ACTS
Chapter 28
Acts | WelBeibl | 28:2 | Roedd pobl yr ynys yn hynod garedig. Dyma nhw'n rhoi croeso i ni ac yn gwneud tân, am ei bod hi wedi dechrau glawio'n drwm, ac roedd hi'n oer. | |
Acts | WelBeibl | 28:3 | Roedd Paul wedi casglu llwyth o frigau mân, ac wrth iddo eu gosod nhw ar y tân, dyma neidr wenwynig oedd yn dianc o'r gwres yn glynu wrth ei law. | |
Acts | WelBeibl | 28:4 | Pan welodd pobl yr ynys y neidr yn hongian oddi ar ei law medden nhw, “Mae'n rhaid fod y dyn yna'n llofrudd! Dydy'r dduwies Cyfiawnder ddim am adael iddo fyw.” | |
Acts | WelBeibl | 28:5 | Ond dyma Paul yn ysgwyd y neidr i ffwrdd yn ôl i'r tân. Chafodd e ddim niwed o gwbl. | |
Acts | WelBeibl | 28:6 | Roedd y bobl yn disgwyl iddo chwyddo neu ddisgyn yn farw'n sydyn. Ond aeth amser hir heibio a dim byd yn digwydd iddo, felly dyma nhw'n dod i'r casgliad fod Paul yn dduw. | |
Acts | WelBeibl | 28:7 | Roedd ystâd gyfagos yn perthyn i brif swyddog Rhufain ar yr ynys – dyn o'r enw Pobliws. Rhoddodd groeso mawr i ni, a dyma ni'n aros yn ei gartref am dridiau. | |
Acts | WelBeibl | 28:8 | Roedd tad Pobliws yn glaf yn ei wely, yn dioddef pyliau o wres uchel a dysentri. Aeth Paul i'w weld, ac ar ôl gweddïo rhoddodd ei ddwylo arno a'i iacháu. | |
Acts | WelBeibl | 28:9 | Ar ôl i hyn ddigwydd dyma lawer o bobl eraill oedd yn glaf ar yr ynys yn dod ato ac yn cael eu gwella. | |
Acts | WelBeibl | 28:10 | Cawson ni bob math o anrhegion ganddyn nhw, a phan ddaeth hi'n bryd i ni adael yr ynys dyma nhw'n rhoi popeth oedd ei angen i ni. | |
Acts | WelBeibl | 28:11 | Aeth tri mis heibio cyn i ni hwylio o'r ynys. Aethon ar long oedd wedi gaeafu yno – llong o Alecsandria gyda delwau o'r ‛Efeilliaid dwyfol‛ (Castor a Polwcs) ar ei thu blaen. | |
Acts | WelBeibl | 28:13 | Wedyn dyma ni'n croesi i Rhegium. Ar ôl bod yno am ddiwrnod cododd gwynt o'r de, felly'r diwrnod wedyn llwyddon ni i gyrraedd Potioli. | |
Acts | WelBeibl | 28:14 | Daethon ni o hyd i grŵp o gredinwyr yno, a chael gwahoddiad i aros gyda nhw am wythnos. Yna, o'r diwedd, dyma ni'n cyrraedd Rhufain. | |
Acts | WelBeibl | 28:15 | Roedd y Cristnogion yno wedi clywed ein bod ni'n dod, ac roedd rhai wedi teithio i lawr cyn belled â Marchnad Apius i'n cyfarfod ni, ac eraill at y Tair Tafarn. Roedd gweld y bobl yma'n galondid mawr i Paul, a diolchodd i Dduw am fod mor ffyddlon. | |
Acts | WelBeibl | 28:16 | Yn Rhufain cafodd Paul ganiatâd i fyw yn ei lety ei hun, ond fod milwr yno i'w warchod. | |
Acts | WelBeibl | 28:17 | Dri diwrnod ar ôl cyrraedd Rhufain dyma Paul yn galw'r arweinwyr Iddewig yno at ei gilydd. “Frodyr,” meddai wrthyn nhw: “er na wnes i ddim byd yn erbyn ein pobl, na dim sy'n groes i arferion ein hynafiaid, ces fy arestio yn Jerwsalem ac yna fy nhrosglwyddo i ddwylo'r Rhufeiniaid. | |
Acts | WelBeibl | 28:18 | Dyma'r llys yn fy nghael i'n ddieuog o unrhyw drosedd oedd yn haeddu marwolaeth, ac roedden nhw am fy rhyddhau i. | |
Acts | WelBeibl | 28:19 | Ond dyma'r arweinwyr Iddewig yn codi gwrthwynebiad a ches fy ngorfodi i apelio i Gesar – nid fod gen i unrhyw gyhuddiad i'w ddwyn yn erbyn fy mhobl. | |
Acts | WelBeibl | 28:20 | Gofynnais am gael eich gweld chi er mwyn esbonio hyn i gyd i chi. Y rheswm pam mae'r gadwyn yma arna i ydy am fy mod i yn credu yn y Meseia, Gobaith Israel!” | |
Acts | WelBeibl | 28:21 | Dyma nhw'n ei ateb, “Dŷn ni ddim wedi derbyn unrhyw lythyrau o Jwdea amdanat ti, a does neb o'n pobl ni wedi dod yma i sôn am y peth na dweud dim byd drwg amdanat ti. | |
Acts | WelBeibl | 28:22 | Ond dŷn ni eisiau clywed beth rwyt yn ei gredu. Dŷn ni'n gwybod fod pobl ym mhobman yn siarad yn erbyn y sect yma.” | |
Acts | WelBeibl | 28:23 | Felly dyma nhw'n trefnu diwrnod i gyfarfod â Paul. Daeth llawer iawn mwy ohonyn nhw yno y diwrnod hwnnw. Buodd Paul wrthi drwy'r dydd, o fore tan nos, yn esbonio beth oedd yn ei gredu. Roedd yn eu dysgu nhw am deyrnasiad Duw ac yn defnyddio Cyfraith Moses ac ysgrifau'r Proffwydi i geisio'u cael nhw i weld mai Iesu oedd y Meseia. | |
Acts | WelBeibl | 28:25 | Buon nhw'n dadlau gyda'i gilydd, a dyma nhw'n dechrau gadael ar ôl i Paul ddweud hyn i gloi: “Roedd yr Ysbryd Glân yn dweud y gwir wrth eich hynafiaid chi wrth siarad drwy'r proffwyd Eseia: | |
Acts | WelBeibl | 28:26 | ‘Dos at y bobl yma a dweud, “Gwrandwch yn astud, ond fyddwch chi ddim yn deall; Edrychwch yn ofalus, ond fyddwch chi ddim yn dirnad.” | |
Acts | WelBeibl | 28:27 | Maen nhw'n rhy ystyfnig i ddysgu unrhyw beth – maen nhw'n gwrthod gwrando, ac wedi cau eu llygaid. Fel arall, bydden nhw'n gweld â'u llygaid, yn clywed â'u clustiau, yn deall go iawn, ac yn troi, a byddwn i'n eu hiacháu nhw.’ | |
Acts | WelBeibl | 28:28 | Felly deallwch hyn – mae'r newyddion da am Dduw yn achub ar gael i bobl y cenhedloedd eraill hefyd, a byddan nhw'n gwrando!” | |
Acts | WelBeibl | 28:30 | Am ddwy flynedd gyfan, arhosodd Paul yno yn y tŷ oedd yn ei rentu. Roedd yn rhoi croeso i bawb oedd yn dod i'w weld. | |