Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
NUMBERS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 18
Numb WelBeibl 18:1  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron: “Ti a dy feibion a dy berthnasau o lwyth Lefi sy'n gyfrifol am unrhyw ddrwg sy'n cael ei wneud yn y cysegr. Ond ti a dy feibion sy'n gyfrifol am unrhyw ddrwg sy'n cael ei wneud gan yr offeiriaid.
Numb WelBeibl 18:2  Gad i dy berthnasau, o lwyth Lefi, dy helpu di a dy feibion wrth i chi gyflawni'ch gwaith o flaen pabell y dystiolaeth.
Numb WelBeibl 18:3  Maen nhw i'ch helpu chi i ofalu am y Tabernacl. Ond rhaid iddyn nhw beidio mynd yn agos at unrhyw offer cysegredig na'r allor, neu byddan nhw a chi yn marw.
Numb WelBeibl 18:4  Maen nhw i'ch helpu chi i ofalu am babell presenoldeb Duw, ac i wneud eich gwaith yn y Tabernacl. Ond does neb o'r tu allan i gael dod yn agos.
Numb WelBeibl 18:5  Chi fydd yn gyfrifol am y cysegr a'r allor, fel bod yr ARGLWYDD ddim yn gwylltio hefo pobl Israel eto.
Numb WelBeibl 18:6  Fi sydd wedi dewis dy berthnasau di o lwyth Lefi i wneud y gwaith yma. Maen nhw'n anrheg i ti gan yr ARGLWYDD, i weithio yn y Tabernacl.
Numb WelBeibl 18:7  Ond ti a dy feibion sy'n gyfrifol am wneud gwaith yr offeiriaid – popeth sy'n ymwneud â'r allor a'r tu mewn i'r llen. Mae'r fraint o gael gwneud gwaith offeiriad yn anrheg gen i i chi. Os bydd unrhyw un arall yn dod yn rhy agos, y gosb fydd marwolaeth.”
Numb WelBeibl 18:8  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron, “Ti a dy feibion sydd i fod yn gyfrifol bob amser am yr offrymau sy'n cael eu cyflwyno i mi. Dw i'n rhoi dy siâr di o offrymau pobl Israel i ti a dy feibion.
Numb WelBeibl 18:9  Byddi di'n cael y rhannau hynny o'r offrymau sydd ddim yn cael eu llosgi – eu hoffrymau nhw o rawn a'r offrwm puro a'r offrwm i gyfaddef bai. Mae'r rhain i gael eu rhoi o'r neilltu i ti a dy feibion.
Numb WelBeibl 18:10  Mae i'w fwyta fel offrwm cysegredig gan y dynion. Mae wedi'i gysegru i chi ei fwyta.
Numb WelBeibl 18:11  Chi sydd i gael yr offrwm sy'n cael ei chwifio hefyd. Mae hwn bob amser i gael ei fwyta gan y teulu i gyd, yn ddynion a merched. Mae pawb yn y teulu sy'n lân yn seremonïol yn cael ei fwyta.
Numb WelBeibl 18:12  A dw i'n rhoi eu rhoddion nhw o ffrwyth cyntaf y cnydau i chi hefyd – yr olew olewydd gorau, y sudd grawnwin gorau a'r gorau o'r grawn.
Numb WelBeibl 18:13  A'r ffrwythau aeddfed cyntaf maen nhw'n eu cyflwyno i'r ARGLWYDD – chi piau nhw, ac mae pawb yn y teulu sy'n lân yn seremonïol yn cael eu bwyta.
Numb WelBeibl 18:14  Chi sy'n cael popeth sydd wedi'i gadw o'r neilltu i Dduw gan bobl Israel.
Numb WelBeibl 18:15  Chi piau'r meibion hynaf a phob anifail cyntaf i gael eu geni, sef y rhai sy'n cael eu cyflwyno i'r ARGLWYDD. Ond rhaid i'r meibion hynaf a'r anifeiliaid cyntaf gael eu prynu'n ôl gynnoch chi.
Numb WelBeibl 18:16  Maen nhw i gael eu prynu pan maen nhw'n fis oed, am bum darn arian (yn ôl mesur safonol y cysegr – sef dau ddeg gera).
Numb WelBeibl 18:17  Ond dydy'r anifail cyntaf i gael ei eni i fuwch neu ddafad neu afr ddim i gael eu prynu'n ôl. Maen nhw wedi'u cysegru i gael eu haberthu. Rhaid i'w gwaed gael ei sblasio ar yr allor, a rhaid i'r braster gael ei losgi yn offrwm – yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Numb WelBeibl 18:18  Ond chi sy'n cael y cig, fel dych chi'n cael cadw brest a rhan uchaf coes ôl yr offrymau sy'n cael eu chwifio.
Numb WelBeibl 18:19  Dw i'n rhoi'r rhain i gyd i chi a'ch teulu – yr offrymau sy'n cael eu cyflwyno gan bobl Israel i'r ARGLWYDD. Chi fydd piau'r rhain bob amser. Mae hwn yn ymrwymiad dw i, yr ARGLWYDD, yn ei wneud i chi a'ch disgynyddion. Fydd hyn byth yn newid.”
Numb WelBeibl 18:20  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron, “Fyddwch chi'r offeiriaid ddim yn cael tir i chi'ch hunain yn y wlad. Fi ydy'ch siâr chi.
Numb WelBeibl 18:21  A siâr y Lefiaid fydd y deg y cant fydd pobl Israel yn ei dalu – dyma'r tâl fyddan nhw'n ei gael am eu gwaith yn y Tabernacl.
Numb WelBeibl 18:22  O hyn ymlaen bydd rhaid i weddill pobl Israel gadw draw oddi wrth y Tabernacl, neu byddan nhw'n euog o bechu a bydd rhaid iddyn nhw farw.
Numb WelBeibl 18:23  Y Lefiaid sy'n cael gweithio yn y Tabernacl, a nhw fydd yn gyfrifol os gwnân nhw rywbeth o'i le. Dydy'r Lefiaid ddim i gael tir yn y wlad iddyn nhw'u hunain. Fydd y rheol yma byth yn newid.
Numb WelBeibl 18:24  Mae'r Lefiaid i gael y degymau fydd pobl Israel yn eu cyflwyno yn offrwm i'r ARGLWYDD. Dyna pam dw i'n dweud nad ydyn nhw i gael tir iddyn nhw'u hunain.”
Numb WelBeibl 18:26  “Dwed wrth y Lefiaid, ‘Pan fyddwch chi'n derbyn y degwm dw i wedi'i roi i chi gan bobl Israel, dych chi i gyflwyno un rhan o ddeg ohono yn offrwm i'r ARGLWYDD.
Numb WelBeibl 18:27  A bydd yr offrwm yma dych chi'n ei gyflwyno yn cael ei gyfri fel petai'n rawn o'r llawr dyrnu neu'n win o'r winwasg.
Numb WelBeibl 18:28  Rhaid i chi gyflwyno i'r ARGLWYDD un rhan o ddeg o'r degwm dych chi'n ei dderbyn gan bobl Israel. Mae'r siâr yma i gael ei roi i Aaron yr offeiriad.
Numb WelBeibl 18:29  Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi siâr o bopeth dych chi'n ei dderbyn i'r ARGLWYDD, ac mai hwnnw ydy'r darn gorau ohono.’
Numb WelBeibl 18:30  “Dwed wrthyn nhw, ‘Pan fyddwch chi'n cyflwyno'r gorau o'r degwm i'r ARGLWYDD, bydd yn cael ei gyfri fel petai'n rawn o'r llawr dyrnu neu'n win o'r winwasg.
Numb WelBeibl 18:31  Gewch chi a'ch teulu fwyta'r gweddill ohono unrhyw bryd, unrhyw le – eich cyflog chi am eich gwaith yn y Tabernacl ydy e.
Numb WelBeibl 18:32  Os gwnewch chi gyflwyno'r gorau ohono i Dduw, fyddwch chi ddim yn euog o bechu drwy ddangos diffyg parch at offrymau pobl Israel, a fydd dim rhaid i chi farw.’”