Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
NUMBERS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 26
Numb WelBeibl 26:1  Ar ôl i'r pla orffen, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, ac wrth Eleasar fab Aaron, yr offeiriad:
Numb WelBeibl 26:2  “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad arall o bobl Israel – pawb o bob llwyth sydd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â'r fyddin.”
Numb WelBeibl 26:3  Ar y pryd, roedd pobl Israel yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth ymyl afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho. A dyma Moses ac Eleasar yn dweud wrthyn nhw,
Numb WelBeibl 26:4  “Rhaid cyfrif pawb dros ugain oed.” Dyna oedd yr ARGLWYDD wedi'i orchymyn i Moses. A dyma bobl Israel ddaeth allan o wlad yr Aifft:
Numb WelBeibl 26:5  O lwyth Reuben (mab hynaf Jacob) – disgynyddion Chanoch, Palw,
Numb WelBeibl 26:9  sef tad Nemwel, Dathan ac Abiram. Roedd Dathan ac Abiram gyda Cora yn arwain y bobl wnaeth droi yn erbyn Moses ac Aaron a gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD.
Numb WelBeibl 26:10  A dyma'r ddaear yn agor ac yn eu llyncu nhw a Cora. Lladdodd y tân ddau gant pum deg ohonyn nhw. Mae beth ddigwyddodd iddyn nhw yn rhybudd i ni.
Numb WelBeibl 26:11  Ond wnaeth llinach Cora ei hun ddim diflannu'n llwyr.)
Numb WelBeibl 26:12  O lwyth Simeon – disgynyddion Nemwel, Iamîn, Iachîn,
Numb WelBeibl 26:15  O lwyth Gad – disgynyddion Seffon, Haggi, Shwni,
Numb WelBeibl 26:19  Roedd gan Jwda ddau fab, Er ac Onan, ond buodd y ddau farw yn fuan yn Canaan.
Numb WelBeibl 26:20  O lwyth Jwda – disgynyddion Shela, Perets, a Serach.
Numb WelBeibl 26:26  O lwyth Sabulon – disgynyddion Sered, Elon, a Iachleël.
Numb WelBeibl 26:28  Roedd dau lwyth, sef Manasse ac Effraim, yn ddisgynyddion i Joseff.
Numb WelBeibl 26:29  O lwyth Manasse – disgynyddion Machir a'i fab Gilead.
Numb WelBeibl 26:33  (Doedd gan Seloffchad fab Cheffer ddim meibion, dim ond merched. Ac enwau'r merched oedd Machla, Noa, Hogla, Milca a Tirtsa.)
Numb WelBeibl 26:35  O lwyth Effraim – disgynyddion Shwtelach, Becher, a Tachan.
Numb WelBeibl 26:37  Cyfanswm Effraim oedd 32,500. Roedden nhw i gyd yn ddisgynyddion Joseff, drwy Manasse ac Effraim.
Numb WelBeibl 26:38  O lwyth Benjamin – disgynyddion Bela, Ashbel, Achiram,
Numb WelBeibl 26:40  Wedyn o feibion Bela – disgynyddion Ard a Naaman.
Numb WelBeibl 26:42  O lwyth Dan – disgynyddion Shwcham. Y Shwchamiaid oedd disgynyddion Dan,
Numb WelBeibl 26:44  O lwyth Asher – disgynyddion Imna, Ishfi, a Bereia.
Numb WelBeibl 26:45  Wedyn o feibion Bereia – disgynyddion Heber a Malciel.
Numb WelBeibl 26:48  O lwyth Nafftali – disgynyddion Iachtseël, Gwni,
Numb WelBeibl 26:51  Felly cyfanswm y dynion gafodd eu cyfri yn Israel oedd 601,730.
Numb WelBeibl 26:53  “Mae'r tir i gael ei rannu rhwng y llwythau ar sail y ffigyrau yma.
Numb WelBeibl 26:54  Mae'r llwythau mwyaf i gael etifeddu mwy o dir na'r llwythau lleiaf. Mae faint o dir fydd pob llwyth yn ei gael yn seiliedig ar y ffigyrau yma.
Numb WelBeibl 26:55  Rhaid defnyddio coelbren wrth rannu'r tir, ond mae canlyniadau'r cyfrifiad i gael eu defnyddio i benderfynu faint o dir mae pob llwyth yn ei gael.
Numb WelBeibl 26:56  Bydd y tir mae'r llwythau bach a mawr yn ei etifeddu yn cael ei bennu drwy daflu coelbren.”
Numb WelBeibl 26:57  A dyma'r Lefiaid gafodd eu cyfrif – disgynyddion Gershon, Cohath a Merari.
Numb WelBeibl 26:58  A disgynyddion eraill Lefi – y Libniaid, Hebroniaid, Machliaid, Mwshiaid a Corahiaid. Cohath oedd tad Amram,
Numb WelBeibl 26:59  ac enw gwraig Amram oedd Iochefed, merch Lefi, gafodd ei geni yn yr Aifft. Wedyn plant Amram a Iochefed oedd Aaron, Moses, a Miriam eu chwaer.
Numb WelBeibl 26:60  Roedd Aaron yn dad i Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar.
Numb WelBeibl 26:61  Ond roedd Nadab ac Abihw wedi marw wrth ddefnyddio tân o rywle arall i wneud offrwm i'r ARGLWYDD.
Numb WelBeibl 26:62  Roedd 23,000 o Lefiaid – pob dyn a bachgen oedd dros fis oed. Doedden nhw ddim wedi cael eu cyfrif gyda gweddill pobl Israel am fod dim tir i gael ei roi iddyn nhw fel i weddill llwythau Israel.
Numb WelBeibl 26:63  Felly dyna ffigyrau'r cyfrifiad wnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad pan oedd pobl Israel yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth ymyl afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho.
Numb WelBeibl 26:64  Doedd neb o'r dynion gafodd eu cyfrif y tro yma wedi'u cynnwys yn y cyfrifiad cyntaf wnaeth Moses ac Aaron yn anialwch Sinai.
Numb WelBeibl 26:65  Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud, “Byddan nhw i gyd yn marw yn yr anialwch!” A doedd neb ohonyn nhw ar ôl, ar wahân i Caleb fab Jeffwnne a Josua fab Nwn.