Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
NUMBERS
Prev Up Next
Chapter 19
Numb WelBeibl 19:2  “A dyma reol arall mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn ei chadw: ‘Dwed wrth bobl Israel am ddod â heffer goch sydd â dim byd o'i le arni – anifail heb nam corfforol ac sydd erioed wedi gweithio gyda iau.
Numb WelBeibl 19:3  Rhaid rhoi'r heffer i Eleasar yr offeiriad, a bydd yn cael ei chymryd allan o'r gwersyll a'i lladd o'i flaen e.
Numb WelBeibl 19:4  Yna mae Eleasar i gymryd peth o waed yr heffer, a'i daenellu gyda'i fys saith gwaith i gyfeiriad pabell presenoldeb Duw.
Numb WelBeibl 19:5  Wedyn mae'r heffer i gael ei llosgi o'i flaen – y croen, cnawd, gwaed, a'r coluddion i gyd.
Numb WelBeibl 19:6  Yna rhaid i'r offeiriad gymryd pren cedrwydd, isop, ac edau goch a'u taflu nhw i'r tân lle mae'r heffer yn llosgi.
Numb WelBeibl 19:7  Wedyn rhaid i'r offeiriad olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr cyn dod yn ôl i mewn i'r gwersyll. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Numb WelBeibl 19:8  A rhaid i'r dyn sy'n llosgi'r heffer olchi ei ddillad hefyd, ac ymolchi mewn dŵr. Bydd e hefyd yn aflan am weddill y dydd.
Numb WelBeibl 19:9  “‘Yna rhaid i ddyn sydd ddim yn aflan gasglu lludw yr heffer goch, a'i osod mewn lle sy'n lân yn seremonïol tu allan i'r gwersyll. Mae'r lludw i'w gadw i bobl Israel ei ddefnyddio yn seremoni dŵr y puro. Mae'r seremoni yma ar gyfer symud pechodau.
Numb WelBeibl 19:10  Wedyn, rhaid i'r un wnaeth gasglu'r lludw olchi ei ddillad. Bydd e hefyd yn aflan am weddill y dydd. Dyma fydd y drefn bob amser i bobl Israel a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda nhw.
Numb WelBeibl 19:11  “‘Bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd corff marw yn aflan am saith diwrnod.
Numb WelBeibl 19:12  Rhaid i'r person hwnnw fynd drwy'r ddefod o buro'i hun â dŵr ar y trydydd diwrnod a'r seithfed diwrnod, ac wedyn bydd yn lân. Os nad ydy e'n gwneud hynny, bydd yn aros yn aflan.
Numb WelBeibl 19:13  Os ydy rhywun yn cyffwrdd corff marw a ddim yn puro'i hun, mae'r person hwnnw yn llygru Tabernacl yr ARGLWYDD. Bydd yn cael ei dorri allan o Israel am fod dŵr y puro ddim wedi cael ei daenellu arno. Bydd yn aros yn aflan.
Numb WelBeibl 19:14  “‘Dyma sydd i ddigwydd pan mae rhywun yn marw mewn pabell: Mae unrhyw un sy'n mynd i mewn i'r babell, neu'r rhai oedd yno pan fuodd y person farw, yn aflan am saith diwrnod.
Numb WelBeibl 19:15  A bydd unrhyw lestr heb gaead arno yn aflan hefyd.
Numb WelBeibl 19:16  “‘Os ydy rhywun allan yn y wlad yn cyffwrdd corff marw – corff rhywun sydd wedi'i ladd neu rywun sydd wedi marw'n naturiol – neu hyd yn oed yn cyffwrdd asgwrn dynol, neu fedd, bydd yn aflan am saith diwrnod.
Numb WelBeibl 19:17  “‘A dyma sut mae puro rhywun sy'n aflan: Rhaid cymryd peth o ludw yr heffer gafodd ei llosgi i symud pechodau, a thywallt dŵr glân croyw drosto mewn llestr.
Numb WelBeibl 19:18  Wedyn mae rhywun sydd ddim yn aflan i drochi brigau isop yn y dŵr, ac yna ei daenellu ar y babell a'r dodrefn i gyd, ac ar y bobl oedd yno ar y pryd. A'r un fath gyda rhywun sydd wedi cyffwrdd asgwrn dynol, neu gorff marw neu fedd.
Numb WelBeibl 19:19  Rhaid gwneud hyn ar y trydydd diwrnod ac ar y seithfed diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod, rhaid i'r rhai oedd yn aflan olchi eu dillad ac ymolchi mewn dŵr. Byddan nhw'n aflan am weddill y dydd.
Numb WelBeibl 19:20  Ond os ydy rhywun yn aflan a ddim yn puro'i hun, rhaid i'r person hwnnw gael ei dorri allan o gymdeithas pobl Israel, am ei fod wedi llygru cysegr yr ARGLWYDD. Gafodd dŵr y puro ddim ei daenellu arno, felly bydd yn dal yn aflan.
Numb WelBeibl 19:21  “‘A dyma fydd y drefn bob amser: Rhaid i'r un sy'n taenellu dŵr y puro olchi ei ddillad. Bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd dŵr y puro yn aflan am weddill y dydd.
Numb WelBeibl 19:22  Bydd beth bynnag mae'r person sy'n aflan yn ei gyffwrdd yn aflan hefyd, a bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd y peth hwnnw yn aflan am weddill y dydd.’”