ACTS
Chapter 11
Acts | WelBeibl | 11:1 | Clywodd yr apostolion a'r credinwyr yn Jwdea fod pobl o genhedloedd eraill wedi credu neges Duw. | |
Acts | WelBeibl | 11:2 | Ond pan aeth Pedr yn ôl i Jerwsalem, cafodd ei feirniadu'n hallt gan rai o'r credinwyr Iddewig, | |
Acts | WelBeibl | 11:3 | “Rwyt ti wedi mynd at bobl o genhedloedd eraill a hyd yn oed bwyta gyda nhw!” medden nhw. | |
Acts | WelBeibl | 11:5 | “Rôn i yn Jopa, ac wrthi'n gweddïo ryw ddiwrnod pan ges i weledigaeth. Gwelais i rywbeth tebyg i gynfas fawr yn cael ei gollwng i lawr o'r awyr wrth ei phedair cornel. Daeth i lawr reit o mlaen i. | |
Acts | WelBeibl | 11:6 | Edrychais i mewn, ac roedd pob math o anifeiliaid ynddi – rhai gwyllt, ymlusgiaid ac adar. | |
Acts | WelBeibl | 11:7 | Wedyn dyma lais yn dweud wrtho i, ‘Cod Pedr, lladd beth rwyt ti eisiau, a'i fwyta.’ | |
Acts | WelBeibl | 11:8 | “Ti ddim o ddifri, Arglwydd!” meddwn i. “Dw i erioed wedi bwyta dim byd sy'n cael ei gyfri'n aflan neu'n anghywir i'w fwyta!” | |
Acts | WelBeibl | 11:9 | “Ond wedyn dyma'r llais o'r nefoedd yn dweud, ‘Os ydy Duw wedi dweud fod rhywbeth yn iawn i'w fwyta, paid ti â dweud fel arall!’ | |
Acts | WelBeibl | 11:10 | Digwyddodd yr un peth dair gwaith cyn i'r gynfas gael ei thynnu yn ôl i fyny i'r awyr. | |
Acts | WelBeibl | 11:11 | “Y funud honno dyma dri dyn oedd wedi cael eu hanfon ata i o Cesarea yn cyrraedd y tu allan i'r tŷ lle roeddwn i'n aros. | |
Acts | WelBeibl | 11:12 | Dyma'r Ysbryd Glân yn dweud wrtho i am beidio petruso mynd gyda nhw. Aeth y chwe brawd yma gyda mi a dyma ni'n mynd i mewn i dŷ'r dyn oedd wedi anfon amdana i. | |
Acts | WelBeibl | 11:13 | Dwedodd wrthon ni ei fod wedi gweld angel yn ei dŷ, a bod yr angel wedi dweud wrtho, ‘Anfon i Jopa i nôl dyn o'r enw Simon Pedr. | |
Acts | WelBeibl | 11:15 | “Pan ddechreuais i siarad, dyma'r Ysbryd Glân yn dod arnyn nhw yn union fel y daeth arnon ni ar y dechrau. | |
Acts | WelBeibl | 11:16 | A dyma fi'n cofio beth roedd yr Arglwydd Iesu wedi'i ddweud: ‘Roedd Ioan yn bedyddio â dŵr, ond mewn ychydig ddyddiau cewch chi'ch bedyddio â'r Ysbryd Glân.’ | |
Acts | WelBeibl | 11:17 | Felly gan fod Duw wedi rhoi'r un rhodd iddyn nhw ag a roddodd i ni pan wnaethon ni gredu yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i i geisio rhwystro Duw?” | |
Acts | WelBeibl | 11:18 | Pan glywon nhw'r hanes, doedden nhw ddim yn gallu dweud dim yn groes, a dyma nhw'n dechrau moli Duw. “Mae'n rhaid fod Duw felly'n gadael i bobl o genhedloedd eraill droi cefn ar eu pechod a chael bywyd!” medden nhw. | |
Acts | WelBeibl | 11:19 | O ganlyniad i'r erlid ddechreuodd yn dilyn beth ddigwyddodd i Steffan, roedd rhai credinwyr wedi dianc mor bell a Phenicia, Cyprus ac Antiochia yn Syria. Roedden nhw'n rhannu'r neges, ond dim ond gydag Iddewon. | |
Acts | WelBeibl | 11:20 | Ond yna dyma'r rhai aeth i Antiochia o Cyprus a Cyrene yn dechrau cyhoeddi'r newyddion da am yr Arglwydd Iesu i bobl o genhedloedd eraill. | |
Acts | WelBeibl | 11:21 | Roedd Duw gyda nhw, a dyma nifer fawr o bobl yn credu ac yn troi at yr Arglwydd. | |
Acts | WelBeibl | 11:22 | Pan glywodd yr eglwys yn Jerwsalem am y peth, dyma nhw'n anfon Barnabas i Antiochia i weld beth oedd yn digwydd. | |
Acts | WelBeibl | 11:23 | Pan gyrhaeddodd yno gwelodd yn glir fod Duw ar waith. Roedd wrth ei fodd, ac yn annog y rhai oedd wedi credu i aros yn ffyddlon i'r Arglwydd a rhoi eu hunain yn llwyr iddo. | |
Acts | WelBeibl | 11:24 | Roedd Barnabas yn ddyn da, yn llawn o'r Ysbryd Glân ac yn credu'n gryf, a chafodd nifer fawr o bobl eu harwain ganddo at yr Arglwydd. | |
Acts | WelBeibl | 11:26 | Ar ôl dod o hyd iddo, aeth ag e'n ôl i Antiochia. Buodd y ddau yno gyda'r eglwys am flwyddyn gyfan yn dysgu tyrfa fawr o bobl. (Gyda llaw, yn Antiochia y cafodd dilynwyr Iesu eu galw yn Gristnogion am y tro cyntaf.) | |
Acts | WelBeibl | 11:28 | Yn un o'r cyfarfodydd, dyma un ohonyn nhw (dyn o'r enw Agabus) yn sefyll ar ei draed, ac yn proffwydo dan ddylanwad yr Ysbryd Glân fod newyn trwm yn mynd i ledu drwy'r byd Rhufeinig i gyd. (Digwyddodd y newyn hwnnw yn ystod teyrnasiad Clawdiws.) | |
Acts | WelBeibl | 11:29 | Felly dyma'r credinwyr yn Antiochia yn penderfynu helpu eu brodyr a'u chwiorydd yn Jwdea, drwy i bawb gyfrannu cymaint ag y gallai. | |