Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
NUMBERS
Prev Up Next
Chapter 31
Numb WelBeibl 31:2  “Dial ar bobl Midian am beth wnaethon nhw i bobl Israel. Ar ôl i ti wneud hynny, byddi di'n mynd at dy hynafiaid sydd wedi marw.”
Numb WelBeibl 31:3  Felly dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Dewiswch ddynion i fynd i ryfel yn erbyn Midian, ac i ddial arnyn nhw ar ran yr ARGLWYDD.
Numb WelBeibl 31:4  Rhaid anfon mil o ddynion o bob llwyth i'r frwydr.”
Numb WelBeibl 31:5  Felly dyma nhw'n dewis mil o ddynion o bob llwyth yn Israel – 12,000 o ddynion arfog yn barod i ymladd.
Numb WelBeibl 31:6  A dyma Moses yn eu hanfon nhw allan, gyda Phineas (mab Eleasar yr offeiriad) yn gofalu am y taclau o'r cysegr a'r utgyrn i alw'r fyddin.
Numb WelBeibl 31:7  A dyma nhw'n mynd allan i ymladd yn erbyn Midian, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Dyma nhw'n lladd y dynion i gyd,
Numb WelBeibl 31:8  gan gynnwys pum brenin Midian, sef Efi, Recem, Swr, Hur, a Reba, a hefyd Balaam fab Beor.
Numb WelBeibl 31:9  Yna dyma fyddin Israel yn cymryd merched a phlant Midian yn gaeth. Dyma nhw hefyd yn cymryd eu gwartheg, defaid, a phopeth arall o werth oddi arnyn nhw.
Numb WelBeibl 31:10  Wedyn dyma nhw'n llosgi eu trefi a'u pentrefi nhw i gyd.
Numb WelBeibl 31:11  Dyma nhw'n ysbeilio ac yn dwyn popeth, gan gynnwys y bobl a'r anifeiliaid i gyd.
Numb WelBeibl 31:12  A dyma nhw'n mynd â'r cwbl yn ôl at Moses ac Eleasar yr offeiriad, ac at holl bobl Israel oedd yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho.
Numb WelBeibl 31:13  Aeth Moses ac Eleasar a'r arweinwyr eraill i gyfarfod y fyddin tu allan i'r gwersyll.
Numb WelBeibl 31:14  Ond dyma Moses yn gwylltio'n lân gyda swyddogion y fyddin – y capteiniaid ar unedau o fil a'r unedau o gant oedd wedi dod yn ôl o'r frwydr.
Numb WelBeibl 31:15  “Pam dych chi wedi cadw'r merched yn fyw?” meddai wrthyn nhw.
Numb WelBeibl 31:16  “Dyma'r union bobl wnaeth wrando ar Balaam, a gwneud i bobl Israel wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD yn y digwyddiad yn Peor! A'r canlyniad oedd y pla ofnadwy wnaeth daro pobl yr ARGLWYDD!
Numb WelBeibl 31:17  Felly lladdwch y bechgyn i gyd, a lladdwch bob gwraig sydd wedi cysgu gyda dyn.
Numb WelBeibl 31:18  Ond cewch gadw'n fyw y merched ifanc hynny sydd heb eto gael rhyw.”
Numb WelBeibl 31:19  “Pwy bynnag sydd wedi lladd rhywun, neu wedi cyffwrdd corff marw, rhaid i chi aros tu allan i'r gwersyll am saith diwrnod. A rhaid i chi a'r merched dych chi wedi'u cymryd yn gaeth fynd drwy'r ddefod o buro eich hunain ar y trydydd diwrnod a'r seithfed diwrnod.
Numb WelBeibl 31:20  Rhaid i chi lanhau'ch dillad i gyd, a phopeth sydd wedi'i wneud o groen anifail, blew gafr neu bren.”
Numb WelBeibl 31:21  Yna dyma Eleasar yr offeiriad yn dweud wrth y dynion oedd wedi bod yn ymladd yn y frwydr, “Dyma reol roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses i ni ei chadw:
Numb WelBeibl 31:22  Mae popeth sydd wedi'i wneud o aur, arian, pres, haearn, tin neu blwm
Numb WelBeibl 31:23  (popeth sydd ddim yn llosgi) i gael ei buro drwy dân, a bydd yn lân yn seremonïol, ond rhaid iddo gael ei daenellu â dŵr y puro hefyd. Mae popeth fyddai'n llosgi yn y tân i gael ei buro gyda'r dŵr yn unig.
Numb WelBeibl 31:24  Yna, rhaid i chi olchi'ch dillad ar y seithfed diwrnod. Wedyn byddwch chi'n lân yn seremonïol, a gallwch ddod yn ôl i mewn i'r gwersyll.”
Numb WelBeibl 31:26  “Dw i eisiau i ti ac Eleasar yr offeiriad, a'r arweinwyr eraill, gyfri'r ysbail gafodd ei gasglu i gyd – yn ferched a phlant ac yn anifeiliaid.
Numb WelBeibl 31:27  Yna rhannu'r cwbl rhwng y dynion aeth i ymladd yn y frwydr, a gweddill pobl Israel.
Numb WelBeibl 31:28  Ond rhaid cymryd cyfran i'r ARGLWYDD o siâr y milwyr fuodd yn ymladd: Cyfran yr ARGLWYDD o'r caethion, y gwartheg, yr asynnod a'r defaid, fydd un o bob pum cant.
Numb WelBeibl 31:29  Mae hwn i'w gymryd o siâr y milwyr, a'i roi i Eleasar yr offeiriad i'w gyflwyno'n offrwm i'r ARGLWYDD.
Numb WelBeibl 31:30  Yna o'r hanner arall, sef siâr pobl Israel, rhaid cymryd un o bob hanner cant o'r caethion, y gwartheg, yr asynnod, a'r defaid. Un o bob hanner cant o'r anifeiliaid i gyd, i'w cyflwyno i'r Lefiaid sy'n gofalu am y Tabernacl i'r ARGLWYDD.”
Numb WelBeibl 31:31  Felly dyma Moses ac Eleasar yr offeiriad yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
Numb WelBeibl 31:32  A dyma swm yr ysbail roedd y dynion wedi'i gasglu: 675,000 o ddefaid,
Numb WelBeibl 31:35  a 32,000 o ferched ifanc oedd erioed wedi cysgu gyda dyn.
Numb WelBeibl 31:36  Siâr y dynion oedd wedi mynd i ymladd yn y rhyfel oedd: 337,500 o ddefaid
Numb WelBeibl 31:40  16,000 o ferched ifanc – 32 ohonyn nhw i'r ARGLWYDD.
Numb WelBeibl 31:41  Felly dyma Moses yn rhoi'r siâr oedd i'w gyflwyno'n offrwm i'r ARGLWYDD i Eleasar yr offeiriad, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
Numb WelBeibl 31:42  A dyma oedd siâr pobl Israel, sef hanner arall yr ysbail:
Numb WelBeibl 31:47  A dyma Moses yn cymryd un o bob hanner cant o siâr pobl Israel, a'i roi i'r Lefiaid oedd yn gofalu am y Tabernacl i'r ARGLWYDD, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
Numb WelBeibl 31:48  Yna dyma'r swyddogion milwrol yn dod at Moses – capteiniaid yr unedau o fil ac o gant.
Numb WelBeibl 31:49  A dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae dy weision wedi cyfri'r dynion fuodd yn ymladd yn y frwydr gyda ni. Dŷn ni wedi colli neb!
Numb WelBeibl 31:50  Felly dŷn ni wedi dod ag offrwm i'r ARGLWYDD o'r tlysau aur wnaethon ni eu casglu – breichledau, modrwyau, clustdlysau a chadwyni. Mae hyn i wneud pethau'n iawn rhyngon ni a Duw.”
Numb WelBeibl 31:51  Dyma Moses ac Eleasar yn cymryd yr aur ganddyn nhw – pob math o dlysau cywrain.
Numb WelBeibl 31:52  Roedd yr aur i gyd, gafodd ei gyflwyno i'r ARGLWYDD gan y capteiniaid, yn pwyso bron dau can cilogram.
Numb WelBeibl 31:53  (Roedd pob un o'r dynion wedi cymryd peth o'r ysbail iddo'i hun.)
Numb WelBeibl 31:54  Felly dyma Moses ac Eleasar yr offeiriad yn derbyn yr aur gan y capteiniaid, ac yn mynd â'r cwbl i babell presenoldeb Duw i atgoffa'r ARGLWYDD o bobl Israel.