Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
NUMBERS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 15
Numb WelBeibl 15:2  “Dwed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi fyw ynddi,
Numb WelBeibl 15:3  byddwch yn cyflwyno offrymau i'w llosgi fydd yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. (Gall fod yn offrwm i'w losgi'n llwyr, neu'n offrwm i wneud addewid neu i ofyn am fendith yr ARGLWYDD ar ôl cyflawni'r addewid, neu'n offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol neu'n un o'r Gwyliau penodol.)
Numb WelBeibl 15:4  Rhaid i'r person sy'n cyflwyno'r offrwm gyflwyno offrwm o rawn gydag e. Gyda pob oen sy'n cael ei aberthu a'i losgi'n offrwm, rhaid cyflwyno cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gyda litr o olew olewydd, a hefyd litr o win yn offrwm o ddiod.
Numb WelBeibl 15:5  Rhaid i'r person sy'n cyflwyno'r offrwm gyflwyno offrwm o rawn gydag e. Gyda pob oen sy'n cael ei aberthu a'i losgi'n offrwm, rhaid cyflwyno cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gyda litr o olew olewydd, a hefyd litr o win yn offrwm o ddiod.
Numb WelBeibl 15:6  Gyda pob hwrdd, rhaid i'r offrwm o rawn fod yn ddau gilogram o'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gyda litr a chwarter o olew olewydd,
Numb WelBeibl 15:7  a hefyd litr a chwarter o win yn offrwm o ddiod. Bydd yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Numb WelBeibl 15:8  A gyda pob tarw ifanc sy'n cael ei gyflwyno'n offrwm i'w losgi'n llwyr (neu'n offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD ar ôl cyflawni addewid, neu'n offrwm arall i ofyn am fendith yr ARGLWYDD),
Numb WelBeibl 15:9  rhaid i'r offrwm o rawn fod yn dri cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gyda dau litr o olew olewydd,
Numb WelBeibl 15:10  a hefyd dau litr o win yn offrwm o ddiod gyda'r offrwm sydd i'w losgi. Bydd yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Numb WelBeibl 15:11  Dyna sydd i'w gyflwyno gyda pob tarw ifanc, hwrdd, oen neu fwch gafr.
Numb WelBeibl 15:12  Rhaid gwneud hyn gyda pob anifail sy'n cael ei baratoi.
Numb WelBeibl 15:13  “‘Dyma mae unrhyw un o bobl Israel sy'n cyflwyno offrwm i'w losgi i'r ARGLWYDD i fod i'w wneud.
Numb WelBeibl 15:14  Ac mae'r mewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi – nawr neu yn y dyfodol – i wneud yr un fath wrth gyflwyno offrwm i'w losgi sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Numb WelBeibl 15:15  Mae'r un rheol i bawb – chi sy'n Israeliaid, a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda chi. A fydd y rheol yma byth yn newid.
Numb WelBeibl 15:16  Mae'r rheol a'r drefn yr un fath i bawb – chi sy'n Israeliaid, a'r mewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi.’”
Numb WelBeibl 15:18  “Dwed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi fyw ynddi,
Numb WelBeibl 15:19  ac yn bwyta'r cnydau sy'n tyfu yno, rhaid i chi ddod a chyflwyno peth ohono yn offrwm i'r ARGLWYDD:
Numb WelBeibl 15:20  Torth wedi'i gwneud o'r toes cyntaf yn cael ei chyflwyno fel yr offrwm o'r grawn cyntaf ddaeth o'r llawr dyrnu.
Numb WelBeibl 15:21  Rhaid i chi bob amser gyflwyno'r toes cyntaf yn offrwm i'r ARGLWYDD.’”
Numb WelBeibl 15:22  “Dyma sydd i ddigwydd os ydy'r gymuned gyfan yn gwneud camgymeriad, a ddim yn cadw'r rheolau mae'r ARGLWYDD wedi'u rhoi i Moses –
Numb WelBeibl 15:23  beth bynnag mae'r ARGLWYDD wedi'i ddweud drwy Moses hyd yn hyn, neu yn y dyfodol –
Numb WelBeibl 15:24  unrhyw gamgymeriad dydy'r gymuned ddim yn ymwybodol ei bod wedi'i wneud: Mae'r bobl gyda'i gilydd i baratoi tarw ifanc yn offrwm i'w losgi'n llwyr – un fydd yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Mae i'w gyflwyno gyda'r offrymau o rawn a diod sydd i fynd gydag e. A hefyd bwch gafr yn offrwm puro.
Numb WelBeibl 15:25  Mae'r offeiriad i wneud pethau'n iawn rhwng pobl Israel a Duw. Bydd Duw yn maddau iddyn nhw, am mai camgymeriad oedd, ac am eu bod nhw wedi dod a chyflwyno offrwm i'w losgi ac offrwm puro iddo.
Numb WelBeibl 15:26  Bydd y gymuned gyfan, pobl Israel a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda nhw, yn cael maddeuant. Roedden nhw i gyd yn gyfrifol am y camgymeriad.
Numb WelBeibl 15:27  “A dyma sydd i ddigwydd os ydy unigolyn yn pechu'n ddamweiniol: Mae'r person hwnnw i ddod â gafr blwydd oed yn offrwm puro.
Numb WelBeibl 15:28  Yna mae'r offeiriad i wneud pethau'n iawn rhwng y person wnaeth y camgymeriad a Duw. A bydd yr ARGLWYDD yn maddau'r camgymeriad iddo.
Numb WelBeibl 15:29  Mae'r un rheol i bawb pan maen nhw'n gwneud camgymeriad – i chi sy'n Israeliaid, a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda chi.
Numb WelBeibl 15:30  “Ond pan mae rhywun yn tynnu'n groes yn fwriadol, ac yn enllibio'r ARGLWYDD, rhaid i'r person hwnnw gael ei dorri allan o'r gymdeithas – sdim ots os ydy e'n un o bobl Israel neu'n rhywun o'r tu allan.
Numb WelBeibl 15:31  Mae i gael ei daflu allan o'r gymdeithas am ddirmygu beth ddwedodd yr ARGLWYDD a gwrthod gwneud beth wnaeth e orchymyn. Arno fe'i hun mae'r bai.”
Numb WelBeibl 15:32  Pan oedd pobl Israel yn yr anialwch, roedd dyn wedi cael ei ddal yn casglu coed tân ar y Saboth.
Numb WelBeibl 15:33  Dyma'r rhai wnaeth ei ddal yn mynd â'r dyn o flaen Moses ac Aaron a gweddill y bobl.
Numb WelBeibl 15:34  A dyma nhw'n ei gadw yn y ddalfa nes bydden nhw'n gwybod beth i'w wneud gydag e.
Numb WelBeibl 15:35  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Rhaid rhoi'r gosb eithaf iddo. Mae'r bobl i fynd ag e tu allan i'r gwersyll a'i ladd drwy daflu cerrig ato.”
Numb WelBeibl 15:36  Felly dyma'r bobl yn gwneud hynny, a'i ladd gyda cherrig, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
Numb WelBeibl 15:38  “Dwed wrth bobl Israel eu bod bob amser i wneud taselau ar ymylon eu dillad, a rhwymo pob tasel gydag edau las.
Numb WelBeibl 15:39  Bydd y taselau yn eich atgoffa chi o orchmynion yr ARGLWYDD, a'ch bod i ufuddhau iddyn nhw, yn lle gwneud fel dych chi'ch hunain eisiau, a mynd eich ffordd eich hunain.
Numb WelBeibl 15:40  Byddwch yn cofio gwneud beth dw i'n ddweud, ac yn cysegru'ch hunain i'ch Duw.
Numb WelBeibl 15:41  Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o'r Aifft, i mi fod yn Dduw i chi. Ie, fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.”