NUMBERS
Chapter 30
Numb | WelBeibl | 30:1 | Yna dyma Moses yn siarad gydag arweinwyr llwythau Israel. Dwedodd wrthyn nhw, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei orchymyn: | |
Numb | WelBeibl | 30:2 | “Pan mae rhywun yn gwneud adduned i'r ARGLWYDD, neu'n tyngu llw, rhaid iddo gadw ei air a gwneud beth ddwedodd e. | |
Numb | WelBeibl | 30:3 | “Os ydy merch ifanc, sy'n dal i fyw adre gyda'i theulu, yn gwneud adduned i'r ARGLWYDD, neu'n gosod ei hun dan lw, | |
Numb | WelBeibl | 30:4 | a'i thad yn ei chlywed yn gwneud hynny, ac yn dweud dim am y peth, mae'r addewid wnaeth hi yn sefyll – rhaid iddi wneud beth wnaeth hi addo. | |
Numb | WelBeibl | 30:5 | Ond os ydy ei thad yn dweud yn wahanol pan mae'n clywed am y peth, dydy'r addewidion wnaeth hi ddim yn ddilys. Bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi, am fod ei thad wedi dweud yn wahanol. | |
Numb | WelBeibl | 30:7 | a'i gŵr yn clywed am y peth ond yn dweud dim, mae'r addewid wnaeth hi yn sefyll – rhaid iddi wneud beth wnaeth hi addo. | |
Numb | WelBeibl | 30:8 | Ond os ydy ei gŵr yn dweud yn wahanol pan mae'n clywed am y peth, dydy'r addewidion wnaeth hi ddim yn ddilys. Bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi. | |
Numb | WelBeibl | 30:9 | “Os ydy gwraig weddw, neu wraig sydd wedi cael ysgariad, yn gwneud addewid, rhaid iddi wneud beth wnaeth hi addo. | |
Numb | WelBeibl | 30:11 | a'i gŵr yn clywed am y peth, ond yn dweud dim yn wahanol, bydd rhaid iddi wneud beth wnaeth hi addo. | |
Numb | WelBeibl | 30:12 | Ond os ydy ei gŵr hi yn dweud yn wahanol pan mae'n clywed am y peth, dydy'r addewidion wnaeth hi ddim yn ddilys. Mae ei gŵr wedi dweud yn wahanol, a bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi. | |
Numb | WelBeibl | 30:13 | Felly mae ei gŵr yn gallu cadarnhau'r addewid mae'n ei wneud i ymwrthod â rhywbeth, neu'n gallu dweud yn wahanol. | |
Numb | WelBeibl | 30:14 | Pan mae'r gŵr yn dweud dim am y peth am ddyddiau lawer, mae e'n cadarnhau'r addewid neu'r ymrwymiad mae wedi'i wneud. Mae'n ei gadarnhau am ei fod wedi dweud dim am y peth. | |
Numb | WelBeibl | 30:15 | Os ydy e'n dweud yn wahanol beth amser ar ôl iddo glywed am y peth, fe fydd e'n gyfrifol am ei phechod hi.” | |