NUMBERS
Chapter 36
Numb | WelBeibl | 36:1 | Dyma arweinwyr clan Gilead (disgynyddion i Machir, mab Manasse fab Joseff), yn dod at Moses ac arweinwyr eraill Israel gyda cais. | |
Numb | WelBeibl | 36:2 | “Dwedodd yr ARGLWYDD wrth ein meistr am ddefnyddio coelbren wrth rannu'r tir rhwng pobl Israel. Dwedodd hefyd y dylid rhoi tir ein brawd Seloffchad i'w ferched. | |
Numb | WelBeibl | 36:3 | Ond petai un ohonyn nhw'n priodi dyn o lwyth arall, byddai eu tir nhw'n mynd i'r llwyth hwnnw, a byddai gynnon ni lai o dir. | |
Numb | WelBeibl | 36:4 | A phan fydd hi'n flwyddyn y rhyddhau mawr, bydd y tir yn aros yn nwylo'r llwyth maen nhw wedi priodi i mewn iddo – bydd yn cael ei dynnu oddi ar etifeddiaeth ein llwyth ni.” | |
Numb | WelBeibl | 36:5 | Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses am roi'r rheol yma i bobl Israel: “Mae beth mae'r dynion o lwyth meibion Joseff yn ei ddweud yn iawn. | |
Numb | WelBeibl | 36:6 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei orchymyn sydd i ddigwydd gyda merched Seloffchad: Maen nhw'n rhydd i briodi pwy bynnag maen nhw eisiau o fewn eu llwyth eu hunain. | |
Numb | WelBeibl | 36:7 | Wedyn fydd y tir mae pobl Israel wedi'i etifeddu ddim yn symud o un llwyth i'r llall – bydd pawb yn cadw'r tir wnaethon nhw'i etifeddu gan eu hynafiaid. | |
Numb | WelBeibl | 36:8 | Rhaid i bob merch sydd wedi etifeddu tir gan ei hynafiaid, pa lwyth bynnag mae'n perthyn iddo, briodi rhywun o fewn ei llwyth ei hun. Wedyn bydd pawb yn Israel yn cadw'r tir maen nhw wedi'i etifeddu gan eu hynafiaid. | |
Numb | WelBeibl | 36:9 | Dydy'r tir gafodd ei etifeddu ddim i basio o un llwyth i'r llall. Mae pob llwyth yn Israel i gadw'r tir gafodd ei roi iddo.” | |
Numb | WelBeibl | 36:10 | A dyma ferched Seloffchad yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. | |
Numb | WelBeibl | 36:11 | Dyma nhw i gyd – Machla, Tirtsa, Hogla, Milca a Noa – yn priodi cefndryd ar ochr eu tad o'r teulu. | |
Numb | WelBeibl | 36:12 | Dyma nhw'n priodi dynion oedd yn perthyn i lwyth Manasse fab Joseff, ac felly arhosodd y tir roedden nhw wedi'i etifeddu o fewn llwyth eu hynafiaid. | |