ROMANS
Chapter 12
Roma | WelBeibl | 12:1 | Felly, am fod Duw wedi bod mor drugarog wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, dw i'n apelio ar i chi roi eich hunain yn llwyr i Dduw. Cyflwyno eich hunain iddo yn aberth byw – un sy'n lân ac yn dderbyniol ganddo. Dyna beth ydy addoliad go iawn! | |
Roma | WelBeibl | 12:2 | O hyn ymlaen rhaid i chi stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu. Gadewch i Dduw newid eich bywyd chi'n llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau. Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny'n dda ac yn ei blesio fe, ac mai dyna'r peth iawn i'w wneud. | |
Roma | WelBeibl | 12:3 | Gadewch i mi ddweud hyn wrthoch chi, fel rhywun mae Duw wedi bod mor garedig ato: Peidiwch meddwl eich bod chi'n well nag ydych chi. Byddwch yn onest gyda chi'ch hun wrth ystyried faint o ffydd mae Duw wedi'i roi i chi. | |
Roma | WelBeibl | 12:4 | Mae'r eglwys yr un fath â'r corff dynol – mae gwahanol rannau i'r corff, a dydy pob rhan o'r corff ddim yn gwneud yr un gwaith. | |
Roma | WelBeibl | 12:5 | Yn yr eglwys dŷn ni gyda'n gilydd yn gwneud un corff, sef corff y Meseia. Mae pob un ohonon ni'n rhan o'r corff ac mae arnon ni angen pawb arall. | |
Roma | WelBeibl | 12:6 | Mae Duw wedi rhoi doniau gwahanol i bob un ohonon ni. Os ydy Duw wedi rhoi'r gallu i ti roi neges broffwydol, gwna hynny pan wyt ti'n gwybod fod Duw am i ti wneud. | |
Roma | WelBeibl | 12:7 | Os mai helpu pobl eraill ydy dy ddawn di, gwna job dda ohoni. Os oes gen ti'r ddawn i ddysgu pobl eraill, gwna hynny'n gydwybodol. | |
Roma | WelBeibl | 12:8 | Os wyt ti'n rhywun sy'n annog pobl eraill, bwrw iddi! Os wyt yn rhannu dy eiddo gydag eraill, bydd yn hael. Os oes gen ti'r ddawn i arwain, gwna hynny'n frwd. Os mai dangos caredigrwydd ydy dy ddawn di, gwna hynny'n llawen. | |
Roma | WelBeibl | 12:9 | Rhaid i'ch cariad chi fod yn gariad go iawn – dim rhyw gariad arwynebol. Yn casáu y drwg â chasineb perffaith, ac yn dal gafael yn beth sy'n dda. | |
Roma | WelBeibl | 12:11 | Peidiwch byth â gadael i'ch brwdfrydedd oeri, ond bod ar dân yn gweithio i'r Arglwydd yn nerth yr Ysbryd Glân. | |
Roma | WelBeibl | 12:12 | Byddwch yn llawen wrth feddwl am y cwbl sydd gan Dduw ar eich cyfer chi. Byddwch yn amyneddgar tra dych chi'n dioddef, a daliwch ati i weddïo. | |
Roma | WelBeibl | 12:13 | Rhannwch beth sydd gynnoch chi gyda phobl Dduw sydd mewn angen. Ewch allan o'ch ffordd i roi croeso i ymwelwyr yn eich cartrefi bob amser. | |
Roma | WelBeibl | 12:14 | Peidiwch melltithio'r bobl hynny sy'n eich erlid chi – gofynnwch i Dduw eu bendithio nhw. | |
Roma | WelBeibl | 12:16 | Byddwch yn ffrindiau da i'ch gilydd. Peidiwch meddwl eich bod yn rhy bwysig i fod yn ffrindiau gyda'r bobl hynny sy'n ‛neb‛. Peidiwch rhoi'r argraff eich bod yn gwybod y cwbl. | |
Roma | WelBeibl | 12:17 | Peidiwch byth talu'r pwyth yn ôl. Gadewch i bobl weld eich bod yn gwneud y peth anrhydeddus bob amser. | |
Roma | WelBeibl | 12:19 | Peidiwch mynnu dial ar bobl, ffrindiau; gadewch i Dduw ddelio gyda'r peth. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Fi sy'n dial; gwna i dalu yn ôl’ meddai'r Arglwydd.” | |
Roma | WelBeibl | 12:20 | Dyma ddylet ti ei wneud: “Os ydy dy elyn yn llwgu, rho fwyd iddo; os ydy e'n sychedig, rho rywbeth i'w yfed iddo; wrth wneud hynny byddi'n tywallt marwor tanllyd ar ei ben.” | |