NUMBERS
Chapter 15
Numb | WelBeibl | 15:2 | “Dwed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi fyw ynddi, | |
Numb | WelBeibl | 15:3 | byddwch yn cyflwyno offrymau i'w llosgi fydd yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. (Gall fod yn offrwm i'w losgi'n llwyr, neu'n offrwm i wneud addewid neu i ofyn am fendith yr ARGLWYDD ar ôl cyflawni'r addewid, neu'n offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol neu'n un o'r Gwyliau penodol.) | |
Numb | WelBeibl | 15:4 | Rhaid i'r person sy'n cyflwyno'r offrwm gyflwyno offrwm o rawn gydag e. Gyda pob oen sy'n cael ei aberthu a'i losgi'n offrwm, rhaid cyflwyno cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gyda litr o olew olewydd, a hefyd litr o win yn offrwm o ddiod. | |
Numb | WelBeibl | 15:5 | Rhaid i'r person sy'n cyflwyno'r offrwm gyflwyno offrwm o rawn gydag e. Gyda pob oen sy'n cael ei aberthu a'i losgi'n offrwm, rhaid cyflwyno cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gyda litr o olew olewydd, a hefyd litr o win yn offrwm o ddiod. | |
Numb | WelBeibl | 15:6 | Gyda pob hwrdd, rhaid i'r offrwm o rawn fod yn ddau gilogram o'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gyda litr a chwarter o olew olewydd, | |
Numb | WelBeibl | 15:7 | a hefyd litr a chwarter o win yn offrwm o ddiod. Bydd yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. | |
Numb | WelBeibl | 15:8 | A gyda pob tarw ifanc sy'n cael ei gyflwyno'n offrwm i'w losgi'n llwyr (neu'n offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD ar ôl cyflawni addewid, neu'n offrwm arall i ofyn am fendith yr ARGLWYDD), | |
Numb | WelBeibl | 15:9 | rhaid i'r offrwm o rawn fod yn dri cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gyda dau litr o olew olewydd, | |
Numb | WelBeibl | 15:10 | a hefyd dau litr o win yn offrwm o ddiod gyda'r offrwm sydd i'w losgi. Bydd yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. | |
Numb | WelBeibl | 15:13 | “‘Dyma mae unrhyw un o bobl Israel sy'n cyflwyno offrwm i'w losgi i'r ARGLWYDD i fod i'w wneud. | |
Numb | WelBeibl | 15:14 | Ac mae'r mewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi – nawr neu yn y dyfodol – i wneud yr un fath wrth gyflwyno offrwm i'w losgi sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. | |
Numb | WelBeibl | 15:15 | Mae'r un rheol i bawb – chi sy'n Israeliaid, a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda chi. A fydd y rheol yma byth yn newid. | |
Numb | WelBeibl | 15:16 | Mae'r rheol a'r drefn yr un fath i bawb – chi sy'n Israeliaid, a'r mewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi.’” | |
Numb | WelBeibl | 15:18 | “Dwed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi fyw ynddi, | |
Numb | WelBeibl | 15:19 | ac yn bwyta'r cnydau sy'n tyfu yno, rhaid i chi ddod a chyflwyno peth ohono yn offrwm i'r ARGLWYDD: | |
Numb | WelBeibl | 15:20 | Torth wedi'i gwneud o'r toes cyntaf yn cael ei chyflwyno fel yr offrwm o'r grawn cyntaf ddaeth o'r llawr dyrnu. | |
Numb | WelBeibl | 15:22 | “Dyma sydd i ddigwydd os ydy'r gymuned gyfan yn gwneud camgymeriad, a ddim yn cadw'r rheolau mae'r ARGLWYDD wedi'u rhoi i Moses – | |
Numb | WelBeibl | 15:23 | beth bynnag mae'r ARGLWYDD wedi'i ddweud drwy Moses hyd yn hyn, neu yn y dyfodol – | |
Numb | WelBeibl | 15:24 | unrhyw gamgymeriad dydy'r gymuned ddim yn ymwybodol ei bod wedi'i wneud: Mae'r bobl gyda'i gilydd i baratoi tarw ifanc yn offrwm i'w losgi'n llwyr – un fydd yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Mae i'w gyflwyno gyda'r offrymau o rawn a diod sydd i fynd gydag e. A hefyd bwch gafr yn offrwm puro. | |
Numb | WelBeibl | 15:25 | Mae'r offeiriad i wneud pethau'n iawn rhwng pobl Israel a Duw. Bydd Duw yn maddau iddyn nhw, am mai camgymeriad oedd, ac am eu bod nhw wedi dod a chyflwyno offrwm i'w losgi ac offrwm puro iddo. | |
Numb | WelBeibl | 15:26 | Bydd y gymuned gyfan, pobl Israel a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda nhw, yn cael maddeuant. Roedden nhw i gyd yn gyfrifol am y camgymeriad. | |
Numb | WelBeibl | 15:27 | “A dyma sydd i ddigwydd os ydy unigolyn yn pechu'n ddamweiniol: Mae'r person hwnnw i ddod â gafr blwydd oed yn offrwm puro. | |
Numb | WelBeibl | 15:28 | Yna mae'r offeiriad i wneud pethau'n iawn rhwng y person wnaeth y camgymeriad a Duw. A bydd yr ARGLWYDD yn maddau'r camgymeriad iddo. | |
Numb | WelBeibl | 15:29 | Mae'r un rheol i bawb pan maen nhw'n gwneud camgymeriad – i chi sy'n Israeliaid, a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda chi. | |
Numb | WelBeibl | 15:30 | “Ond pan mae rhywun yn tynnu'n groes yn fwriadol, ac yn enllibio'r ARGLWYDD, rhaid i'r person hwnnw gael ei dorri allan o'r gymdeithas – sdim ots os ydy e'n un o bobl Israel neu'n rhywun o'r tu allan. | |
Numb | WelBeibl | 15:31 | Mae i gael ei daflu allan o'r gymdeithas am ddirmygu beth ddwedodd yr ARGLWYDD a gwrthod gwneud beth wnaeth e orchymyn. Arno fe'i hun mae'r bai.” | |
Numb | WelBeibl | 15:32 | Pan oedd pobl Israel yn yr anialwch, roedd dyn wedi cael ei ddal yn casglu coed tân ar y Saboth. | |
Numb | WelBeibl | 15:33 | Dyma'r rhai wnaeth ei ddal yn mynd â'r dyn o flaen Moses ac Aaron a gweddill y bobl. | |
Numb | WelBeibl | 15:34 | A dyma nhw'n ei gadw yn y ddalfa nes bydden nhw'n gwybod beth i'w wneud gydag e. | |
Numb | WelBeibl | 15:35 | A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Rhaid rhoi'r gosb eithaf iddo. Mae'r bobl i fynd ag e tu allan i'r gwersyll a'i ladd drwy daflu cerrig ato.” | |
Numb | WelBeibl | 15:36 | Felly dyma'r bobl yn gwneud hynny, a'i ladd gyda cherrig, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. | |
Numb | WelBeibl | 15:38 | “Dwed wrth bobl Israel eu bod bob amser i wneud taselau ar ymylon eu dillad, a rhwymo pob tasel gydag edau las. | |
Numb | WelBeibl | 15:39 | Bydd y taselau yn eich atgoffa chi o orchmynion yr ARGLWYDD, a'ch bod i ufuddhau iddyn nhw, yn lle gwneud fel dych chi'ch hunain eisiau, a mynd eich ffordd eich hunain. | |