NUMBERS
Chapter 26
Numb | WelBeibl | 26:1 | Ar ôl i'r pla orffen, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, ac wrth Eleasar fab Aaron, yr offeiriad: | |
Numb | WelBeibl | 26:2 | “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad arall o bobl Israel – pawb o bob llwyth sydd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â'r fyddin.” | |
Numb | WelBeibl | 26:3 | Ar y pryd, roedd pobl Israel yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth ymyl afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho. A dyma Moses ac Eleasar yn dweud wrthyn nhw, | |
Numb | WelBeibl | 26:4 | “Rhaid cyfrif pawb dros ugain oed.” Dyna oedd yr ARGLWYDD wedi'i orchymyn i Moses. A dyma bobl Israel ddaeth allan o wlad yr Aifft: | |
Numb | WelBeibl | 26:9 | sef tad Nemwel, Dathan ac Abiram. Roedd Dathan ac Abiram gyda Cora yn arwain y bobl wnaeth droi yn erbyn Moses ac Aaron a gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD. | |
Numb | WelBeibl | 26:10 | A dyma'r ddaear yn agor ac yn eu llyncu nhw a Cora. Lladdodd y tân ddau gant pum deg ohonyn nhw. Mae beth ddigwyddodd iddyn nhw yn rhybudd i ni. | |
Numb | WelBeibl | 26:33 | (Doedd gan Seloffchad fab Cheffer ddim meibion, dim ond merched. Ac enwau'r merched oedd Machla, Noa, Hogla, Milca a Tirtsa.) | |
Numb | WelBeibl | 26:37 | Cyfanswm Effraim oedd 32,500. Roedden nhw i gyd yn ddisgynyddion Joseff, drwy Manasse ac Effraim. | |
Numb | WelBeibl | 26:54 | Mae'r llwythau mwyaf i gael etifeddu mwy o dir na'r llwythau lleiaf. Mae faint o dir fydd pob llwyth yn ei gael yn seiliedig ar y ffigyrau yma. | |
Numb | WelBeibl | 26:55 | Rhaid defnyddio coelbren wrth rannu'r tir, ond mae canlyniadau'r cyfrifiad i gael eu defnyddio i benderfynu faint o dir mae pob llwyth yn ei gael. | |
Numb | WelBeibl | 26:56 | Bydd y tir mae'r llwythau bach a mawr yn ei etifeddu yn cael ei bennu drwy daflu coelbren.” | |
Numb | WelBeibl | 26:58 | A disgynyddion eraill Lefi – y Libniaid, Hebroniaid, Machliaid, Mwshiaid a Corahiaid. Cohath oedd tad Amram, | |
Numb | WelBeibl | 26:59 | ac enw gwraig Amram oedd Iochefed, merch Lefi, gafodd ei geni yn yr Aifft. Wedyn plant Amram a Iochefed oedd Aaron, Moses, a Miriam eu chwaer. | |
Numb | WelBeibl | 26:61 | Ond roedd Nadab ac Abihw wedi marw wrth ddefnyddio tân o rywle arall i wneud offrwm i'r ARGLWYDD. | |
Numb | WelBeibl | 26:62 | Roedd 23,000 o Lefiaid – pob dyn a bachgen oedd dros fis oed. Doedden nhw ddim wedi cael eu cyfrif gyda gweddill pobl Israel am fod dim tir i gael ei roi iddyn nhw fel i weddill llwythau Israel. | |
Numb | WelBeibl | 26:63 | Felly dyna ffigyrau'r cyfrifiad wnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad pan oedd pobl Israel yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth ymyl afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho. | |
Numb | WelBeibl | 26:64 | Doedd neb o'r dynion gafodd eu cyfrif y tro yma wedi'u cynnwys yn y cyfrifiad cyntaf wnaeth Moses ac Aaron yn anialwch Sinai. | |