Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
NUMBERS
Prev Up Next
Chapter 35
Numb WelBeibl 35:1  Dyma'r ARGLWYDD yn siarad â Moses ar wastatir Moab, wrth afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho.
Numb WelBeibl 35:2  “Dwed wrth bobl Israel am roi rhai o'u trefi i'r Lefiaid fyw ynddyn nhw, gyda thir pori i'w hanifeiliaid.
Numb WelBeibl 35:3  Wedyn bydd ganddyn nhw le i fyw, a thir pori i'w gwartheg a'u defaid a'u hanifeiliaid eraill.
Numb WelBeibl 35:4  Rhaid i'r tir pori o gwmpas y trefi fyddwch chi'n eu rhoi i'r Lefiaid ymestyn am tua 675 metr o wal y dre.
Numb WelBeibl 35:5  Mae ffin allanol y tir pori i fesur 1,350 metr ar bob ochr – gogledd, de, dwyrain a gorllewin – gyda'r dre yn y canol. Mae'r tir yma i fod yn dir pori i'r trefi.
Numb WelBeibl 35:6  “Bydd chwech o'r trefi fyddwch chi'n eu rhoi i'r Lefiaid yn drefi lloches, i rywun sydd wedi lladd person arall drwy ddamwain allu dianc yno. Rhaid i chi roi pedwar deg dwy o drefi eraill i'r Lefiaid –
Numb WelBeibl 35:7  pedwar deg wyth o drefi i gyd, gyda thir pori i bob un.
Numb WelBeibl 35:8  Rhaid i'r trefi dych chi'n eu rhoi fod yn drefi sydd biau pobl Israel. Bydd nifer y trefi mae pob llwyth yn ei gyfrannu yn dibynnu ar faint y llwyth. Bydd y llwythau mwyaf yn rhoi mwy o drefi, a'r llwythau lleiaf yn rhoi llai. Ond rhaid i bob llwyth gyfrannu rhai o'u trefi i'r Lefiaid.”
Numb WelBeibl 35:10  “Dwed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch chi'n croesi'r Iorddonen i wlad Canaan,
Numb WelBeibl 35:11  rhaid i chi ddarparu rhai trefi yn drefi lloches. Bydd rhywun sydd wedi lladd person arall drwy ddamwain yn gallu dianc yno.
Numb WelBeibl 35:12  Bydd y trefi yma yn lle saff i ddianc rhag perthynas yr un gafodd ei ladd, sydd am ddial. Ddylai'r lladdwr ddim cael ei ladd cyn sefyll ei brawf o flaen y bobl.
Numb WelBeibl 35:14  tair yr ochr yma i afon Iorddonen a thair yn Canaan.
Numb WelBeibl 35:15  Bydd y chwe tref yma yn drefi lloches i bobl Israel, i bobl o'r tu allan ac i fewnfudwyr. Gall unrhyw un sy'n lladd person arall drwy ddamwain ddianc iddyn nhw.
Numb WelBeibl 35:16  “‘Ond mae rhywun sy'n taro person arall yn farw â bar haearn yn llofrudd. Rhaid gweinyddu'r gosb eithaf – mae'n llofrudd.
Numb WelBeibl 35:17  Neu os ydy e'n taflu carreg ddigon mawr i ladd rhywun at berson arall, a'r person hwnnw'n marw, mae'n llofrudd. Rhaid i'r llofrudd farw.
Numb WelBeibl 35:18  Neu os ydy e'n taro rhywun yn farw â darn o bren, mae'n llofrudd. Rhaid i'r llofrudd farw.
Numb WelBeibl 35:19  Mae gan berthynas agosaf y person gafodd ei lofruddio hawl i ladd y llofrudd yn y fan a'r lle.
Numb WelBeibl 35:20  Os ydy rhywun yn lladd person arall drwy ei daro â rhywbeth neu daflu rhywbeth ato'n fwriadol,
Numb WelBeibl 35:21  neu drwy roi dyrnod iddo, mae'n llofrudd. Rhaid i'r llofrudd farw. Rhaid i berthynas agosaf y person gafodd ei lofruddio ladd y llofrudd yn y fan a'r lle.
Numb WelBeibl 35:22  “‘Ond os oedd wedi taro'r person arall neu daflu rhywbeth ato a'i daro'n ddamweiniol,
Numb WelBeibl 35:23  neu ollwng carreg ddigon mawr i'w ladd, heb fod wedi'i weld (hynny ydy, os oedd yna ddim casineb na bwriad i wneud drwg i'r person arall),
Numb WelBeibl 35:24  rhaid i'r bobl farnu'r achos rhwng yr un sy'n cael ei gyhuddo o ladd a'r perthynas agosaf sydd am ddial arno.
Numb WelBeibl 35:25  Rhaid i'r bobl amddiffyn y lladdwr rhag y perthynas agosaf sydd am ddial arno. A rhaid anfon y lladdwr i fyw yn y dref lloches agosaf. Bydd rhaid iddo aros yno nes bydd yr archoffeiriad, gafodd ei eneinio â'r olew cysegredig, wedi marw.
Numb WelBeibl 35:26  Ond os ydy'r un sy'n cael ei gyhuddo o'r drosedd yn gadael y dref lloches mae wedi dianc iddi,
Numb WelBeibl 35:27  a pherthynas agosaf yr un gafodd ei lofruddio yn dial arno a'i ladd, fydd hynny ddim yn cael ei ystyried yn llofruddiaeth.
Numb WelBeibl 35:28  Dylai fod wedi aros yn y dref lloches nes i'r archoffeiriad farw. Ar ôl i'r archoffeiriad farw, mae'n rhydd i fynd yn ôl adre.
Numb WelBeibl 35:29  “‘Dyma fydd y drefn gyfreithiol ar hyd y cenedlaethau, lle bynnag fyddwch chi'n byw.
Numb WelBeibl 35:30  Mae pob llofrudd i gael ei ddienyddio, ond rhaid cael tystion. Dydy un tyst ddim yn ddigon i rywun gael ei ddedfrydu i farwolaeth.
Numb WelBeibl 35:31  A rhaid peidio derbyn arian yn lle rhoi'r llofrudd i farwolaeth. Rhaid i bob llofrudd gael ei ddienyddio.
Numb WelBeibl 35:32  Rhaid peidio derbyn arian chwaith i ollwng rhywun sydd wedi dianc i dref lloches yn rhydd, fel ei fod yn gallu mynd yn ôl adre i fyw cyn marwolaeth yr archoffeiriad.
Numb WelBeibl 35:33  Peidiwch llygru'r tir lle dych chi'n byw – mae llofruddiaeth yn llygru'r tir! A does dim byd yn gwneud iawn am lofruddiaeth ond dienyddio'r llofrudd.
Numb WelBeibl 35:34  Peidiwch gwneud y tir ble dych chi'n byw yn aflan, achos dyna ble dw i'n byw hefyd. Fi ydy'r ARGLWYDD sy'n byw gyda fy mhobl Israel.’”