MATTHEW
Chapter 12
Matt | WelBeibl | 12:1 | Bryd hynny aeth Iesu drwy ganol caeau ŷd ar y dydd Saboth. Roedd ei ddisgyblion eisiau bwyd, a dyma nhw'n dechrau tynnu rhai o'r tywysennau ŷd a'u bwyta. | |
Matt | WelBeibl | 12:2 | Wrth weld hyn dyma'r Phariseaid yn dweud wrtho, “Edrych! Mae dy ddisgyblion yn torri rheolau'r Gyfraith ar y Saboth!” | |
Matt | WelBeibl | 12:3 | Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi ddim wedi darllen beth wnaeth Dafydd pan oedd e a'i griw o ddilynwyr yn llwgu? | |
Matt | WelBeibl | 12:4 | Aeth i mewn i dŷ Dduw, a bwyta'r bara oedd wedi'i gysegru a'i osod yn offrwm i Dduw. Mae'r Gyfraith yn dweud fod ganddo fe a'i ddilynwyr ddim hawl i'w fwyta; dim ond yr offeiriaid oedd â hawl. | |
Matt | WelBeibl | 12:5 | Neu ydych chi ddim wedi darllen beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud am y Saboth? Mae'r offeiriaid yn torri rheolau'r Saboth drwy weithio yn y deml! Ac eto maen nhw'n cael eu cyfri'n ddieuog. | |
Matt | WelBeibl | 12:7 | Petaech chi wedi deall ystyr y gosodiad, ‘Trugaredd dw i eisiau, nid aberthau,’ fyddech chi ddim yn condemnio'r dieuog. | |
Matt | WelBeibl | 12:10 | ac roedd dyn yno oedd â'i law yn ddiffrwyth. Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i gyhuddo Iesu, felly dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy'r Gyfraith yn dweud ei bod hi'n iawn i iacháu pobl ar y Saboth?” | |
Matt | WelBeibl | 12:11 | Atebodd nhw, “Petai dafad un ohonoch chi'n syrthio i ffos ar y Saboth, fyddech chi ddim yn mynd i'w chodi hi allan? | |
Matt | WelBeibl | 12:12 | Mae person yn llawer mwy gwerthfawr na dafad! Felly, ydy, mae'n iawn yn ôl y Gyfraith i wneud daioni ar y Saboth.” | |
Matt | WelBeibl | 12:13 | Yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Ac wrth i'r dyn wneud hynny cafodd y llaw ei gwella'n llwyr, nes ei bod mor gryf â'r llaw arall. | |
Matt | WelBeibl | 12:15 | Roedd Iesu'n gwybod yn iawn beth oedd yn digwydd, ac aeth i ffwrdd oddi yno. Roedd llawer o bobl yn ei ddilyn, ac iachaodd bob un ohonyn nhw oedd yn glaf, | |
Matt | WelBeibl | 12:18 | “Dyma'r un dw i wedi'i ddewis yn was i mi, yr un dw i'n ei garu, ac mor falch ohono; Rhof fy Ysbryd Glân iddo, a bydd yn cyhoeddi cyfiawnder i'r cenhedloedd. | |
Matt | WelBeibl | 12:19 | Fydd e ddim yn cweryla nac yn gweiddi i dynnu sylw ato'i hun, a fydd neb yn clywed ei lais ar y strydoedd; | |
Matt | WelBeibl | 12:20 | Fydd e ddim yn torri brwynen wan, nac yn diffodd cannwyll sy'n mygu. Bydd e'n arwain cyfiawnder i fod yn fuddugol. | |
Matt | WelBeibl | 12:22 | Dyma nhw'n dod â dyn at Iesu oedd yn ddall ac yn methu siarad am ei fod yng ngafael cythraul. Dyma Iesu'n ei iacháu, ac roedd yn gallu siarad a gweld wedyn. | |
Matt | WelBeibl | 12:24 | Ond pan glywodd y Phariseaid am y peth, dyma nhw'n dweud, “Beelsebwl (y diafol ei hun), tywysog y cythreuliaid, sy'n rhoi'r gallu iddo wneud hyn.” | |
Matt | WelBeibl | 12:25 | Roedd Iesu'n gwybod yn iawn beth oedd yn mynd drwy'u meddyliau, ac meddai wrthyn nhw, “Bydd teyrnas lle mae yna ryfel cartref yn syrthio, a bydd dinas neu deulu sy'n ymladd â'i gilydd o hyd yn syrthio hefyd. | |
Matt | WelBeibl | 12:26 | Os ydy Satan yn ymladd yn erbyn ei hun, a'i deyrnas wedi'i rhannu, sut mae'n bosib i'w deyrnas sefyll? | |
Matt | WelBeibl | 12:27 | Os mai Beelsebwl sy'n rhoi'r gallu i mi, pwy sy'n rhoi'r gallu i'ch dilynwyr chi? Byddan nhw'n eich barnu chi. | |
Matt | WelBeibl | 12:28 | Ond os mai Ysbryd Duw sy'n rhoi'r gallu i mi fwrw allan gythreuliaid, yna mae Duw wedi dod i deyrnasu. | |
Matt | WelBeibl | 12:29 | “Neu sut all rhywun fynd i mewn i gartre'r dyn cryf a dwyn ei eiddo heb rwymo'r dyn cryf yn gyntaf? Bydd yn gallu dwyn popeth o'i dŷ wedyn. | |
Matt | WelBeibl | 12:30 | “Os ydy rhywun ddim ar fy ochr i, mae yn fy erbyn i. Ac os ydy rhywun ddim yn gweithio gyda mi, mae'n gweithio yn fy erbyn i. | |
Matt | WelBeibl | 12:31 | Felly gwrandwch – mae maddeuant i'w gael am bob pechod a chabledd, ond does dim maddeuant i'r rhai sy'n cablu yn erbyn yr Ysbryd. | |
Matt | WelBeibl | 12:32 | Bydd rhywun sydd wedi dweud rhywbeth yn fy erbyn i, Mab y Dyn, yn cael maddeuant, ond does dim maddeuant i bwy bynnag sy'n dweud rhywbeth yn erbyn yr Ysbryd Glân, yn yr oes yma nac yn yr oes i ddod. | |
Matt | WelBeibl | 12:33 | “Dewiswch y naill neu'r llall – fod y goeden yn iach a'i ffrwyth yn dda, neu fod y goeden yn ddrwg a'i ffrwyth yn ddrwg. Y ffrwyth sy'n dangos sut goeden ydy hi. | |
Matt | WelBeibl | 12:34 | Dych chi fel nythaid o nadroedd! Sut allwch chi sy'n ddrwg ddweud unrhyw beth da? Mae'r hyn mae pobl yn ei ddweud yn dangos beth sy'n eu calonnau nhw. | |
Matt | WelBeibl | 12:35 | Mae pobl dda yn rhannu'r daioni sydd wedi'i storio o'u mewn, a phobl ddrwg yn rhannu'r drygioni sydd wedi'i storio ynddyn nhw. | |
Matt | WelBeibl | 12:38 | Dyma rai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Phariseaid yn dod ato, a dweud wrtho, “Athro, gad i ni dy weld di'n gwneud rhyw arwydd gwyrthiol.” | |
Matt | WelBeibl | 12:39 | Atebodd nhw, “Cenhedlaeth ddrwg ac anffyddlon sy'n gofyn am gael gweld gwyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i! Yr unig arwydd gân nhw ydy arwydd y proffwyd Jona. | |
Matt | WelBeibl | 12:40 | Fel y daeth Jona allan yn fyw o fol y pysgodyn mawr ar ôl tri diwrnod, felly y bydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl yn fyw o berfedd y ddaear. | |
Matt | WelBeibl | 12:41 | Bydd pobl Ninefe hefyd yn condemnio pobl y genhedlaeth yma, am eu bod nhw wedi newid eu ffyrdd ar ôl clywed pregethu Jona. Mae un mwy na Jona yma nawr! | |
Matt | WelBeibl | 12:42 | A bydd Brenhines Seba yn condemnio'r genhedlaeth yma ar ddydd y farn. Roedd hi'n fodlon teithio o ben draw'r byd i wrando ar ddoethineb Solomon. Mae un mwy na Solomon yma nawr! | |
Matt | WelBeibl | 12:43 | “Pan mae ysbryd drwg yn dod allan o rywun, mae'n mynd i grwydro lleoedd anial yn chwilio am le i orffwys. Ond pan mae'n methu dod o hyd i rywle, | |
Matt | WelBeibl | 12:44 | mae'n meddwl, ‘Af i yn ôl i lle roeddwn i'n byw.’ Mae'n cyrraedd ac yn darganfod y tŷ yn wag ac wedi'i lanhau a'i dacluso drwyddo. | |
Matt | WelBeibl | 12:45 | Wedyn mae'n mynd â saith ysbryd gwaeth na'i hun i fyw gydag e. Mae'r person mewn gwaeth cyflwr ar y diwedd nag oedd ar y dechrau! Fel yna fydd hi ar y genhedlaeth ddrwg yma.” | |
Matt | WelBeibl | 12:46 | Tra oedd Iesu'n dal i siarad â'r bobl, cyrhaeddodd ei fam a'i frodyr yno. Dyma nhw'n sefyll y tu allan a gofyn am gael gair gydag e. | |
Matt | WelBeibl | 12:47 | Dwedodd rhywun wrtho, “Mae dy fam a'th frodyr yn sefyll y tu allan, eisiau siarad gyda ti.” | |