MATTHEW
Chapter 24
Matt | WelBeibl | 24:1 | Wrth i Iesu adael y deml dyma'i ddisgyblion yn dod ato ac yn tynnu ei sylw at yr adeiladau. | |
Matt | WelBeibl | 24:2 | “Ydych chi'n gweld y rhain i gyd?” meddai. “Credwch chi fi, bydd y cwbl yn cael ei chwalu, a fydd dim un garreg wedi'i gadael yn ei lle.” | |
Matt | WelBeibl | 24:3 | Yn nes ymlaen, pan oedd Iesu'n eistedd ar ochr Mynydd yr Olewydd, daeth ei ddisgyblion ato yn breifat a gofyn, “Pryd mae beth oeddet ti'n sôn amdano yn mynd i ddigwydd? Fydd unrhyw rybudd i ddangos i ni dy fod di'n dod, a bod diwedd y byd wedi cyrraedd?” | |
Matt | WelBeibl | 24:5 | Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, ac yn dweud, ‘Fi ydy'r Meseia,’ a byddan nhw'n llwyddo i dwyllo llawer o bobl. | |
Matt | WelBeibl | 24:6 | Bydd rhyfeloedd a sôn am ryfeloedd yn agos ac ymhell. Ond peidiwch cynhyrfu – mae pethau felly'n siŵr o ddigwydd, ond fydd y diwedd yn dal heb ddod. | |
Matt | WelBeibl | 24:7 | Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Bydd newyn mewn gwahanol leoedd, a daeargrynfeydd. | |
Matt | WelBeibl | 24:9 | “Cewch eich arestio a'ch cam-drin a'ch lladd. Bydd pobl ym mhob gwlad yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi. | |
Matt | WelBeibl | 24:14 | A bydd y newyddion da am deyrnasiad Duw yn cael ei gyhoeddi drwy'r byd i gyd. Bydd pob gwlad yn ei glywed, a dim ond wedyn fydd y diwedd yn dod. | |
Matt | WelBeibl | 24:15 | “Pan fydd beth soniodd y proffwyd Daniel amdano yn digwydd, hynny ydy pan fydd ‘Yr eilun ffiaidd sy'n dinistrio’ yn sefyll yn y cysegr sanctaidd | |
Matt | WelBeibl | 24:16 | (rhaid i'r un sy'n darllen ddeall hyn!), dylai pawb sydd yn Jwdea ddianc i'r mynyddoedd. | |
Matt | WelBeibl | 24:19 | Mor ofnadwy fydd hi ar wragedd beichiog a mamau sy'n magu plant bach bryd hynny! | |
Matt | WelBeibl | 24:21 | Achos bryd hynny bydd argyfwng gwaeth nag unrhyw beth welwyd erioed o'r blaen – a fydd dim byd tebyg yn y dyfodol chwaith! | |
Matt | WelBeibl | 24:22 | Oni bai iddo gael ei wneud yn gyfnod byr, fyddai neb yn dianc! Ond bydd yn cael ei wneud yn gyfnod byr er mwyn y bobl mae Duw wedi'u dewis. | |
Matt | WelBeibl | 24:23 | Felly, os bydd rhywun yn dweud, ‘Edrych! Hwn ydy'r Meseia!’ neu ‘Dacw fe!’ peidiwch credu'r peth. | |
Matt | WelBeibl | 24:24 | Bydd llawer i ‛Feseia‛ ffug a phroffwydi ffug yn dod ac yn gwneud gwyrthiau syfrdanol. Bydden nhw'n twyllo'r bobl hynny mae Duw wedi'u dewis petai'r fath beth yn bosib! | |
Matt | WelBeibl | 24:26 | “Felly os bydd rhywun yn dweud wrthoch chi, ‘Mae'r Meseia acw, allan yn yr anialwch,’ peidiwch mynd yno i edrych; neu ‘mae e'n cuddio yma,’ peidiwch credu'r peth. | |
Matt | WelBeibl | 24:27 | Fydd dim amheuaeth o gwbl pan ddaw Mab y Dyn yn ôl – bydd mor amlwg â mellten yn goleuo'r awyr o'r dwyrain i'r gorllewin. | |
Matt | WelBeibl | 24:28 | Bydd mor amlwg â'r ffaith fod yna gorff marw ble bynnag mae fwlturiaid wedi casglu. | |
Matt | WelBeibl | 24:29 | “Ond yn union ar ôl yr argyfwng hwnnw, ‘Bydd yr haul yn tywyllu, a'r lleuad yn peidio rhoi golau; bydd y sêr yn syrthio o'r awyr, a'r planedau yn ansefydlog.’ | |
Matt | WelBeibl | 24:30 | “Yna bydd arwydd i'w weld yn yr awyr yn rhybuddio fod Mab y Dyn ar fin dod, a bydd pob llwyth o bobl ar y ddaear yn galaru. Bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod ar gymylau'r awyr gyda grym ac ysblander mawr. | |
Matt | WelBeibl | 24:31 | Bydd utgorn yn canu a bydd Duw yn anfon ei angylion i gasglu'r rhai mae wedi'u dewis o bob rhan o'r byd. | |
Matt | WelBeibl | 24:32 | “Dysgwch wers gan y goeden ffigys: Pan mae'r brigau'n dechrau blaguro a dail yn dechrau tyfu arni, gwyddoch fod yr haf yn agos. | |
Matt | WelBeibl | 24:33 | Felly'r un fath, pan fyddwch yn gweld hyn i gyd, byddwch yn gwybod ei fod ar fin dod yn ôl – reit y tu allan i'r drws! | |
Matt | WelBeibl | 24:34 | Credwch chi fi, bydd y genhedlaeth bresennol yn dal yma pan fydd hyn yn digwydd. | |
Matt | WelBeibl | 24:35 | Bydd yr awyr a'r ddaear yn diflannu, ond mae beth dw i'n ddweud yn aros am byth. | |
Matt | WelBeibl | 24:36 | “Does neb ond y Tad yn gwybod y dyddiad a pha amser o'r dydd y bydd hyn yn digwydd – dydy'r angylion ddim yn gwybod, na hyd yn oed y Mab ei hun! | |
Matt | WelBeibl | 24:37 | Bydd hi yr un fath ag oedd hi yn amser Noa pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl. | |
Matt | WelBeibl | 24:38 | Yn union cyn y llifogydd, roedd pobl yn bwyta ac yn yfed ac yn priodi ac yn y blaen, hyd y diwrnod pan aeth Noa i mewn i'r arch. | |
Matt | WelBeibl | 24:39 | Doedd ganddyn nhw ddim syniad beth oedd yn mynd i ddigwydd nes i'r llifogydd ddod a'u hysgubo nhw i gyd i ffwrdd! Fel yna'n union y bydd hi pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl. | |
Matt | WelBeibl | 24:40 | Bydd dau allan yn y maes; bydd un yn cael ei gymryd i ffwrdd a'r llall yn cael ei adael. | |
Matt | WelBeibl | 24:41 | Bydd dwy wraig yn malu ŷd gyda melin law; bydd un yn cael ei chymryd a'r llall yn cael ei gadael. | |
Matt | WelBeibl | 24:42 | “Gwyliwch felly, achos dych chi ddim yn gwybod y dyddiad pan fydd eich Arglwydd yn dod yn ôl. | |
Matt | WelBeibl | 24:43 | Meddyliwch! Petai perchennog y tŷ yn gwybod ymlaen llaw pryd yn ystod y nos roedd y lleidr yn dod, byddai wedi aros i wylio a'i rwystro rhag torri i mewn i'w dŷ. | |
Matt | WelBeibl | 24:44 | Felly rhaid i chi hefyd fod yn barod drwy'r adeg. Bydda i, Mab y Dyn, yn cyrraedd pan fyddwch chi ddim yn disgwyl! | |
Matt | WelBeibl | 24:45 | “Felly pwy ydy'r gwas doeth mae'r meistr yn gallu dibynnu arno? Mae wedi'i benodi i fod yn gyfrifol am weddill y staff, i'w bwydo nhw'n rheolaidd. | |
Matt | WelBeibl | 24:46 | Os bydd yn gwneud ei waith yn iawn pan ddaw'r meistr yn ôl, bydd yn cael ei wobrwyo. | |
Matt | WelBeibl | 24:48 | Ond beth petai'r gwas yna'n un drwg, ac yn meddwl iddo'i hun, ‘Mae'r meistr wedi bod i ffwrdd yn hir iawn,’ | |