ACTS
Chapter 20
Acts | WelBeibl | 20:1 | Pan oedd yr helynt drosodd, dyma Paul yn galw'r Cristnogion at ei gilydd i ffarwelio â nhw a'u hannog nhw i ddal ati. Gadawodd i fynd i Macedonia, | |
Acts | WelBeibl | 20:2 | ac ar ôl teithio ar hyd a lled yr ardal honno yn annog y bobl, aeth i lawr i Corinth yn y de, | |
Acts | WelBeibl | 20:3 | ac aros yno am dri mis. Pan oedd ar fin hwylio i Syria dyma fe'n darganfod fod yr Iddewon yn cynllwynio i ymosod arno, felly penderfynodd deithio yn ôl drwy Macedonia. | |
Acts | WelBeibl | 20:4 | Yn teithio gydag e roedd Sopater fab Pyrrhus o Berea, Aristarchus a Secwndus o Thesalonica, Gaius o Derbe, hefyd Timotheus, a Tychicus a Troffimus o dalaith Asia. | |
Acts | WelBeibl | 20:6 | Wnaethon ni ddim gadael Philipi nes oedd Gŵyl y Bara Croyw (sef y Pasg) drosodd. Yna bum diwrnod wedyn roedden ni wedi ymuno gyda'r lleill eto yn Troas, a dyma ni'n aros yno am wythnos. | |
Acts | WelBeibl | 20:7 | Ar y nos Sadwrn dyma ni'n cyfarfod i fwyta a dathlu Swper yr Arglwydd. Paul oedd yn pregethu, a chan ei fod yn bwriadu gadael y diwrnod wedyn, daliodd ati i siarad nes oedd hi'n hanner nos. | |
Acts | WelBeibl | 20:8 | Roedden ni'n cyfarfod mewn ystafell i fyny'r grisiau, ac roedd llawer o lampau yn llosgi yno. | |
Acts | WelBeibl | 20:9 | Wrth i Paul fynd ymlaen ac ymlaen, dyma fachgen ifanc o'r enw Eutychus yn dechrau pendwmpian. Roedd yn eistedd ar silff un o'r ffenestri, a phan oedd yn cysgu go iawn syrthiodd allan o'r ffenest oedd ar y trydydd llawr. Dyma nhw'n mynd i'w godi, ond roedd wedi marw. | |
Acts | WelBeibl | 20:10 | Ond yna aeth Paul i lawr, a thaflu ei freichiau o gwmpas y dyn ifanc. “Peidiwch cynhyrfu!”, meddai, “Mae'n fyw!” | |
Acts | WelBeibl | 20:11 | Wedyn aeth yn ôl i fyny i fwyta a dathlu Swper yr Arglwydd. Aeth yn ei flaen i siarad nes oedd hi wedi gwawrio, ac yna gadawodd nhw. | |
Acts | WelBeibl | 20:13 | Dyma Paul yn penderfynu croesi ar draws gwlad i Assos. Roedd am i'r gweddill ohonon ni hwylio yno ar long, a byddai'n ein cyfarfod ni yno. | |
Acts | WelBeibl | 20:15 | Y diwrnod wedyn dyma ni'n cyrraedd gyferbyn ag ynys Cios. Croesi i Samos y diwrnod canlynol. Ac yna'r diwrnod ar ôl hynny dyma ni'n glanio yn Miletus. | |
Acts | WelBeibl | 20:16 | Roedd Paul wedi penderfynu peidio galw yn Effesus y tro yma, rhag iddo golli gormod o amser yn nhalaith Asia. Roedd ar frys, ac yn awyddus i gyrraedd Jerwsalem erbyn Gŵyl y Pentecost. | |
Acts | WelBeibl | 20:17 | Ond tra oedd yn Miletus, anfonodd neges i Effesus yn galw arweinwyr yr eglwys i ddod draw i Miletus i'w gyfarfod. | |
Acts | WelBeibl | 20:18 | Pan gyrhaeddon nhw, dyma oedd ganddo i'w ddweud wrthyn nhw: “Dych chi'n gwybod yn iawn sut fues i'n gweithio i'r Arglwydd heb dynnu sylw ata i fy hun pan oeddwn i gyda chi yn nhalaith Asia. | |
Acts | WelBeibl | 20:19 | Dych chi'n gwybod am y dagrau gollais i, ac mor anodd roedd hi'n gallu bod am fod yr Iddewon yn cynllwynio yn fy erbyn i. | |
Acts | WelBeibl | 20:20 | Dych chi'n gwybod mod i wedi cyhoeddi beth oedd o les i chi, a mynd o gwmpas yn gwbl agored o un tŷ i'r llall yn eich dysgu chi. | |
Acts | WelBeibl | 20:21 | Dw i wedi dweud yn glir wrth yr Iddewon a phawb arall fod rhaid iddyn nhw droi o'u pechod at Dduw, a chredu yn yr Arglwydd Iesu. | |
Acts | WelBeibl | 20:22 | “A nawr dw i'n mynd i Jerwsalem. Mae'r Ysbryd wedi dweud fod rhaid i mi fynd, er nad ydw i'n gwybod beth fydd yn digwydd i mi ar ôl i mi gyrraedd yno. | |
Acts | WelBeibl | 20:23 | Yr unig beth dw i'n wybod ydy mod i'n mynd i gael fy arestio a bod pethau'n mynd i fod yn galed – mae'r Ysbryd Glân wedi gwneud hynny'n ddigon clir dro ar ôl tro mewn gwahanol leoedd. | |
Acts | WelBeibl | 20:24 | Sdim ots! Cyn belled â'm bod i'n gorffen y ras! Dydy mywyd i'n dda i ddim oni bai mod i'n gwneud y gwaith mae'r Arglwydd Iesu wedi'i roi i mi – sef dweud y newyddion da am gariad a haelioni Duw wrth bobl. | |
Acts | WelBeibl | 20:25 | “A dyna dw i wedi'i wneud yn eich plith chi – dw i wedi bod yn mynd o le i le yn pregethu am deyrnasiad Duw, ond bellach dw i'n gwybod na chewch chi ngweld i byth eto. | |
Acts | WelBeibl | 20:26 | Felly, dw i am ddweud yma heddiw – dim fi sy'n gyfrifol am beth fydd yn digwydd i unrhyw un. | |
Acts | WelBeibl | 20:27 | Dw i wedi dweud popeth sydd ei angen am y ffordd mae Duw'n achub, a beth mae'n ei ddisgwyl gynnon ni. | |
Acts | WelBeibl | 20:28 | “Gofalwch amdanoch eich hunain, a'r bobl mae'r Ysbryd Glân wedi'u rhoi yn eich gofal fel arweinwyr. Bugeilio eglwys Dduw fel mae bugail yn gofalu am ei braidd – dyma'r eglwys wnaeth Duw ei phrynu'n rhydd â'i waed ei hun! | |
Acts | WelBeibl | 20:29 | Dw i'n gwybod yn iawn y bydd athrawon twyllodrus yn dod i'ch plith chi cyn gynted ag y bydda i wedi mynd, fel bleiddiaid gwyllt yn llarpio'r praidd. | |
Acts | WelBeibl | 20:30 | Bydd hyd yn oed rhai o'ch pobl chi'ch hunain yn twistio'r gwirionedd i geisio denu dilynwyr iddyn nhw'u hunain. | |
Acts | WelBeibl | 20:31 | Felly gwyliwch eich hunain! Cofiwch mod i wedi'ch rhybuddio chi ddydd a nos, a cholli dagrau lawer am y tair blynedd roeddwn i gyda chi. | |
Acts | WelBeibl | 20:32 | “Dw i'n eich gadael chi yng ngofal Duw bellach, a'r neges am ei gariad a'i haelioni. Y neges yma sy'n eich adeiladu chi a rhoi etifeddiaeth i chi gyda phawb arall mae wedi'u cysegru iddo'i hun. | |
Acts | WelBeibl | 20:34 | Dych chi'n gwybod yn iawn mod i wedi gweithio'n galed i dalu fy ffordd a chynnal fy ffrindiau. | |
Acts | WelBeibl | 20:35 | Drwy'r cwbl roeddwn i'n dangos sut bydden ni'n gallu helpu'r tlodion drwy weithio'n galed. Dych chi'n cofio fod yr Arglwydd Iesu ei hun wedi dweud: ‘Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.’” | |