ACTS
Chapter 12
Acts | WelBeibl | 12:1 | Tua'r adeg yna dyma'r Brenin Herod Agripa yn cam-drin rhai o'r bobl oedd yn perthyn i'r eglwys. | |
Acts | WelBeibl | 12:3 | Yna pan welodd fod hyn yn plesio'r arweinwyr Iddewig, dyma fe'n arestio Pedr hefyd. (Roedd hyn yn ystod Gŵyl y Bara Croyw.) | |
Acts | WelBeibl | 12:4 | Cafodd Pedr ei roi yn y carchar. Trefnwyd fod pedwar milwr ar wyliadwriaeth bob sifft. Bwriad Herod oedd dwyn achos cyhoeddus yn erbyn Pedr ar ôl y Pasg. | |
Acts | WelBeibl | 12:6 | Y noson cyn yr achos llys, roedd Pedr yn cysgu. Roedd wedi'i gadwyno i ddau filwr – un bob ochr iddo, a'r lleill yn gwarchod y fynedfa. | |
Acts | WelBeibl | 12:7 | Yn sydyn roedd angel yno, a golau'n disgleirio drwy'r gell. Rhoddodd bwniad i Pedr yn ei ochr i'w ddeffro. “Brysia!” meddai, “Cod ar dy draed!”, a dyma'r cadwyni'n disgyn oddi ar ei freichiau. | |
Acts | WelBeibl | 12:8 | Wedyn dyma'r angel yn dweud wrtho, “Rho dy ddillad amdanat a gwisga dy sandalau.” Ac ar ôl i Pedr wneud hynny, dyma'r angel yn dweud, “Tafla dy glogyn amdanat a dilyn fi.” | |
Acts | WelBeibl | 12:9 | Felly dyma Pedr yn ei ddilyn allan o'r gell – ond heb wybod a oedd y peth yn digwydd go iawn neu ai dim ond breuddwyd oedd y cwbl! | |
Acts | WelBeibl | 12:10 | Dyma nhw'n mynd heibio'r gwarchodwr cyntaf a'r ail, a chyrraedd y giât haearn oedd yn mynd allan i'r ddinas. Agorodd honno ohoni ei hun! Wedi mynd drwyddi a cherdded i lawr y stryd dyma'r angel yn sydyn yn diflannu a gadael Pedr ar ei ben ei hun. | |
Acts | WelBeibl | 12:11 | Dyna pryd daeth ato'i hun. “Mae wedi digwydd go iawn! – mae'r Arglwydd wedi anfon ei angel i'm hachub i o afael Herod, fel bod yr hyn roedd yr Iddewon yn ei obeithio ddim yn digwydd i mi.” | |
Acts | WelBeibl | 12:12 | Pan sylweddolodd hyn, aeth i gartref Mair, mam Ioan Marc. Roedd criw o bobl wedi dod at ei gilydd i weddïo yno. | |
Acts | WelBeibl | 12:14 | Pan wnaeth hi nabod llais Pedr roedd hi mor llawen nes iddi redeg yn ôl i mewn i'r tŷ heb agor y drws! “Mae Pedr wrth y drws!” meddai hi wrth bawb. | |
Acts | WelBeibl | 12:15 | “Ti'n drysu,” medden nhw. Ond roedd Rhoda yn dal i fynnu fod y peth yn wir. “Mae'n rhaid mai ei angel sydd yna,” medden nhw wedyn. | |
Acts | WelBeibl | 12:16 | Roedd Pedr yn dal ati i guro'r drws, a chawson nhw'r sioc ryfedda pan agoron nhw'r drws a'i weld. | |
Acts | WelBeibl | 12:17 | Dyma Pedr yn rhoi arwydd iddyn nhw dawelu, ac esboniodd iddyn nhw sut roedd yr Arglwydd wedi'i ryddhau o'r carchar. “Ewch i ddweud beth sydd wedi digwydd wrth Iago a'r credinwyr eraill,” meddai, ac wedyn aeth i ffwrdd i rywle arall. | |
Acts | WelBeibl | 12:18 | Y bore wedyn roedd cynnwrf anhygoel ymhlith y milwyr ynglŷn â beth oedd wedi digwydd i Pedr. | |
Acts | WelBeibl | 12:19 | Dyma Herod yn gorchymyn chwilio amdano ym mhobman ond wnaethon nhw ddim llwyddo i ddod o hyd iddo. Ar ôl croesholi y milwyr oedd wedi bod yn gwarchod Pedr, dyma fe'n gorchymyn iddyn nhw gael eu dienyddio. Ar ôl hyn gadawodd Herod Jwdea, a mynd i aros yn Cesarea am ychydig. | |
Acts | WelBeibl | 12:20 | Roedd gwrthdaro ffyrnig wedi bod rhyngddo ag awdurdodau Tyrus a Sidon. Ond dyma nhw'n dod at ei gilydd i ofyn am gael cyfarfod gydag e. Roedd rhaid iddyn nhw sicrhau heddwch, am eu bod nhw'n dibynnu ar wlad Herod i werthu bwyd iddyn nhw. Ac roedden nhw wedi perswadio Blastus i'w helpu nhw. (Blastus oedd swyddog personol y brenin, ac roedd y brenin yn ymddiried yn llwyr ynddo.) | |
Acts | WelBeibl | 12:21 | Ar y diwrnod mawr, eisteddodd Herod ar ei orsedd yn gwisgo'i holl regalia, ac annerch y bobl. | |
Acts | WelBeibl | 12:23 | A'r eiliad honno dyma angel Duw yn ei daro'n wael, am iddo adael i'r bobl ei addoli fel petai e'n dduw. Cafodd ei fwyta gan lyngyr a buodd farw. | |