Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
NUMBERS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 17
Numb WelBeibl 17:2  “Dw i eisiau i ti gymryd ffon gan arweinydd pob un o lwythau Israel – un deg dwy ohonyn nhw i gyd – ac ysgrifennu enw'r arweinydd ar ei ffon ei hun.
Numb WelBeibl 17:3  Ysgrifenna enw Aaron ar ffon llwyth Lefi. Bydd un ffon ar gyfer arweinydd pob llwyth.
Numb WelBeibl 17:4  Wedyn rhaid i ti osod y ffyn o flaen Arch yr ymrwymiad yn y babell lle dw i'n cyfarfod gyda ti.
Numb WelBeibl 17:5  Bydd ffon y dyn dw i'n ei ddewis yn blaguro. Dw i'n mynd i roi stop ar yr holl gwyno di-baid yma gan bobl Israel yn dy erbyn di.”
Numb WelBeibl 17:6  Felly dyma Moses yn siarad gyda phobl Israel, a dyma pob un o arweinwyr y llwythau yn rhoi ei ffon iddo – un deg dwy o ffyn i gyd. Ac roedd ffon Aaron yn un ohonyn nhw.
Numb WelBeibl 17:7  A dyma Moses yn gosod y ffyn o flaen yr ARGLWYDD, tu mewn i babell y dystiolaeth.
Numb WelBeibl 17:8  Pan aeth Moses i babell y dystiolaeth y diwrnod wedyn, roedd ffon Aaron (yn cynrychioli llwyth Lefi) wedi blaguro! Roedd blagur a blodau a chnau almon yn tyfu arni!
Numb WelBeibl 17:9  Felly dyma Moses yn dod â'r ffyn allan i bobl Israel edrych arnyn nhw. A dyma pob arweinydd yn cymryd y ffon oedd â'i enw e arni.
Numb WelBeibl 17:10  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Tyrd â ffon Aaron yn ôl i'w gosod o flaen y dystiolaeth. Bydd yn arwydd i rybuddio unrhyw un sy'n gwrthryfela. Bydd hyn yn stopio'r holl gwyno, ac yn arbed unrhyw un arall rhag marw.”
Numb WelBeibl 17:11  Felly dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
Numb WelBeibl 17:12  A dyma bobl Israel yn dweud wrth Moses, “Dŷn ni'n siŵr o farw! Mae hi ar ben arnon ni!
Numb WelBeibl 17:13  Mae unrhyw un sy'n mynd yn agos at Dabernacl yr ARGLWYDD yn siŵr o farw! Oes rhaid i ni i gyd farw?”