ACTS
Chapter 3
Acts | WelBeibl | 3:1 | Un diwrnod, am dri o'r gloch y p'nawn, roedd Pedr ac Ioan ar eu ffordd i'r deml i'r cyfarfod gweddi. | |
Acts | WelBeibl | 3:2 | Wrth y fynedfa sy'n cael ei galw ‛Y Fynedfa Hardd‛ roedd dyn oedd ddim wedi gallu cerdded erioed. Roedd yn cael ei gario yno bob dydd, i gardota gan y bobl oedd yn mynd a dod i'r deml. | |
Acts | WelBeibl | 3:6 | “Does gen i ddim arian i'w roi i ti,” meddai Pedr, “ond cei di beth sydd gen i i'w roi. Dw i'n dweud hyn gydag awdurdod Iesu y Meseia o Nasareth – cod ar dy draed a cherdda.” | |
Acts | WelBeibl | 3:7 | Yna gafaelodd yn llaw dde y dyn a'i helpu i godi ar ei draed. Cryfhaodd traed a choesau'r dyn yr eiliad honno, | |
Acts | WelBeibl | 3:8 | a dyma fe'n neidio ar ei draed a dechrau cerdded! Aeth i mewn i'r deml gyda nhw, yn neidio ac yn moli Duw. | |
Acts | WelBeibl | 3:10 | ac yn sylweddoli mai hwn oedd y dyn oedd yn arfer eistedd i gardota wrth ‛Fynedfa Hardd‛ y deml. Roedden nhw wedi'u syfrdanu'n llwyr o achos beth oedd wedi digwydd iddo. | |
Acts | WelBeibl | 3:11 | Dyna lle roedd y cardotyn a'i freichiau am Pedr ac Ioan, a dyma'r bobl yn tyrru i mewn i Gyntedd Colofnog Solomon lle roedden nhw. | |
Acts | WelBeibl | 3:12 | Pan welodd Pedr y bobl o'u cwmpas, dwedodd wrthyn nhw: “Pam dych chi'n rhyfeddu at hyn, bobl Israel? Pam syllu arnon ni fel petai gynnon ni'r gallu ynon ni'n hunain i wneud i'r dyn yma gerdded, neu fel tasen ni'n rhyw bobl arbennig o dduwiol? | |
Acts | WelBeibl | 3:13 | Duw sydd wedi gwneud y peth – Duw Abraham, Isaac a Jacob; Duw ein cyndeidiau ni. Gwnaeth hyn i anrhydeddu ei was Iesu. Yr Iesu wnaethoch chi ei drosglwyddo i'r awdurdodau Rhufeinig i gael ei ladd. Yr un wnaethoch chi ei wrthod pan oedd Peilat yn fodlon ei ryddhau. | |
Acts | WelBeibl | 3:15 | Ie, chi laddodd awdur bywyd, ond dyma Duw yn dod ag e'n ôl yn fyw! Dŷn ni'n dystion i'r ffaith! | |
Acts | WelBeibl | 3:16 | Iesu roddodd y nerth i'r dyn yma o'ch blaen chi gael ei iacháu. Enw Iesu, a'r ffaith ein bod ni'n credu ynddo sydd wedi'i wneud yn iach o flaen eich llygaid chi. | |
Acts | WelBeibl | 3:17 | “Frodyr a chwiorydd, dw i'n gwybod eich bod chi ddim yn sylweddoli beth oeddech yn ei wneud; ac mae'r un peth yn wir am eich arweinwyr chi. | |
Acts | WelBeibl | 3:18 | Ond dyma sut wnaeth Duw gyflawni beth oedd y proffwydi wedi dweud fyddai'n digwydd i'r Meseia, sef fod rhaid iddo ddioddef. | |
Acts | WelBeibl | 3:19 | Felly trowch gefn ar eich pechod, a throi at Dduw, a bydd eich pechodau chi'n cael eu maddau. | |
Acts | WelBeibl | 3:20 | Yna bydd yr Arglwydd yn anfon ei fendith, cyn iddo anfon y Meseia atoch unwaith eto, sef Iesu. | |
Acts | WelBeibl | 3:21 | Mae'n rhaid iddo aros yn y nefoedd nes daw'r amser pan fydd Duw yn gwneud popeth yn iawn am byth. Roedd wedi dweud hyn ymhell yn ôl drwy ei broffwydi. | |
Acts | WelBeibl | 3:22 | Dwedodd Moses, ‘Bydd yr Arglwydd eich Duw yn codi Proffwyd arall fel fi o'ch plith chi. Rhaid i chi wrando'n ofalus ar bopeth fydd yn ei ddweud wrthoch chi. | |
Acts | WelBeibl | 3:23 | Bydd pwy bynnag sy'n gwrthod gwrando ar y Proffwyd hwnnw yn cael ei dorri allan yn llwyr o blith pobl Dduw.’ | |
Acts | WelBeibl | 3:24 | “Yn wir, roedd pob un o'r proffwydi, o Samuel ymlaen, yn dweud ymlaen llaw am y cwbl fyddai'n digwydd yn ein dyddiau ni. | |
Acts | WelBeibl | 3:25 | Chi ydy'r plant sydd i etifeddu beth wnaeth y proffwydi ei addo a'r ymrwymiad wnaeth Duw i'ch cyndeidiau chi. Dyma ddwedodd wrth Abraham: ‘Drwy dy ddisgynyddion di bydd holl bobloedd y byd yn cael eu bendithio.’ | |