Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
NUMBERS
Prev Up Next
Chapter 5
Numb WelBeibl 5:2  “Gorchymyn bobl Israel i anfon allan o'r gwersyll unrhyw un sy'n dioddef o glefyd heintus ar y croen, neu glefyd ar ei bidyn, neu ddiferiad o unrhyw fath, neu unrhyw un sy'n aflan am ei fod wedi cyffwrdd corff marw.
Numb WelBeibl 5:3  Dynion a merched fel ei gilydd – rhaid eu gyrru nhw allan fel bod y gwersyll, lle dw i'n byw yn eich canol chi, ddim yn cael ei wneud yn aflan.”
Numb WelBeibl 5:4  Felly dyma bobl Israel yn eu gyrru nhw allan o'r gwersyll, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
Numb WelBeibl 5:6  “Dwed wrth bobl Israel, ‘Pan mae dyn neu wraig yn gwneud drwg i rywun arall, mae'n euog o droseddu yn erbyn yr ARGLWYDD.
Numb WelBeibl 5:7  Mae'n rhaid iddo gyfadde'r drwg mae wedi'i wneud, talu'r person arall yn ôl yn llawn ac ychwanegu 20% ato.
Numb WelBeibl 5:8  Ond os ydy'r person gafodd y drwg ei wneud iddo wedi marw a heb berthynas agos y gellid talu iddo, mae'r tâl i gael ei roi i'r ARGLWYDD. Mae i'w roi i'r offeiriad, gyda'r hwrdd mae'n ei gyflwyno i wneud pethau'n iawn rhyngddo a'r ARGLWYDD.
Numb WelBeibl 5:9  Yr offeiriad sy'n cael yr holl bethau cysegredig mae pobl Israel yn eu cyflwyno iddo.
Numb WelBeibl 5:10  Mae'r offeiriad yn cael cadw beth bynnag mae unrhyw un yn ei gyflwyno iddo fel offrwm cysegredig.’”
Numb WelBeibl 5:12  “Dwed wrth bobl Israel: ‘Dyma sydd i ddigwydd os ydy gwraig rhywun yn anffyddlon iddo:
Numb WelBeibl 5:13  Cymrwch ei bod hi wedi cael rhyw gyda dyn arall heb yn wybod i'w gŵr. (Doedd neb arall wedi'u gweld nhw, a wnaethon nhw ddim cael eu dal yn y weithred.)
Numb WelBeibl 5:14  Os ydy'r gŵr yn amau fod rhywbeth wedi digwydd, ac yn dechrau teimlo'n genfigennus (hyd yn oed os ydy'r wraig yn ddieuog),
Numb WelBeibl 5:15  rhaid i'r gŵr fynd â hi at yr offeiriad. Mae i gyflwyno cilogram o flawd haidd yn offrwm trosti. Ond rhaid iddo beidio tywallt olew olewydd ar y blawd na rhoi thus arno, am mai offrwm amheuaeth ydy e, er mwyn dod â'r drwg i'r amlwg.
Numb WelBeibl 5:16  “‘Bydd yr offeiriad yn gwneud i'r wraig sefyll o flaen yr ARGLWYDD.
Numb WelBeibl 5:17  Wedyn bydd yr offeiriad yn rhoi dŵr cysegredig mewn cwpan bridd, a rhoi llwch oddi ar lawr y Tabernacl yn y dŵr.
Numb WelBeibl 5:18  Yna, tra mae'r wraig yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD, mae'r offeiriad i ddatod ei gwallt hi a rhoi'r offrwm o rawn yn ei dwylo, sef yr offrwm amheuaeth. Wedyn, mae'r offeiriad i sefyll o'i blaen hi, gyda'r gwpan o ddŵr chwerw sy'n dod â melltith yn ei law.
Numb WelBeibl 5:19  Wedyn rhaid i'r offeiriad wneud i'r wraig fynd ar ei llw, a dweud wrthi, “Os wyt ti ddim wedi cysgu gyda dyn arall, a gwneud dy hun yn aflan drwy fod yn anffyddlon i dy ŵr, boed i'r dŵr chwerw yma sy'n dod â melltith wneud dim drwg i ti.
Numb WelBeibl 5:20  Ond os wyt ti wedi bod yn anffyddlon, ac wedi gwneud dy hun yn aflan drwy gael rhyw gyda dyn arall, yna boed i bawb weld fod yr ARGLWYDD wedi dy felltithio di, am dy fod ti'n methu cael plant byth eto!” (Bydd yr offeiriad wedi rhoi'r wraig dan lw i gael ei melltithio os ydy hi'n euog.)
Numb WelBeibl 5:21  Ond os wyt ti wedi bod yn anffyddlon, ac wedi gwneud dy hun yn aflan drwy gael rhyw gyda dyn arall, yna boed i bawb weld fod yr ARGLWYDD wedi dy felltithio di, am dy fod ti'n methu cael plant byth eto!” (Bydd yr offeiriad wedi rhoi'r wraig dan lw i gael ei melltithio os ydy hi'n euog.)
Numb WelBeibl 5:22  “Bydd y dŵr yma sy'n achosi melltith yn gwneud niwed i dy gorff, fel dy fod yn methu cael plant byth eto!” A dylai'r wraig ateb, “Amen, amen.”
Numb WelBeibl 5:23  Wedyn, mae'r offeiriad i ysgrifennu'r melltithion yma ar sgrôl, cyn eu crafu i ffwrdd eto i'r dŵr.
Numb WelBeibl 5:24  Yna rhaid iddo wneud i'r wraig yfed y dŵr chwerw sy'n dod â melltith, fel ei bod yn diodde'n chwerw os ydy hi'n euog.
Numb WelBeibl 5:25  Bydd yr offeiriad yn cymryd grawn yr offrwm amheuaeth o ddwylo'r wraig, ei chwifio o flaen yr ARGLWYDD, a mynd ag e at yr allor.
Numb WelBeibl 5:26  Bydd yr offeiriad yn cymryd dyrnaid o'r offrwm i'w losgi'n ernes ar yr allor. Yna bydd yn gwneud i'r wraig yfed y dŵr.
Numb WelBeibl 5:27  “‘Os ydy'r wraig wedi gwneud ei hun yn aflan drwy fod yn anffyddlon i'w gŵr, bydd y dŵr yn gwneud iddi ddiodde'n chwerw. Bydd hi'n methu cael plant byth eto, a bydd ei henw'n felltith yng ngolwg y bobl.
Numb WelBeibl 5:28  Ond os ydy'r wraig yn ddieuog, a heb wneud ei hun yn aflan, fydd y dŵr yn gwneud dim niwed iddi, a bydd hi'n gallu cael plant eto.
Numb WelBeibl 5:29  “‘Felly, dyma sut mae delio gydag achos o eiddigedd, pan mae gwraig wedi bod yn anffyddlon i'w gŵr ac wedi gwneud ei hun yn aflan.
Numb WelBeibl 5:30  Neu pan mae gŵr yn amau ei wraig ac yn dechrau teimlo'n eiddigeddus. Rhaid iddo ddod â'i wraig i sefyll o flaen yr ARGLWYDD, a bydd yr offeiriad yn mynd drwy'r ddefod yma gyda hi.
Numb WelBeibl 5:31  Fydd y gŵr ddim yn euog o wneud unrhyw beth o'i le, ond bydd y wraig yn gyfrifol am ei phechod.’”