NUMBERS
Chapter 3
Numb | WelBeibl | 3:1 | Dyma hanes teulu Aaron a Moses pan wnaeth yr ARGLWYDD siarad gyda Moses ar Fynydd Sinai: | |
Numb | WelBeibl | 3:4 | Ond roedd Nadab ac Abihw wedi marw yn anialwch Sinai wrth ddefnyddio tân o rywle arall i wneud offrwm i'r ARGLWYDD. Doedd ganddyn nhw ddim plant. Felly Eleasar ac Ithamar oedd yn gwasanaethu fel offeiriaid gyda'u tad Aaron. | |
Numb | WelBeibl | 3:7 | Byddan nhw'n gwasanaethu Aaron a'r bobl i gyd o flaen pabell presenoldeb Duw. Nhw fydd yn gyfrifol am wneud yr holl waith yn y Tabernacl. | |
Numb | WelBeibl | 3:8 | Byddan nhw'n gofalu am holl offer pabell presenoldeb Duw, ac yn gwasanaethu yn y Tabernacl ar ran pobl Israel. | |
Numb | WelBeibl | 3:9 | Rwyt i roi'r Lefiaid i Aaron a'i feibion fel eu helpwyr. Maen nhw i weithio iddo fe a neb arall. | |
Numb | WelBeibl | 3:10 | Aaron a'i feibion sydd i'w penodi'n offeiriaid. Os ydy unrhyw un arall yn mynd yn rhy agos i'r cysegr, y gosb ydy marwolaeth.” | |
Numb | WelBeibl | 3:12 | “Dw i wedi cymryd y Lefiaid i mi fy hun, yn lle'r mab cyntaf i ddod allan o groth pob gwraig yn Israel. Fi piau'r Lefiaid, | |
Numb | WelBeibl | 3:13 | am mai fi piau pob mab cyntaf. Rôn i wedi cysegru pob mab ac anifail cyntaf i gael ei eni i mi fy hun, pan wnes i ladd y rhai cyntaf i gael eu geni yng ngwlad yr Aifft. Felly fi piau pob un cyntaf i gael ei eni. Fi ydy'r ARGLWYDD.” | |
Numb | WelBeibl | 3:15 | “Dw i eisiau i ti gyfri'r Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd estynedig a'u claniau – pob dyn, a phob bachgen sydd dros fis oed.” | |
Numb | WelBeibl | 3:20 | Enwau claniau meibion Merari oedd Machli a Mwshi. Y rhain oedd teuluoedd Lefi yn ôl eu claniau. | |
Numb | WelBeibl | 3:25 | Cyfrifoldeb y Gershoniaid oedd pabell y Tabernacl, y gorchudd, y sgrîn o flaen y fynedfa i babell presenoldeb Duw, | |
Numb | WelBeibl | 3:26 | llenni'r iard oedd o gwmpas y Tabernacl a'r allor, y sgrîn o flaen y fynedfa i'r iard, y rhaffau, a phopeth arall oedd ag unrhyw beth i'w wneud â'r rhain. | |
Numb | WelBeibl | 3:28 | sef 8,600 o ddynion a bechgyn oedd dros fis oed. Nhw oedd yn gyfrifol am y cysegr. | |
Numb | WelBeibl | 3:31 | Nhw oedd yn gyfrifol am yr Arch, y bwrdd, y menora (sef y stand i'r lampau), yr allorau, unrhyw offer oedd yn cael ei ddefnyddio yn y cysegr, y gorchudd mewnol, a phopeth arall oedd ag unrhyw beth i'w wneud â'r rhain. | |
Numb | WelBeibl | 3:32 | Eleasar, mab Aaron oedd pennaeth arweinwyr y Lefiaid. Roedd ganddo gyfrifoldeb arbennig i oruchwylio'r rhai oedd yn gyfrifol am y cysegr. | |
Numb | WelBeibl | 3:35 | Arweinydd y Merariaid oedd Swriel fab Afichaïl. Roedden nhw i wersylla i'r gogledd o'r Tabernacl. | |
Numb | WelBeibl | 3:36 | Cyfrifoldeb y Merariaid oedd fframiau'r Tabernacl, y croesfarrau, y polion, y socedi, y llestri i gyd, a phopeth arall oedd ag unrhyw beth i'w wneud â'r rhain. | |
Numb | WelBeibl | 3:38 | Yr unig rai oedd i wersylla ar yr ochr ddwyreiniol, o flaen y Tabernacl, oedd Moses ac Aaron a'i feibion. Nhw oedd yn gyfrifol am y cysegr ar ran pobl Israel. Os oedd unrhyw un arall yn mynd yn rhy agos i'r cysegr, y gosb oedd marwolaeth. | |
Numb | WelBeibl | 3:39 | Nifer y Lefiaid i gyd, gafodd eu cyfri gan Moses ac Aaron, oedd 22,000 o ddynion a bechgyn dros fis oed. | |
Numb | WelBeibl | 3:40 | Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dw i eisiau i ti gyfri pob un o'r Israeliaid sy'n fab hynaf, o fis oed i fyny, a chofrestru enw pob un. | |
Numb | WelBeibl | 3:41 | Mae'r Lefiaid i gael eu rhoi i mi yn lle meibion hynaf yr Israeliaid – cofia mai fi ydy'r ARGLWYDD. A fi piau anifeiliaid y Lefiaid hefyd, yn lle pob anifail cyntaf i gael ei eni i anifeiliaid pobl Israel.” | |
Numb | WelBeibl | 3:42 | Felly dyma Moses yn cyfrif pob un o feibion hynaf yr Israeliaid, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. | |
Numb | WelBeibl | 3:45 | “Cymer y Lefiaid yn lle meibion hynaf pobl Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid nhw. Fi fydd piau'r Lefiaid. Fi ydy'r ARGLWYDD. | |
Numb | WelBeibl | 3:46 | Mae nifer y meibion hynaf ddau gant saith deg tri yn fwy na nifer y Lefiaid. Rwyt i brynu rhyddid i'r dau gant saith deg tri | |
Numb | WelBeibl | 3:47 | drwy gasglu pum darn arian am bob un ohonyn nhw. Dylid ei dalu gydag arian y cysegr, sef darnau arian sy'n pwyso dau ddeg gera yr un. | |
Numb | WelBeibl | 3:49 | Felly dyma Moses yn casglu'r arian i brynu'n rhydd y meibion hynaf oedd dros ben. | |