MATTHEW
Chapter 4
Matt | WelBeibl | 4:1 | Yn syth wedyn dyma'r Ysbryd yn arwain Iesu allan i'r anialwch i gael ei demtio gan y diafol. | |
Matt | WelBeibl | 4:3 | Dyna pryd y daeth y diafol i'w demtio. “Os mai Mab Duw wyt ti, gwna i'r cerrig yma droi'n fara,” meddai. | |
Matt | WelBeibl | 4:4 | “Na!”, atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud mai ‘Nid bwyd ydy'r unig beth mae pobl ei angen i fyw, ond popeth mae Duw yn ei ddweud.’” | |
Matt | WelBeibl | 4:5 | Wedyn dyma'r diafol yn mynd â Iesu i'r ddinas sanctaidd (hynny ydy Jerwsalem) a gwneud iddo sefyll ar y tŵr uchaf un yn y deml. | |
Matt | WelBeibl | 4:6 | “Os mai Mab Duw wyt ti,” meddai, “neidia i lawr o'r fan yma. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd Duw yn gorchymyn i'w angylion dy ddal yn eu breichiau, fel na fyddi'n taro dy droed ar garreg.’” | |
Matt | WelBeibl | 4:7 | Atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud hefyd: ‘Paid rhoi'r Arglwydd dy Dduw ar brawf.’” | |
Matt | WelBeibl | 4:8 | Yna dyma'r diafol yn mynd ag e i ben mynydd uchel iawn, a dangos holl wledydd y byd a'u cyfoeth iddo. | |
Matt | WelBeibl | 4:9 | A dwedodd y diafol wrtho, “Cei di'r cwbl gen i os gwnei di blygu i lawr i fy addoli i.” | |
Matt | WelBeibl | 4:10 | Ond dyma Iesu'n dweud, “Dos i ffwrdd Satan! Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Addola'r Arglwydd dy Dduw, a'i wasanaethu e'n unig.’” | |
Matt | WelBeibl | 4:12 | Pan glywodd Iesu fod Ioan wedi cael ei garcharu, gadawodd Jwdea a mynd yn ôl i Galilea. | |
Matt | WelBeibl | 4:13 | Ond yn lle mynd i Nasareth, aeth i fyw i Capernaum sydd ar lan y llyn yn ardal Sabulon a Nafftali. | |
Matt | WelBeibl | 4:15 | “Tir Sabulon a thir Nafftali, sydd ar Ffordd y Môr, a'r ardal yr ochr draw i afon Iorddonen, hynny ydy Galilea, lle mae pobl o genhedloedd eraill yn byw – | |
Matt | WelBeibl | 4:16 | Mae'r bobl oedd yn byw mewn tywyllwch wedi gweld golau llachar; ac mae golau wedi gwawrio ar y rhai sy'n byw dan gysgod marwolaeth.” | |
Matt | WelBeibl | 4:17 | Dyna pryd y dechreuodd Iesu gyhoeddi ei neges, “Trowch gefn ar bechod, achos mae'r Un nefol yn dod i deyrnasu.” | |
Matt | WelBeibl | 4:18 | Un tro roedd Iesu'n cerdded ar lan Llyn Galilea, a gwelodd ddau frawd – Simon, oedd pawb yn ei alw'n Pedr, a'i frawd Andreas. Pysgotwyr oedden nhw, ac roedden nhw wrthi'n taflu rhwyd i'r llyn. | |
Matt | WelBeibl | 4:19 | Dyma Iesu'n galw arnyn nhw, “Dewch, dilynwch fi, a gwna i chi'n bysgotwyr sy'n dal pobl yn lle pysgod.” | |
Matt | WelBeibl | 4:21 | Wrth gerdded yn ei flaen, gwelodd Iesu ddau frawd arall – Iago ac Ioan, dau fab Sebedeus. Roedden nhw mewn cwch hefo Sebedeus eu tad yn trwsio eu rhwydi. Dyma Iesu'n eu galw nhw hefyd, | |
Matt | WelBeibl | 4:23 | Roedd Iesu'n teithio ar hyd a lled Galilea, yn dysgu'r bobl yn y synagogau, yn cyhoeddi'r newyddion da am deyrnasiad Duw ac yn iacháu pob afiechyd a salwch oedd ar bobl. | |
Matt | WelBeibl | 4:24 | Daeth Iesu'n enwog y tu allan i Galilea, ac roedd pobl o bob rhan o Syria yn dod â phawb oedd yn sâl ato – pobl oedd yn dioddef o afiechydon gwahanol, neu mewn poen, eraill yng ngafael cythreuliaid, yn dioddef o ffitiau epileptig, neu wedi'u parlysu. Iachaodd Iesu nhw i gyd. | |