phastynau. Roedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig eraill wedi'u hanfon nhw i ddal Iesu. | |
Matt | WelBeibl | 26:48 | Roedd Jwdas y bradwr wedi trefnu y byddai'n rhoi arwydd iddyn nhw: “Yr un fydda i'n ei gyfarch â chusan ydy'r dyn i'w arestio.” | |
Matt | WelBeibl | 26:50 | “Gwna be ti wedi dod yma i'w wneud, gyfaill,” meddai Iesu wrtho. Yna gafaelodd y lleill yn Iesu a'i arestio. | |
Matt | WelBeibl | 26:51 | Ond yn sydyn, dyma un o ffrindiau Iesu yn tynnu cleddyf allan a tharo gwas yr archoffeiriad. Torrodd ei glust i ffwrdd. | |
Matt | WelBeibl | 26:52 | “Cadw dy gleddyf!” meddai Iesu wrtho, “Bydd pawb sy'n trin y cleddyf yn cael eu lladd â'r cleddyf. | |
Matt | WelBeibl | 26:53 | Wyt ti ddim yn sylweddoli y gallwn i alw ar fy Nhad am help, ac y byddai'n anfon miloedd ar filoedd o angylion ar unwaith? | |
Matt | WelBeibl | 26:54 | Ond sut wedyn fyddai'r ysgrifau sanctaidd sy'n dweud fod rhaid i hyn i gyd ddigwydd yn dod yn wir?” | |
Matt | WelBeibl | 26:55 | “Ydw i'n arwain gwrthryfel neu rywbeth?” meddai Iesu wrth y dyrfa oedd yno. “Ai dyna pam mae angen y cleddyfau a'r pastynau yma? Pam wnaethoch chi ddim fy arestio i yn y deml? Rôn i'n eistedd yno bob dydd, yn dysgu'r bobl. | |
Matt | WelBeibl | 26:56 | Ond mae hyn i gyd wedi digwydd er mwyn i beth mae'r proffwydi'n ei ddweud yn yr ysgrifau sanctaidd ddod yn wir.” Yna dyma'r disgyblion i gyd yn ei adael ac yn dianc. | |
Matt | WelBeibl | 26:57 | Dyma'r rhai oedd wedi arestio Iesu yn mynd ag e i dŷ Caiaffas yr archoffeiriad, lle roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr eraill wedi dod at ei gilydd. | |
Matt | WelBeibl | 26:58 | Dyma Pedr yn dilyn o bell nes cyrraedd iard tŷ'r archoffeiriad. Aeth i mewn, ac eistedd i lawr gyda'r swyddogion diogelwch, a disgwyl i weld beth fyddai'n digwydd. | |
Matt | WelBeibl | 26:59 | Roedd y prif offeiriaid a'r Sanhedrin (hynny ydy yr uchel-lys Iddewig) yn edrych am dystion oedd yn barod i ddweud celwydd am Iesu, er mwyn iddyn nhw ei ddedfrydu i farwolaeth. | |
Matt | WelBeibl | 26:60 | Ond er i lawer o bobl ddod ymlaen a dweud celwydd amdano, chawson nhw ddim tystiolaeth allen nhw ei ddefnyddio yn ei erbyn. Yn y diwedd dyma ddau yn dod ymlaen | |
Matt | WelBeibl | 26:61 | a dweud, “Dwedodd y dyn yma, ‘Galla i ddinistrio teml Dduw a'i hadeiladu eto o fewn tri diwrnod.’” | |
Matt | WelBeibl | 26:62 | Felly dyma'r archoffeiriad yn codi ar ei draed a dweud wrth Iesu, “Wel, oes gen ti ateb? Beth am y dystiolaeth yma yn dy erbyn di?” | |
Matt | WelBeibl | 26:63 | Ond ddwedodd Iesu ddim. Yna dyma'r archoffeiriad yn dweud wrtho, “Dw i'n dy orchymyn di yn enw'r Duw byw i'n hateb ni! Ai ti ydy'r Meseia, mab Duw?” | |
Matt | WelBeibl | 26:64 | “Ie,” meddai Iesu, “fel rwyt ti'n dweud. Ond dw i'n dweud wrthoch chi i gyd: Rhyw ddydd byddwch chi'n fy ngweld i, Mab y Dyn, yn llywodraethu gyda'r Un Grymus ac yn dod yn ôl ar gymylau'r awyr.” | |
Matt | WelBeibl | 26:65 | Wrth glywed beth ddwedodd Iesu, dyma'r archoffeiriad yn rhwygo'i ddillad. “Cabledd!” meddai, “Pam mae angen tystion arnon ni?! Dych chi i gyd newydd ei glywed yn cablu. | |
Matt | WelBeibl | 26:67 | Yna dyma nhw'n poeri yn ei wyneb a'i ddyrnu. Roedd rhai yn ei daro ar draws ei wyneb | |
Matt | WelBeibl | 26:68 | ac yna'n dweud, “Tyrd! Proffwyda i ni, Feseia! Pwy wnaeth dy daro di y tro yna?” | |
Matt | WelBeibl | 26:69 | Yn y cyfamser, roedd Pedr yn eistedd allan yn yr iard, a dyma un o'r morynion yn dod ato a dweud, “Roeddet ti'n un o'r rhai oedd gyda'r Galilead yna, Iesu!” | |
Matt | WelBeibl | 26:70 | Ond gwadu'r peth wnaeth Pedr o flaen pawb. “Does gen i ddim syniad am beth wyt ti'n sôn,” meddai. | |
Matt | WelBeibl | 26:71 | Aeth allan at y fynedfa i'r iard, a dyma forwyn arall yn ei weld yno, a dweud wrth y bobl o'i chwmpas, “Roedd hwn gyda Iesu o Nasareth.” | |
Matt | WelBeibl | 26:73 | Ychydig wedyn, dyma rai eraill oedd yn sefyll yno yn mynd at Pedr a dweud, “Ti'n un ohonyn nhw'n bendant! Mae'n amlwg oddi wrth dy acen di.” | |
Matt | WelBeibl | 26:74 | Dyma Pedr yn dechrau rhegi a melltithio, “Dw i ddim yn nabod y dyn!” meddai. A'r foment honno dyma'r ceiliog yn canu. | |