Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
NUMBERS
Prev Up Next
Chapter 32
Numb WelBeibl 32:1  Roedd gan lwythau Reuben a Gad niferoedd enfawr o wartheg. Pan welon nhw'r tir yn Iaser a Gilead, roedden nhw'n gweld ei fod yn ddelfrydol i gadw gwartheg.
Numb WelBeibl 32:2  Felly dyma nhw'n mynd at Moses, Eleasar yr offeiriad, a'r arweinwyr eraill. A dyma nhw'n dweud:
Numb WelBeibl 32:3  “Mae gynnon ni lot fawr o wartheg, ac mae'r tir wnaeth yr ARGLWYDD ei roi yn nwylo pobl Israel yn ddelfrydol i gadw gwartheg – ardaloedd Ataroth, Dibon, Iaser, Nimra, Cheshbon, Elealê, Sebam, Nebo a Beon.
Numb WelBeibl 32:4  “Mae gynnon ni lot fawr o wartheg, ac mae'r tir wnaeth yr ARGLWYDD ei roi yn nwylo pobl Israel yn ddelfrydol i gadw gwartheg – ardaloedd Ataroth, Dibon, Iaser, Nimra, Cheshbon, Elealê, Sebam, Nebo a Beon.
Numb WelBeibl 32:5  Os ydyn ni wedi'ch plesio chi, plîs rhowch y tir yma i ni i'w etifeddu. Peidiwch mynd â ni ar draws afon Iorddonen.”
Numb WelBeibl 32:6  A dyma Moses yn ateb pobl llwythau Gad a Reuben, “Ydy'n deg fod rhaid i bawb arall fynd i ryfel, tra dych chi'n aros yma?
Numb WelBeibl 32:7  Ydych chi'n trio stopio gweddill pobl Israel rhag croesi drosodd i'r tir mae'r ARGLWYDD wedi'i roi iddyn nhw?
Numb WelBeibl 32:8  Dyma'n union beth wnaeth eich tadau chi yn Cadesh-barnea pan anfonais nhw i archwilio'r wlad.
Numb WelBeibl 32:9  Ar ôl mynd draw i ddyffryn Eshcol i weld y tir, dyma nhw'n annog pobl Israel i beidio mynd i mewn i'r wlad roedd yr ARGLWYDD yn ei rhoi iddyn nhw.
Numb WelBeibl 32:10  Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda nhw, ac meddai,
Numb WelBeibl 32:11  ‘Am eu bod nhw wedi bod yn anufudd i mi, fydd neb dros ugain oed, gafodd ei achub o'r Aifft, yn cael gweld y tir wnes i ei addo i Abraham, Isaac a Jacob!
Numb WelBeibl 32:12  Neb ond y ddau fuodd yn gwbl ffyddlon i mi – Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad, a Josua fab Nwn.’
Numb WelBeibl 32:13  Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio'n lân gyda nhw, a gwnaeth iddyn nhw grwydro yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd – nes roedd y genhedlaeth wnaeth y drwg wedi mynd.
Numb WelBeibl 32:14  A dyma chi nawr – criw arall o bechaduriaid – yn gwneud yn union yr un peth! Dych chi'n gwneud yr ARGLWYDD yn fwy dig byth gyda'i bobl Israel!
Numb WelBeibl 32:15  Os gwnewch chi droi cefn arno, bydd e'n gadael pobl Israel yn yr anialwch eto. Byddan nhw'n cael eu dinistrio, ac arnoch chi fydd y bai!”
Numb WelBeibl 32:16  Dyma nhw'n dod at Moses a dweud wrtho, “Gad i ni adeiladu corlannau i'n hanifeiliaid, a trefi i'n plant fyw ynddyn nhw.
Numb WelBeibl 32:17  Ond byddwn ni bob amser yn barod i fod ar flaen y gâd yn arwain pobl Israel i ryfel, nes byddan nhw wedi setlo yn eu gwlad. Bydd ein plant a'n teuluoedd yn aros yn y trefi fyddwn ni wedi'u hadeiladu, fel eu bod nhw'n saff rhag y bobl sy'n byw o'u cwmpas nhw.
Numb WelBeibl 32:18  Wnawn ni ddim mynd adre nes bydd pawb yn Israel wedi cael y tir sydd i fod iddyn nhw.
Numb WelBeibl 32:19  A fyddwn ni ddim yn disgwyl etifeddu unrhyw dir yr ochr draw i afon Iorddonen, am ein bod ni wedi cael y tir yma, sydd i'r dwyrain o'r afon.”
Numb WelBeibl 32:20  Dyma Moses yn ateb, “Os gwnewch chi hyn, a pharatoi'ch hunain i fynd i ryfel o flaen yr ARGLWYDD;
Numb WelBeibl 32:21  os bydd eich milwyr yn croesi'r Iorddonen ac yn aros nes bydd yr ARGLWYDD wedi gyrru'i elynion i gyd allan,
Numb WelBeibl 32:22  a'r ARGLWYDD wedi concro'r wlad, cewch ddod yn ôl yma. Byddwch wedi cyflawni'ch dyletswydd i'r ARGLWYDD ac i Israel. A bydd y tir yma yn perthyn i chi yng ngolwg Duw.
Numb WelBeibl 32:23  Ond os na wnewch chi gadw'ch gair, byddwch wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. Byddwch chi'n talu am eich pechod yn y diwedd.
Numb WelBeibl 32:24  Felly ewch ati i adeiladu trefi i'ch plant a chorlannau i'ch anifeiliaid, ond yna gwnewch beth dych chi wedi addo'i wneud.”
Numb WelBeibl 32:25  A dyma bobl llwythau Gad a Reuben yn ateb, “Bydd dy weision yn gwneud yn union fel mae ein meistr yn dweud.
Numb WelBeibl 32:26  Bydd ein gwragedd a'n plant, ein defaid a'n hanifeiliaid i gyd yn aros yma yn Gilead,
Numb WelBeibl 32:27  ond byddwn ni'r dynion i gyd yn croesi'r afon i ymladd dros yr ARGLWYDD, fel dwedaist ti.”
Numb WelBeibl 32:28  Felly dyma Moses yn rhoi gorchmynion am hyn i Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn, ac i arweinwyr eraill llwythau Israel.
Numb WelBeibl 32:29  “Os bydd y dynion o lwythau Gad a Reuben yn croesi'r Iorddonen gyda chi i ymladd ym mrwydrau'r ARGLWYDD, rhaid i chi roi tir Gilead iddyn nhw pan fyddwch chi wedi concro'r wlad.
Numb WelBeibl 32:30  Ond os byddan nhw'n gwrthod croesi drosodd i ymladd gyda chi, rhaid iddyn nhw dderbyn tir yn Canaan, fel pawb arall.”
Numb WelBeibl 32:31  A dyma bobl Gad a Reuben yn dweud eto, “Byddwn ni'n gwneud fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud.
Numb WelBeibl 32:32  Byddwn ni'n croesi drosodd i wlad Canaan yn barod i ymladd dros yr ARGLWYDD, a byddwn ni'n cael y tir sydd yr ochr yma i'r Iorddonen.”
Numb WelBeibl 32:33  Felly dyma Moses yn rhoi'r tir yma i lwythau Gad a Reuben, a hanner llwyth Manasse fab Joseff: tiriogaeth Sihon, brenin yr Amoriaid, a thiriogaeth Og, brenin Bashan. Cawson nhw'r tir i gyd, gyda'r trefi a'r tiroedd o'u cwmpas.
Numb WelBeibl 32:34  Dyma lwyth Gad yn ailadeiladu Dibon, Ataroth, Aroer,
Numb WelBeibl 32:36  Beth-nimra a Beth-haran yn drefi caerog amddiffynnol, gyda corlannau i'w hanifeiliaid.
Numb WelBeibl 32:37  Dyma lwyth Reuben yn ailadeiladu Cheshbon, Elealê, Ciriathaim,
Numb WelBeibl 32:38  Nebo, Baal-meon a Sibma, a rhoi enwau newydd i bob un.
Numb WelBeibl 32:39  A dyma feibion Machir fab Manasse yn mynd i dref Gilead, a'i chymryd oddi ar yr Amoriaid oedd yn byw yno.
Numb WelBeibl 32:40  A dyma Moses yn rhoi Gilead i ddisgynyddion Machir fab Manasse, a dyma nhw'n symud i fyw yno.
Numb WelBeibl 32:41  Wedyn dyma ddisgynyddion Jair fab Manasse yn dal nifer o'r pentrefi bach o gwmpas Gilead, a'u galw nhw yn Hafoth-jair (sef ‛Pentrefi Jair‛).
Numb WelBeibl 32:42  A dyma Nobach yn dal tref Cenath a'r pentrefi o'i chwmpas, a rhoi ei enw ei hun, Nobach, i'r ardal.