NUMBERS
Chapter 32
| Numb | WelBeibl | 32:1 | Roedd gan lwythau Reuben a Gad niferoedd enfawr o wartheg. Pan welon nhw'r tir yn Iaser a Gilead, roedden nhw'n gweld ei fod yn ddelfrydol i gadw gwartheg. | |
| Numb | WelBeibl | 32:2 | Felly dyma nhw'n mynd at Moses, Eleasar yr offeiriad, a'r arweinwyr eraill. A dyma nhw'n dweud: | |
| Numb | WelBeibl | 32:3 | “Mae gynnon ni lot fawr o wartheg, ac mae'r tir wnaeth yr ARGLWYDD ei roi yn nwylo pobl Israel yn ddelfrydol i gadw gwartheg – ardaloedd Ataroth, Dibon, Iaser, Nimra, Cheshbon, Elealê, Sebam, Nebo a Beon. | |
| Numb | WelBeibl | 32:4 | “Mae gynnon ni lot fawr o wartheg, ac mae'r tir wnaeth yr ARGLWYDD ei roi yn nwylo pobl Israel yn ddelfrydol i gadw gwartheg – ardaloedd Ataroth, Dibon, Iaser, Nimra, Cheshbon, Elealê, Sebam, Nebo a Beon. | |
| Numb | WelBeibl | 32:5 | Os ydyn ni wedi'ch plesio chi, plîs rhowch y tir yma i ni i'w etifeddu. Peidiwch mynd â ni ar draws afon Iorddonen.” | |
| Numb | WelBeibl | 32:6 | A dyma Moses yn ateb pobl llwythau Gad a Reuben, “Ydy'n deg fod rhaid i bawb arall fynd i ryfel, tra dych chi'n aros yma? | |
| Numb | WelBeibl | 32:7 | Ydych chi'n trio stopio gweddill pobl Israel rhag croesi drosodd i'r tir mae'r ARGLWYDD wedi'i roi iddyn nhw? | |
| Numb | WelBeibl | 32:8 | Dyma'n union beth wnaeth eich tadau chi yn Cadesh-barnea pan anfonais nhw i archwilio'r wlad. | |
| Numb | WelBeibl | 32:9 | Ar ôl mynd draw i ddyffryn Eshcol i weld y tir, dyma nhw'n annog pobl Israel i beidio mynd i mewn i'r wlad roedd yr ARGLWYDD yn ei rhoi iddyn nhw. | |
| Numb | WelBeibl | 32:11 | ‘Am eu bod nhw wedi bod yn anufudd i mi, fydd neb dros ugain oed, gafodd ei achub o'r Aifft, yn cael gweld y tir wnes i ei addo i Abraham, Isaac a Jacob! | |
| Numb | WelBeibl | 32:12 | Neb ond y ddau fuodd yn gwbl ffyddlon i mi – Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad, a Josua fab Nwn.’ | |
| Numb | WelBeibl | 32:13 | Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio'n lân gyda nhw, a gwnaeth iddyn nhw grwydro yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd – nes roedd y genhedlaeth wnaeth y drwg wedi mynd. | |
| Numb | WelBeibl | 32:14 | A dyma chi nawr – criw arall o bechaduriaid – yn gwneud yn union yr un peth! Dych chi'n gwneud yr ARGLWYDD yn fwy dig byth gyda'i bobl Israel! | |
| Numb | WelBeibl | 32:15 | Os gwnewch chi droi cefn arno, bydd e'n gadael pobl Israel yn yr anialwch eto. Byddan nhw'n cael eu dinistrio, ac arnoch chi fydd y bai!” | |
| Numb | WelBeibl | 32:16 | Dyma nhw'n dod at Moses a dweud wrtho, “Gad i ni adeiladu corlannau i'n hanifeiliaid, a trefi i'n plant fyw ynddyn nhw. | |
| Numb | WelBeibl | 32:17 | Ond byddwn ni bob amser yn barod i fod ar flaen y gâd yn arwain pobl Israel i ryfel, nes byddan nhw wedi setlo yn eu gwlad. Bydd ein plant a'n teuluoedd yn aros yn y trefi fyddwn ni wedi'u hadeiladu, fel eu bod nhw'n saff rhag y bobl sy'n byw o'u cwmpas nhw. | |
| Numb | WelBeibl | 32:18 | Wnawn ni ddim mynd adre nes bydd pawb yn Israel wedi cael y tir sydd i fod iddyn nhw. | |
| Numb | WelBeibl | 32:19 | A fyddwn ni ddim yn disgwyl etifeddu unrhyw dir yr ochr draw i afon Iorddonen, am ein bod ni wedi cael y tir yma, sydd i'r dwyrain o'r afon.” | |
| Numb | WelBeibl | 32:20 | Dyma Moses yn ateb, “Os gwnewch chi hyn, a pharatoi'ch hunain i fynd i ryfel o flaen yr ARGLWYDD; | |
| Numb | WelBeibl | 32:21 | os bydd eich milwyr yn croesi'r Iorddonen ac yn aros nes bydd yr ARGLWYDD wedi gyrru'i elynion i gyd allan, | |
| Numb | WelBeibl | 32:22 | a'r ARGLWYDD wedi concro'r wlad, cewch ddod yn ôl yma. Byddwch wedi cyflawni'ch dyletswydd i'r ARGLWYDD ac i Israel. A bydd y tir yma yn perthyn i chi yng ngolwg Duw. | |
| Numb | WelBeibl | 32:23 | Ond os na wnewch chi gadw'ch gair, byddwch wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. Byddwch chi'n talu am eich pechod yn y diwedd. | |
| Numb | WelBeibl | 32:24 | Felly ewch ati i adeiladu trefi i'ch plant a chorlannau i'ch anifeiliaid, ond yna gwnewch beth dych chi wedi addo'i wneud.” | |
| Numb | WelBeibl | 32:25 | A dyma bobl llwythau Gad a Reuben yn ateb, “Bydd dy weision yn gwneud yn union fel mae ein meistr yn dweud. | |
| Numb | WelBeibl | 32:26 | Bydd ein gwragedd a'n plant, ein defaid a'n hanifeiliaid i gyd yn aros yma yn Gilead, | |
| Numb | WelBeibl | 32:27 | ond byddwn ni'r dynion i gyd yn croesi'r afon i ymladd dros yr ARGLWYDD, fel dwedaist ti.” | |
| Numb | WelBeibl | 32:28 | Felly dyma Moses yn rhoi gorchmynion am hyn i Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn, ac i arweinwyr eraill llwythau Israel. | |
| Numb | WelBeibl | 32:29 | “Os bydd y dynion o lwythau Gad a Reuben yn croesi'r Iorddonen gyda chi i ymladd ym mrwydrau'r ARGLWYDD, rhaid i chi roi tir Gilead iddyn nhw pan fyddwch chi wedi concro'r wlad. | |
| Numb | WelBeibl | 32:30 | Ond os byddan nhw'n gwrthod croesi drosodd i ymladd gyda chi, rhaid iddyn nhw dderbyn tir yn Canaan, fel pawb arall.” | |
| Numb | WelBeibl | 32:31 | A dyma bobl Gad a Reuben yn dweud eto, “Byddwn ni'n gwneud fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud. | |
| Numb | WelBeibl | 32:32 | Byddwn ni'n croesi drosodd i wlad Canaan yn barod i ymladd dros yr ARGLWYDD, a byddwn ni'n cael y tir sydd yr ochr yma i'r Iorddonen.” | |
| Numb | WelBeibl | 32:33 | Felly dyma Moses yn rhoi'r tir yma i lwythau Gad a Reuben, a hanner llwyth Manasse fab Joseff: tiriogaeth Sihon, brenin yr Amoriaid, a thiriogaeth Og, brenin Bashan. Cawson nhw'r tir i gyd, gyda'r trefi a'r tiroedd o'u cwmpas. | |
| Numb | WelBeibl | 32:36 | Beth-nimra a Beth-haran yn drefi caerog amddiffynnol, gyda corlannau i'w hanifeiliaid. | |
| Numb | WelBeibl | 32:39 | A dyma feibion Machir fab Manasse yn mynd i dref Gilead, a'i chymryd oddi ar yr Amoriaid oedd yn byw yno. | |
| Numb | WelBeibl | 32:40 | A dyma Moses yn rhoi Gilead i ddisgynyddion Machir fab Manasse, a dyma nhw'n symud i fyw yno. | |
| Numb | WelBeibl | 32:41 | Wedyn dyma ddisgynyddion Jair fab Manasse yn dal nifer o'r pentrefi bach o gwmpas Gilead, a'u galw nhw yn Hafoth-jair (sef ‛Pentrefi Jair‛). | |