NUMBERS
Chapter 21
Numb | WelBeibl | 21:1 | Dyma frenin Canaaneaidd Arad, oedd yn byw yn y Negef, yn clywed fod Israel yn dod ar y ffordd i Atharîm. Felly dyma fe'n ymosod arnyn nhw, ac yn cymryd rhai o bobl Israel yn gaeth. | |
Numb | WelBeibl | 21:2 | Dyma bobl Israel yn gwneud adduned i'r ARGLWYDD, “Os gwnei di'n helpu ni i goncro'r bobl yma, gwnawn ni ddinistrio'u trefi nhw'n llwyr.” | |
Numb | WelBeibl | 21:3 | Dyma'r ARGLWYDD yn ateb eu gweddi nhw, a dyma nhw'n concro'r Canaaneaid a dinistrio'u trefi nhw'n llwyr. A dyma nhw'n galw'r lle yn Horma (sef ‛Dinistr‛). | |
Numb | WelBeibl | 21:4 | Dyma nhw'n teithio o Fynydd Hor ar hyd ffordd y Môr Coch, er mwyn mynd o gwmpas tir Edom. Ond ar y ffordd dyma nhw'n dechrau teimlo'n flin a diamynedd. | |
Numb | WelBeibl | 21:5 | A dyma nhw'n dechrau cwyno eto, a dweud pethau yn erbyn Duw a Moses. “Pam dych chi wedi dod â ni allan o'r Aifft i farw yn yr anialwch yma? Does dim bwyd yma, na dŵr, a dŷn ni'n casáu'r stwff diwerth yma!” | |
Numb | WelBeibl | 21:6 | Felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon nadroedd gwenwynig i'w canol nhw. Cafodd lot o bobl eu brathu, a buon nhw farw. | |
Numb | WelBeibl | 21:7 | A dyma'r bobl yn dod at Moses a dweud, “Dŷn ni wedi pechu drwy ddweud pethau yn erbyn yr ARGLWYDD ac yn dy erbyn di. Plîs gweddïa y bydd yr ARGLWYDD yn cymryd y nadroedd yma i ffwrdd.” Felly dyma Moses yn gweddïo dros y bobl. | |
Numb | WelBeibl | 21:8 | A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Gwna ddelw o neidr, a'i chodi ar bolyn. Wedyn, pan fydd rhywun sydd wedi'i frathu yn edrych arni, bydd yn cael byw.” | |
Numb | WelBeibl | 21:9 | A dyma Moses yn gwneud neidr bres a'i chodi ar bolyn. Wedyn os oedd neidr yn brathu rhywun, pan fyddai'r person hwnnw'n edrych ar y neidr bres, byddai'n cael byw. | |
Numb | WelBeibl | 21:13 | Wedyn mynd yn eu blaenau a gwersylla yr ochr draw i Arnon, yn yr anialwch sy'n ymestyn o'r ardaloedd ble mae'r Amoriaid yn byw. Mae Arnon ar ffin Moab, yn y canol rhwng Moab a'r Amoriaid. | |
Numb | WelBeibl | 21:14 | Mae Llyfr Rhyfeloedd yr ARGLWYDD yn cyfeirio at y lle fel yma: “Tref Waheb yn Swffa, a chymoedd Arnon, | |
Numb | WelBeibl | 21:16 | Teithio wedyn i Beër (sef ‛Y Ffynnon‛), lle dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Casgla'r bobl at ei gilydd, a gwna i roi dŵr iddyn nhw.” | |
Numb | WelBeibl | 21:18 | Ffynnon agorodd tywysogion, wedi'i chloddio gyda theyrnwialennau a ffyn yr arweinwyr.” A dyma nhw'n teithio o'r anialwch i Mattana. | |
Numb | WelBeibl | 21:22 | “Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di? Wnawn ni ddim niwed i unrhyw gnydau na gwinllannoedd, na hyd yn oed yfed dŵr o unrhyw ffynnon. Byddwn ni'n cadw ar Briffordd y Brenin yr holl ffordd, nes byddwn ni wedi croesi'r ffin yr ochr arall.” | |
Numb | WelBeibl | 21:23 | Ond gwrthododd Sihon adael i bobl Israel groesi ei dir. Casglodd ei fyddin at ei gilydd, ac ymosod ar Israel yn Iahats yn yr anialwch. | |
Numb | WelBeibl | 21:24 | Ond Israel wnaeth ennill y frwydr, a dyma nhw'n cymryd eu tir oddi arnyn nhw, o Ddyffryn Arnon i afon Jabboc, a'r holl ffordd at ffin yr Ammoniaid. Roedd y ffin honno wedi'i hamddiffyn, ac yn gwbl ddiogel. | |
Numb | WelBeibl | 21:25 | Dyma Israel yn concro trefi'r Amoriaid i gyd, a setlo ynddyn nhw, gan gynnwys dinas Cheshbon ei hun a'r pentrefi o'i chwmpas. | |
Numb | WelBeibl | 21:26 | Cheshbon oedd dinas Sihon, brenin yr Amoriaid. Ac roedd Sihon wedi concro brenin Moab a chymryd ei dir oddi arno, yr holl ffordd at afon Arnon. | |
Numb | WelBeibl | 21:27 | Dyna pam mae'r baledwyr yn dweud, “Dewch i Cheshbon, dinas Sihon, i'w hadfer a'i hailadeiladu. | |
Numb | WelBeibl | 21:28 | Roedd tân yn llosgi yn Cheshbon – fflamau o dref y Brenin Sihon. Mae wedi llosgi Ar yn Moab ac arweinwyr ucheldir Arnon. | |
Numb | WelBeibl | 21:29 | Mae hi ar ben arnat ti, Moab! Dych chi bobl sy'n addoli Chemosh wedi'ch difa. Mae eich meibion yn ffoaduriaid, a'ch merched wedi'u cymryd yn gaethion, gan Sihon, brenin yr Amoriaid. | |
Numb | WelBeibl | 21:30 | Dŷn ni wedi'u difa nhw'n llwyr o Cheshbon yr holl ffordd i Dibon. Dŷn ni wedi'u taro nhw i lawr yr holl ffordd i Noffa a Medeba.” | |
Numb | WelBeibl | 21:32 | Dyma Moses yn anfon ysbiwyr i edrych ar dref Iaser. A dyma nhw'n dal y pentrefi yno, a gyrru allan yr Amoriaid oedd yn byw yno. | |
Numb | WelBeibl | 21:33 | Wedyn dyma nhw'n troi i'r gogledd, ac yn mynd i gyfeiriad Bashan. A dyma Og, brenin Bashan yn dod â'i fyddin gyfan i ymladd yn eu herbyn nhw yn Edrei. | |
Numb | WelBeibl | 21:34 | Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Paid bod â'i ofn. Dw i'n mynd i roi Og a'i fyddin a'i dir i gyd i ti. Byddi'n gwneud yr un fath iddo fe ag a wnest ti i Sihon brenin yr Amoriaid oedd yn byw yn Cheshbon.” | |