NUMBERS
Chapter 27
Numb | WelBeibl | 27:1 | Dyma ferched Seloffchad yn dod ymlaen. Roedd eu tad yn fab i Cheffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse – o glan Manasse fab Joseff. Enwau'r merched oedd Machla, Noa, Hogla, Milca a Tirtsa. | |
Numb | WelBeibl | 27:2 | Dyma nhw'n dod a sefyll o flaen Moses ac Eleasar yr offeiriad, ac arweinwyr y bobl i gyd, wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw. | |
Numb | WelBeibl | 27:3 | “Buodd dad farw yn yr anialwch,” medden nhw. “Doedd e ddim yn un o'r rhai wnaeth wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD gyda Cora. Buodd e farw o achos ei bechod ei hun. Ond doedd ganddo fe ddim meibion. | |
Numb | WelBeibl | 27:4 | Pam ddylai enw dad ddiflannu o hanes y teulu am fod ganddo ddim meibion? Rho dir i ni ei etifeddu gyda brodyr ein tad.” | |
Numb | WelBeibl | 27:7 | “Mae merched Seloffchad yn iawn. Rho dir iddyn nhw ei etifeddu gyda brodyr eu tad. Dylen nhw gael siâr eu tad o'r tir. | |
Numb | WelBeibl | 27:8 | Felly rhaid i ti ddweud hyn wrth bobl Israel, ‘Os ydy dyn yn marw heb gael mab, rhaid i'r etifeddiaeth gael ei rhoi i'w ferch. | |
Numb | WelBeibl | 27:11 | Ond os oes gan ei dad ddim brodyr chwaith, mae'r etifeddiaeth i gael ei rhoi i'r perthynas agosaf yn y teulu.’” Dyma fydd y drefn gyfreithiol yn Israel, yn union fel mae'r ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. | |
Numb | WelBeibl | 27:12 | Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dringa i ben mynyddoedd Afarîm, i ti weld y tir dw i'n ei roi i bobl Israel. | |
Numb | WelBeibl | 27:14 | am i'r ddau ohonoch chi wrthod gwneud beth ddwedais i yn anialwch Sin. Roedd y bobl wedi gwrthryfela a dangos dim parch ata i wrth y dŵr,” (sef Ffynnon Meriba yn Cadesh yn anialwch Sin). | |
Numb | WelBeibl | 27:16 | “O ARGLWYDD, y Duw sy'n rhoi bywyd i bopeth byw, rhaid i ti benodi rhywun i arwain y bobl. | |
Numb | WelBeibl | 27:17 | Rhaid cael rhywun i'w harwain nhw allan i ryfel, a dod â nhw adre wedyn, neu bydd pobl yr ARGLWYDD fel defaid heb fugail i ofalu amdanyn nhw!” | |
Numb | WelBeibl | 27:18 | A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Dw i eisiau i ti gymryd Josua fab Nwn – dyn sydd â'r Ysbryd ynddo – a'i gomisiynu e i'r gwaith drwy osod dy law arno. Gwna hyn yn gyhoeddus o flaen Eleasar yr offeiriad a'r bobl i gyd. | |
Numb | WelBeibl | 27:19 | A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Dw i eisiau i ti gymryd Josua fab Nwn – dyn sydd â'r Ysbryd ynddo – a'i gomisiynu e i'r gwaith drwy osod dy law arno. Gwna hyn yn gyhoeddus o flaen Eleasar yr offeiriad a'r bobl i gyd. | |
Numb | WelBeibl | 27:20 | Maen nhw i weld dy fod wedi trosglwyddo'r awdurdod sydd gen ti iddo fe, ac wedyn byddan nhw'n ufuddhau iddo. | |
Numb | WelBeibl | 27:21 | Bydd yn mynd at Eleasar yr offeiriad pan fydd angen arweiniad arno, a bydd Eleasar yn defnyddio'r Wrim i ddarganfod beth mae'r ARGLWYDD eisiau – pryd i fynd allan i ymladd, a pryd i ddod yn ôl.” | |
Numb | WelBeibl | 27:22 | Felly dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Dyma fe'n gwneud i Josua sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad a'r bobl i gyd. | |