Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ACTS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 1
Acts WelBeibl 1:1  Annwyl Theoffilws: Ysgrifennais yn fy llyfr cyntaf am y pethau aeth Iesu ati i'w gwneud a'u dysgu
Acts WelBeibl 1:2  cyn iddo gael ei gymryd yn ôl i fyny i'r nefoedd. Cyn mynd dwedodd wrth yr apostolion beth oedd am iddyn nhw ei wneud yn nerth yr Ysbryd Glân.
Acts WelBeibl 1:3  Am bron chwe wythnos ar ôl iddo gael ei groeshoelio dangosodd ei hun iddyn nhw dro ar ôl tro, a phrofi y tu hwnt i bob amheuaeth ei fod yn fyw. Roedd yn siarad â nhw am beth mae teyrnasiad Duw yn ei olygu.
Acts WelBeibl 1:4  Un o'r troeon hynny pan oedd yn cael pryd o fwyd gyda nhw, dwedodd fel hyn: “Peidiwch gadael Jerwsalem nes byddwch wedi derbyn y rhodd mae fy Nhad wedi'i addo. Dych chi'n cofio fy mod wedi siarad am hyn o'r blaen.
Acts WelBeibl 1:5  Roedd Ioan yn bedyddio â dŵr, ond mewn ychydig ddyddiau cewch chi'ch bedyddio â'r Ysbryd Glân.”
Acts WelBeibl 1:6  Pan oedd y disgyblion yn cyfarfod gyda Iesu roedden nhw'n gofyn iddo o hyd, “Arglwydd, ai dyma pryd rwyt ti'n mynd i ryddhau Israel a'i gwneud yn wlad annibynnol unwaith eto?”
Acts WelBeibl 1:7  Ateb Iesu oedd: “Duw sy'n penderfynu pethau felly. Does dim rhaid i chi wybod beth ydy'r amserlen mae Duw wedi'i threfnu.
Acts WelBeibl 1:8  Ond bydd yr Ysbryd Glân yn disgyn arnoch chi, ac yn rhoi nerth i chi ddweud amdana i wrth bawb – yn Jerwsalem a Jwdea, yn Samaria, a drwy'r byd i gyd.”
Acts WelBeibl 1:9  Yna ar ôl iddo ddweud hynny cafodd ei godi i fyny i'r awyr o flaen eu llygaid. Dyma gwmwl yn dod o'i gwmpas a diflannodd o'u golwg.
Acts WelBeibl 1:10  Tra oedden nhw'n syllu i'r awyr yn edrych arno'n mynd, yn sydyn dyma ddau ddyn mewn dillad gwyn yn ymddangos wrth eu hymyl nhw,
Acts WelBeibl 1:11  a dweud, “Chi Galileaid, beth dych chi'n ei wneud yma yn syllu i'r awyr? Mae Iesu wedi cael ei gymryd i'r nefoedd oddi wrthoch chi. Ond yn union yr un fath ag y gweloch e'n mynd bydd yn dod yn ôl eto.”
Acts WelBeibl 1:12  Digwyddodd hyn i gyd ar Fynydd yr Olewydd oedd rhyw dri chwarter milltir i ffwrdd o'r ddinas. Dyma nhw'n cerdded yn ôl i Jerwsalem
Acts WelBeibl 1:13  a mynd yn syth i'r ystafell honno i fyny'r grisiau yn y tŷ lle roedden nhw'n aros. Roedd Pedr yno, Ioan, Iago ac Andreas, Philip a Tomos, Bartholomeus a Mathew, Iago fab Alffeus, Simon y Selot a Jwdas fab Iago.
Acts WelBeibl 1:14  Roedden nhw'n cyfarfod yno'n gyson i weddïo gyda'i gilydd, gyda Mair mam Iesu, a'i frodyr, a nifer o wragedd.
Acts WelBeibl 1:15  Un tro roedd tua cant ac ugain yno yn y cyfarfod, a safodd Pedr yn y canol,
Acts WelBeibl 1:16  a dweud: “Frodyr a chwiorydd, roedd rhaid i beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud ddigwydd. Yn bell yn ôl roedd y Brenin Dafydd, dan ddylanwad yr Ysbryd Glân, wedi sôn am Jwdas yr un wnaeth arwain y bobl at Iesu i'w arestio.
Acts WelBeibl 1:17  Roedd wedi bod yn un ohonon ni ac wedi gwasanaethu gyda ni!”
Acts WelBeibl 1:18  (Prynodd Jwdas faes gyda'r tâl gafodd am y brad. Yno syrthiodd i'w farwolaeth, a byrstiodd ei gorff yn agored nes bod ei berfedd yn y golwg.
Acts WelBeibl 1:19  Daeth pawb yn Jerwsalem i wybod am beth ddigwyddodd, a dechreuodd pobl alw y lle yn eu hiaith nhw yn Aceldama, sef ‛Maes y Gwaed‛.)
Acts WelBeibl 1:20  “Dyma mae llyfr y Salmau yn cyfeirio ato,” meddai Pedr, “‘Bydded ei le yn anial, heb neb yn byw yno.’ “Ac mae'n dweud hefyd, ‘Gad i rywun arall gymryd ei waith.’
Acts WelBeibl 1:21  “Felly mae'n rhaid i ni ddewis rhywun i gymryd ei le – un ohonoch chi oedd gyda ni pan oedd yr Arglwydd Iesu yma.
Acts WelBeibl 1:22  Rhywun fuodd yno drwy'r adeg, o'r dechrau cyntaf pan gafodd ei fedyddio gan Ioan i'r diwedd pan gafodd Iesu ei gymryd i fyny i'r nefoedd. Rhaid i'r person, fel ni, fod yn dyst i'r ffaith fod Iesu wedi dod yn ôl yn fyw.”
Acts WelBeibl 1:23  Dyma ddau enw yn cael eu cynnig: Joseff oedd un, sef Barsabas (sy'n cael ei alw'n Jwstus weithiau hefyd), a Mathïas oedd y llall.
Acts WelBeibl 1:24  Felly dyma nhw'n gweddïo, “Arglwydd, rwyt ti'n nabod calon pawb. Dangos i ni pa un o'r ddau yma rwyt ti wedi'i ddewis
Acts WelBeibl 1:25  i wasanaethu fel cynrychiolydd personol i Iesu yn lle Jwdas; mae hwnnw wedi'n gadael ni, ac wedi mynd lle mae'n haeddu.”
Acts WelBeibl 1:26  Yna dyma nhw'n taflu coelbren, a syrthiodd o blaid Mathïas; felly cafodd e ei ddewis i fod yn gynrychiolydd personol i Iesu gyda'r unarddeg.