ACTS
Chapter 7
Acts | WelBeibl | 7:2 | A dyma oedd ateb Steffan: “Frodyr, ac arweinwyr parchus, gwrandwch arna i. Roedd y Duw gogoneddus wedi ymddangos i Abraham pan oedd e'n dal i fyw yn Mesopotamia – cyn iddo symud i Haran hyd yn oed. | |
Acts | WelBeibl | 7:3 | ‘Dw i am i ti adael dy wlad a'th bobl,’ meddai Duw wrtho, ‘a mynd i ble bydda i'n ei ddangos i ti.’ | |
Acts | WelBeibl | 7:4 | “Felly gadawodd wlad y Caldeaid, a setlo i lawr yn Haran. Wedyn, ar ôl i'w dad farw, dyma Duw yn ei arwain ymlaen i'r wlad yma dych chi'n byw ynddi nawr. | |
Acts | WelBeibl | 7:5 | Chafodd Abraham ei hun ddim tir yma – dim o gwbl! Ond roedd Duw wedi addo iddo y byddai'r wlad i gyd yn perthyn iddo fe a'i ddisgynyddion ryw ddydd – a hynny pan oedd gan Abraham ddim plentyn hyd yn oed! | |
Acts | WelBeibl | 7:6 | Dyma ddwedodd Duw: ‘Bydd rhaid i dy ddisgynyddion di fyw fel ffoaduriaid mewn gwlad arall. Byddan nhw'n gaethweision yno, ac yn cael eu cam-drin am bedwar can mlynedd. | |
Acts | WelBeibl | 7:7 | Ond bydda i'n cosbi'r genedl fydd wedi'u cam-drin nhw’ meddai Duw, ‘a chân nhw adael y wlad honno a dod i'm haddoli i yn y fan yma.’ | |
Acts | WelBeibl | 7:8 | Dyna pryd wnaeth Duw ddweud wrth Abraham mai defod enwaediad oedd i fod yn arwydd o'r ymrwymiad yma. Felly pan gafodd Abraham fab, sef Isaac, dyma fe'n enwaedu y plentyn yn wyth diwrnod oed. Yna Isaac oedd tad Jacob, a Jacob oedd tad y deuddeg patriarch roddodd eu henwau i ddeuddeg llwyth Israel. | |
Acts | WelBeibl | 7:9 | “Roedd y dynion hynny (meibion Jacob) yn genfigennus o'u brawd Joseff, dyma nhw'n ei werthu fel caethwas i'r Aifft. Ond roedd Duw gyda Joseff | |
Acts | WelBeibl | 7:10 | ac yn ei achub o bob creisis. Roedd Duw wedi gwneud Joseff yn ddyn doeth iawn. Daeth i ennill parch y Pharo, brenin yr Aifft, a dyma'r Pharo yn ei benodi yn llywodraethwr ar y wlad gyfan, a'i wneud yn gyfrifol am redeg y palas brenhinol. | |
Acts | WelBeibl | 7:11 | “Ond bryd hynny dyma newyn yn taro'r Aifft i gyd a gwlad Canaan. Roedd ein pobl ni'n dioddef yn ofnadwy am fod dim bwyd yn unman. | |
Acts | WelBeibl | 7:12 | Clywodd Jacob fod gwenith ar werth yn yr Aifft, ac anfonodd ei feibion (sef ein cyndeidiau ni) yno i brynu bwyd. | |
Acts | WelBeibl | 7:13 | Pan aethon nhw yno yr ail waith, dwedodd Joseff pwy oedd wrth ei frodyr. Dyna pryd ddaeth y Pharo i wybod am deulu Joseff. | |
Acts | WelBeibl | 7:15 | i fynd i lawr i'r Aifft. Yn yr Aifft y buodd Jacob farw – a'i feibion, ein cyndeidiau ni. | |
Acts | WelBeibl | 7:16 | Ond cafodd eu cyrff eu cario yn ôl i Sechem a'u claddu yn y tir oedd Abraham wedi'i brynu gan feibion Hamor. | |
Acts | WelBeibl | 7:17 | “Wrth i'r amser agosáu i Dduw wneud yr hyn oedd wedi'i addo i Abraham, roedd nifer ein pobl ni yn yr Aifft wedi tyfu'n fawr. | |
Acts | WelBeibl | 7:18 | Erbyn hynny, roedd brenin newydd yn yr Aifft – un oedd yn gwybod dim byd am Joseff. | |
Acts | WelBeibl | 7:19 | Buodd hwnnw'n gas iawn i'n pobl ni, a'u gorfodi nhw i adael i'w babis newydd eu geni farw. | |
Acts | WelBeibl | 7:20 | “Dyna pryd cafodd Moses ei eni. Doedd hwn ddim yn blentyn cyffredin! Roedd ei rieni wedi'i fagu o'r golwg yn eu cartref am dri mis. | |
Acts | WelBeibl | 7:21 | Ond pan gafodd ei adael allan, dyma ferch y Pharo yn dod o hyd iddo, ac yn ei gymryd a'i fagu fel petai'n blentyn iddi hi ei hun. | |
Acts | WelBeibl | 7:22 | Felly cafodd Moses yr addysg orau yn yr Aifft; roedd yn arweinydd galluog iawn, ac yn llwyddo beth bynnag roedd e'n wneud. | |
Acts | WelBeibl | 7:23 | “Pan oedd yn bedwar deg mlwydd oed, penderfynodd fynd i ymweld â'i bobl ei hun, sef pobl Israel. | |
Acts | WelBeibl | 7:24 | Dyna pryd y gwelodd un ohonyn nhw yn cael ei gam-drin gan ryw Eifftiwr. Ymyrrodd Moses i'w amddiffyn a lladd yr Eifftiwr. | |
Acts | WelBeibl | 7:25 | Roedd yn rhyw obeithio y byddai ei bobl yn dod i weld fod Duw wedi'i anfon i'w hachub nhw, ond wnaethon nhw ddim. | |
Acts | WelBeibl | 7:26 | Y diwrnod wedyn gwelodd ddau o bobl Israel yn ymladd â'i gilydd. Ymyrrodd eto, a cheisio eu cael i gymodi. ‘Dych chi'n frodyr i'ch gilydd ffrindiau! Pam dych chi'n gwneud hyn?’ | |
Acts | WelBeibl | 7:27 | “Ond dyma'r dyn oedd ar fai yn gwthio Moses o'r ffordd ac yn dweud wrtho, ‘Pwy sydd wedi rhoi'r hawl i ti ein rheoli ni a'n barnu ni? | |
Acts | WelBeibl | 7:29 | Clywed hynny wnaeth i Moses ddianc o'r wlad. Aeth i Midian. Er ei fod yn ddieithryn yno, setlodd i lawr a chafodd dau fab eu geni iddo. | |
Acts | WelBeibl | 7:30 | “Bedwar deg o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn yr anialwch wrth ymyl Mynydd Sinai, dyma angel yn ymddangos i Moses yng nghanol fflamau perth oedd ar dân. | |
Acts | WelBeibl | 7:31 | Doedd ganddo ddim syniad beth oedd yn ei weld. Wrth gamu ymlaen i weld yn agosach, clywodd lais yr Arglwydd yn dweud, | |
Acts | WelBeibl | 7:32 | ‘Duw dy gyndeidiau di ydw i, Duw Abraham, Isaac a Jacob.’ Erbyn hyn roedd Moses yn crynu drwyddo gan ofn, a ddim yn meiddio edrych ar yr hyn oedd o'i flaen. | |
Acts | WelBeibl | 7:33 | Ond dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho, ‘Tynna dy sandalau; rwyt ti'n sefyll ar dir cysegredig. | |
Acts | WelBeibl | 7:34 | Dw i wedi gweld y ffordd mae fy mhobl i'n cael eu cam-drin yn yr Aifft. Dw i wedi'u clywed nhw'n griddfan a dw i'n mynd i'w rhyddhau nhw. Tyrd, felly; dw i'n mynd i dy anfon di yn ôl i'r Aifft.’ | |
Acts | WelBeibl | 7:35 | “Moses oedd yr union ddyn oedden nhw wedi'i wrthod pan wnaethon nhw ddweud, ‘Pwy sydd wedi rhoi'r hawl i ti ein rheoli ni a'n barnu ni?’ Drwy gyfrwng yr angel a welodd yn y berth cafodd ei anfon gan Dduw ei hun i'w harwain nhw a'u hachub nhw! | |
Acts | WelBeibl | 7:36 | Drwy wneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos fod Duw gydag e, arweiniodd y bobl allan o'r Aifft, drwy'r Môr Coch ac yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd. | |
Acts | WelBeibl | 7:37 | “Moses ddwedodd wrth bobl Israel, ‘Bydd Duw yn codi proffwyd arall fel fi o'ch plith chi.’ | |
Acts | WelBeibl | 7:38 | Roedd yn arwain y bobl pan oedden nhw gyda'i gilydd yn yr anialwch. Gyda Moses y siaradodd yr angel ar Fynydd Sinai. Derbyniodd neges fywiol i'w phasio ymlaen i ni. | |
Acts | WelBeibl | 7:39 | Ac eto gwrthododd ein hynafiaid wrando arno! Roedden nhw eisiau mynd yn ôl i'r Aifft! | |
Acts | WelBeibl | 7:40 | Dyma nhw'n dweud wrth Aaron, ‘Gwna dduwiau i ni i'n harwain ni. Pwy ŵyr beth sydd wedi digwydd i'r Moses hwnnw wnaeth ein harwain ni allan o'r Aifft.’ | |
Acts | WelBeibl | 7:41 | Felly dyma nhw'n gwneud eilun ar ffurf llo, aberthu iddo a chynnal parti i anrhydeddu rhywbeth roedden nhw wedi'i lunio â'i dwylo eu hunain! | |
Acts | WelBeibl | 7:42 | Trodd Duw ei gefn arnyn nhw a gadael iddyn nhw fwrw ymlaen i addoli'r sêr a'r planedau yn yr awyr. Dyma'n union beth sydd wedi'i ysgrifennu yn llyfr y proffwydi: ‘Wnaethoch chi gyflwyno aberthau ac offrymau i mi yn ystod y pedwar deg mlynedd yn yr anialwch, O bobl Israel? | |
Acts | WelBeibl | 7:43 | Na! Mae'n well gynnoch chi anrhydeddu allor Molech a Reffan, duw'r sêr, a'r eilunod wnaethoch chi i'w haddoli nhw. Felly dw i'n mynd i'ch anfon chi'n gaethion ymhell i ffwrdd i Babilon.’ | |
Acts | WelBeibl | 7:44 | “Roedd ‛pabell y dystiolaeth‛ gyda'n hynafiaid ni yn yr anialwch. Roedd wedi cael ei gwneud yn union yn ôl y patrwm oedd Duw wedi'i ddangos i Moses. | |
Acts | WelBeibl | 7:45 | Pan oedd Josua yn arwain y bobl i gymryd y tir oddi ar y cenhedloedd gafodd eu bwrw allan o'r wlad yma gan Dduw, dyma nhw'n mynd â'r babell gyda nhw. Ac roedd hi'n dal gyda nhw hyd cyfnod y Brenin Dafydd. | |
Acts | WelBeibl | 7:46 | “Roedd Dafydd wedi profi ffafr Duw, a gofynnodd am y fraint o gael codi adeilad parhaol i Dduw Jacob. | |
Acts | WelBeibl | 7:48 | Ond wedyn, dydy'r Duw Goruchaf ddim yn byw mewn adeiladau wedi'u codi gan ddynion! Yn union fel mae'r proffwyd yn dweud: | |
Acts | WelBeibl | 7:49 | ‘Y nefoedd ydy fy ngorsedd i, a'r ddaear yn stôl i mi orffwys fy nhraed arni. Allech chi adeiladu teml fel yna i mi? meddai'r Arglwydd. Ble dych chi'n mynd i'w roi i mi i orffwys? | |
Acts | WelBeibl | 7:51 | “Dych chi mor benstiff! Dych chi fel y paganiaid – yn ystyfnig a byddar! Dych chi'n union yr un fath â'ch hynafiaid – byth yn gwrando ar yr Ysbryd Glân! | |
Acts | WelBeibl | 7:52 | Fuodd yna unrhyw broffwyd gafodd mo'i erlid gan eich cyndeidiau? Nhw lofruddiodd hyd yn oed y rhai broffwydodd fod yr Un Cyfiawn yn dod – sef y Meseia. A dych chi nawr wedi'i fradychu a'i ladd e! | |
Acts | WelBeibl | 7:53 | Dych chi wedi gwrthod ufuddhau i Gyfraith Duw, a chithau wedi'i derbyn hi gan angylion!” | |
Acts | WelBeibl | 7:54 | Roedd yr hyn ddwedodd Steffan wedi gwneud yr arweinwyr Iddewig yn wyllt gandryll. Dyma nhw'n troi'n fygythiol, | |
Acts | WelBeibl | 7:55 | ond roedd Steffan yn llawn o'r Ysbryd Glân, ac wrth edrych i fyny gwelodd ogoniant Duw, a Iesu yn sefyll ar ei ochr dde. | |
Acts | WelBeibl | 7:56 | “Edrychwch!” meddai, “dw i'n gweld y nefoedd ar agor! Mae Mab y Dyn wedi'i anrhydeddu – mae'n sefyll ar ochr dde Duw.” | |
Acts | WelBeibl | 7:57 | Dyma nhw'n gwrthod gwrando ar ddim mwy, a chan weiddi nerth eu pennau dyma nhw'n rhuthro ymlaen i ymosod arno. | |
Acts | WelBeibl | 7:58 | Ar ôl ei lusgo allan o'r ddinas dyma nhw'n dechrau taflu cerrig ato i'w labyddio i farwolaeth. Roedd y rhai oedd wedi tystio yn ei erbyn wedi tynnu eu mentyll, a'u rhoi yng ngofal dyn ifanc o'r enw Saul. | |
Acts | WelBeibl | 7:59 | Wrth iddyn nhw daflu cerrig ato i'w ladd, roedd Steffan yn gweddïo, “Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd i.” | |