ACTS
Chapter 23
Acts | WelBeibl | 23:1 | Dyma Paul yn edrych ar aelodau'r Sanhedrin ac yn dweud, “Frodyr, dw i wedi gwasanaethu Duw gyda chydwybod glir, a dw i'n dal i wneud hynny heddiw.” | |
Acts | WelBeibl | 23:2 | Ar unwaith, dyma Ananias yr archoffeiriad yn gorchymyn i'r rhai oedd yn sefyll wrth ymyl Paul ei daro ar ei geg. | |
Acts | WelBeibl | 23:3 | Dyma Paul yn ymateb drwy ddweud, “Bydd Duw yn dy daro di, y rhagrithiwr! Sut alli di eistedd yna yn fy marnu i ar sail Cyfraith Moses, tra'n torri'r un Gyfraith drwy orchymyn fy nharo i!” | |
Acts | WelBeibl | 23:5 | “Frodyr,” meddai Paul, “doeddwn i ddim yn sylweddoli mai'r archoffeiriad oedd e. Mae'r ysgrifau'n dweud: ‘Paid dweud dim byd drwg am arweinydd dy bobl.’” | |
Acts | WelBeibl | 23:6 | Roedd Paul yn gwybod yn iawn fod rhai ohonyn nhw'n Sadwceaid ac eraill yn Phariseaid, felly galwodd allan yng nghanol y Sanhedrin, “Frodyr, Pharisead ydw i, a dyna oedd fy nghyndadau. Dw i yma ar brawf am fy mod i'n credu fod y meirw'n mynd i ddod yn ôl yn fyw.” | |
Acts | WelBeibl | 23:8 | (Dydy Sadwceaid ddim yn credu fod atgyfodiad, nac angylion nac ysbrydion, ond mae'r Phariseaid yn credu ynddyn nhw i gyd.) | |
Acts | WelBeibl | 23:9 | Roedd yna dwrw ofnadwy, gyda rhai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith oedd yn Phariseaid ar eu traed yn dadlau'n ffyrnig. “Dydy'r dyn yma ddim wedi gwneud unrhyw beth o'i le! Falle fod ysbryd neu angel wedi siarad â fe!” | |
Acts | WelBeibl | 23:10 | Aeth pethau mor ddrwg nes bod y capten yn ofni y byddai Paul yn cael ei anafu yn eu canol nhw! Felly gorchmynnodd i'w filwyr fynd i lawr i'w achub o'u canol a mynd ag e yn ôl i'r barics. | |
Acts | WelBeibl | 23:11 | Y noson honno daeth yr Arglwydd at Paul a dweud wrtho, “Bydd yn ddewr! Mae'n rhaid i ti ddweud amdana i yn Rhufain, yn union fel rwyt ti wedi gwneud yma yn Jerwsalem.” | |
Acts | WelBeibl | 23:12 | Y bore wedyn dyma grŵp o Iddewon yn mynd ar lw i beidio bwyta nac yfed nes roedden nhw wedi llwyddo i ladd Paul. | |
Acts | WelBeibl | 23:14 | A dyma nhw'n mynd at yr archoffeiriad a'r arweinwyr Iddewig a dweud wrthyn nhw, “Dŷn ni wedi mynd ar lw i beidio bwyta dim byd nes byddwn ni wedi lladd Paul. | |
Acts | WelBeibl | 23:15 | Ond mae arnon ni angen eich help chi. Gofynnwch i'r capten ddod ag e o flaen y Sanhedrin eto, gan esgus eich bod chi eisiau edrych yn fwy manwl ar ei achos. Gwnawn ni ymosod arno a'i ladd ar y ffordd yma.” | |
Acts | WelBeibl | 23:16 | Ond clywodd nai i Paul (mab ei chwaer) am y cynllwyn, ac aeth i'r barics i ddweud wrth Paul. | |
Acts | WelBeibl | 23:17 | Dyma Paul yn galw un o'r swyddogion milwrol a dweud wrtho, “Dos â'r bachgen ifanc yma at y capten; mae ganddo rywbeth pwysig i'w ddweud wrtho.” | |
Acts | WelBeibl | 23:18 | Gwnaeth hynny, ac esbonio i'r capten, “Paul y carcharor ofynnodd i mi ddod â'r bachgen yma atoch chi am fod ganddo rywbeth i'w ddweud wrthoch chi.” | |
Acts | WelBeibl | 23:19 | Dyma'r capten yn gafael yn llaw'r bachgen, a mynd o'r neilltu a gofyn iddo, “Beth rwyt ti eisiau ei ddweud wrtho i?” | |
Acts | WelBeibl | 23:20 | Meddai'r bachgen: “Mae'r Iddewon yn mynd i ofyn i chi fynd â Paul i sefyll o flaen y Sanhedrin eto fory, gan esgus eu bod eisiau ystyried ei achos yn fwy manwl. | |
Acts | WelBeibl | 23:21 | Ond rhaid i chi beidio. Mae yna dros bedwar deg o ddynion yn cuddio ar y ffordd, yn barod i ymosod arno. Maen nhw wedi cymryd llw i beidio bwyta nac yfed nes byddan nhw wedi lladd Paul. Maen nhw'n barod, yn disgwyl i chi gytuno i'r cais.” | |
Acts | WelBeibl | 23:22 | “Paid sôn wrth neb dy fod ti wedi dweud wrtho i am hyn,” meddai'r capten wrth iddo anfon y bachgen i ffwrdd. | |
Acts | WelBeibl | 23:23 | Wedyn dyma'r capten yn galw dau o'i swyddogion, a gorchymyn iddyn nhw, “Paratowch fintai o ddau gant o filwyr erbyn naw o'r gloch heno i fynd i Cesarea. Hefyd saith deg o farchogion a dau gant o bicellwyr. | |
Acts | WelBeibl | 23:26 | Oddi wrth Clawdiws Lysias, at eich Anrhydedd, y Llywodraethwr Ffelics: Cyfarchion! | |
Acts | WelBeibl | 23:27 | Roedd y dyn yma wedi'i ddal gan yr Iddewon, ac roedden nhw ar fin ei ladd. Ond ar ôl deall ei fod yn ddinesydd Rhufeinig dyma fi'n mynd â'm milwyr i'w achub. | |
Acts | WelBeibl | 23:28 | Gan fy mod eisiau deall beth oedd y cyhuddiad yn ei erbyn, dyma fi'n mynd ag e i sefyll o flaen y Sanhedrin Iddewig. | |
Acts | WelBeibl | 23:29 | Daeth yn amlwg fod gan y cwbl rywbeth i'w wneud â'r ffordd iawn o ddehongli eu Cyfraith nhw – doedd e'n sicr ddim yn haeddu ei ddienyddio, na hyd yn oed ei garcharu! | |
Acts | WelBeibl | 23:30 | Ond wedyn ces wybodaeth fod cynllwyn ar y gweill i'w ladd, felly dyma fi'n ei anfon atoch chi ar unwaith. Dw i wedi dweud wrth y rhai sy'n ei gyhuddo am fynd â'u hachos atoch chi. | |
Acts | WelBeibl | 23:31 | Felly yn ystod y nos dyma'r milwyr yn mynd â Paul o Jerwsalem, ac yn cyrraedd cyn belled ag Antipatris, oedd tua hanner ffordd i Cesarea. | |
Acts | WelBeibl | 23:32 | Y diwrnod wedyn dyma'r marchogion yn mynd yn eu blaenau gydag e, a gweddill y milwyr yn mynd yn ôl i'r barics yn Jerwsalem. | |
Acts | WelBeibl | 23:33 | Pan gyrhaeddodd y marchogion Cesarea, dyma nhw'n mynd â'r llythyr at y llywodraethwr ac yn trosglwyddo Paul i'w ofal. | |
Acts | WelBeibl | 23:34 | Ar ôl darllen y llythyr dyma'r llywodraethwr yn gofyn o ba dalaith roedd Paul yn dod. Ar ôl deall ei fod yn dod o Cilicia, | |