ACTS
Chapter 27
Acts | WelBeibl | 27:1 | Dyma nhw'n penderfynu ein bod i hwylio i'r Eidal. Cafodd Paul a nifer o garcharorion eraill eu rhoi yng ngofal swyddog milwrol o'r enw Jwlius – aelod o'r Gatrawd Ymerodrol. | |
Acts | WelBeibl | 27:2 | Dyma ni'n mynd ar fwrdd llong o Adramitiwm oedd ar fin mynd i nifer o borthladdoedd yn Asia, a hwylio allan i'r môr. Roedd Aristarchus, o ddinas Thesalonica yn Macedonia, gyda ni. | |
Acts | WelBeibl | 27:3 | Y diwrnod wedyn, wedi i ni lanio yn Sidon, dyma Jwlius, yn garedig iawn, yn caniatáu i Paul fynd i weld ei ffrindiau iddyn nhw roi iddo unrhyw beth oedd ei angen. | |
Acts | WelBeibl | 27:4 | Dyma ni'n gadael porthladd Sidon, ond roedd y gwynt yn ein herbyn ni, a bu'n rhaid i ni hwylio o gwmpas ochr gysgodol ynys Cyprus. | |
Acts | WelBeibl | 27:5 | Ar ôl croesi'r môr mawr gyferbyn ag arfordir Cilicia a Pamffilia, dyma ni'n glanio yn Myra yn Lycia. | |
Acts | WelBeibl | 27:6 | Yno daeth Jwlius o hyd i long o Alecsandria oedd ar ei ffordd i'r Eidal, a'n rhoi ni ar fwrdd honno. | |
Acts | WelBeibl | 27:7 | Roedd hi'n fordaith araf iawn am ddyddiau lawer a chawson ni drafferth mawr i gyrraedd Cnidus. Ond roedd y gwynt yn rhy gryf i ni fynd ddim pellach, a dyma ni'n cael ein gorfodi i droi i'r de tua Creta, a hwylio yng nghysgod yr ynys o gwmpas pentir Salmone. | |
Acts | WelBeibl | 27:8 | Cawson ni gryn drafferth eto i ddilyn arfordir deheuol yr ynys, ond llwyddo o'r diwedd i gyrraedd porthladd yr Hafan Deg sydd wrth ymyl tref o'r enw Lasaia. | |
Acts | WelBeibl | 27:9 | Roedden ni wedi colli lot o amser, ac roedd hi'n beryglus i hwylio yr adeg honno o'r flwyddyn. (Roedd hi'n ddechrau Hydref, a Dydd y Cymod eisoes wedi mynd heibio.) Ceisiodd Paul eu rhybuddio nhw o'r peryglon, | |
Acts | WelBeibl | 27:10 | “Gyfeillion, trychineb fydd pen draw'r fordaith yma os byddwn ni'n mynd yn ein blaenau. Byddwch chi'n colli'r llong â'i chargo, heb sôn am beryglu'n bywydau ni sy'n hwylio arni hefyd.” | |
Acts | WelBeibl | 27:11 | Ond yn lle gwrando ar Paul, dyma Jwlius yn dilyn cyngor y peilot a chapten y llong. | |
Acts | WelBeibl | 27:12 | Roedd yr Hafan Deg yn borthladd agored, a ddim yn addas iawn i aros yno dros y gaeaf. Felly dyma'r mwyafrif yn penderfynu mai ceisio hwylio yn ein blaenau oedd orau. Y gobaith oedd cyrraedd lle o'r enw Phenics ar ben gorllewinol yr ynys, ac aros yno dros y gaeaf. Roedd porthladd Phenics yn wynebu'r de-orllewin a'r gogledd-orllewin. | |
Acts | WelBeibl | 27:13 | Pan ddechreuodd awel ysgafn chwythu o gyfeiriad y de, roedden nhw'n meddwl y byddai popeth yn iawn; felly dyma godi angor a dechrau hwylio ar hyd arfordir Creta. | |
Acts | WelBeibl | 27:14 | Ond yn sydyn dyma gorwynt cryf (sef yr Ewraculon) yn chwythu i lawr dros yr ynys o'r gogledd-ddwyrain. | |
Acts | WelBeibl | 27:15 | Cafodd y llong ei dal yn y storm. Roedd hi'n amhosib hwylio yn erbyn y gwynt, felly dyma roi i fyny, a chawson ni ein cario i ffwrdd ganddo. | |
Acts | WelBeibl | 27:16 | Bu bron i ni golli cwch glanio'r llong pan oedden ni'n pasio heibio ynys fach Cawda. | |
Acts | WelBeibl | 27:17 | Ar ôl i'r dynion lwyddo i'w chodi ar fwrdd y llong, dyma nhw'n rhoi rhaffau o dan gorff y llong rhag iddi ddryllio ar farrau tywod Syrtis. Wedyn dyma nhw'n gollwng yr angor môr ac yn gadael i'r llong gael ei gyrru gan y gwynt. | |
Acts | WelBeibl | 27:18 | Roedd y llong wedi'i churo cymaint gan y storm nes iddyn nhw orfod dechrau taflu'r cargo i'r môr y diwrnod wedyn. | |
Acts | WelBeibl | 27:19 | A'r diwrnod ar ôl hynny dyma nhw hyd yn oed yn dechrau taflu tacl y llong i'r môr! | |
Acts | WelBeibl | 27:20 | Dyma'r storm yn para'n ffyrnig am ddyddiau lawer, a doedd dim sôn am haul na'r sêr. Erbyn hynny, roedd pawb yn meddwl ei bod hi ar ben arnon ni. | |
Acts | WelBeibl | 27:21 | Doedd neb ag awydd bwyta ers dyddiau lawer. Yna dyma Paul yn y diwedd yn sefyll o flaen pawb, ac meddai: “Dylech chi fod wedi gwrando arna i a pheidio hwylio o ynys Creta; byddech chi wedi arbed y golled yma i gyd wedyn. | |
Acts | WelBeibl | 27:22 | Ond codwch eich calonnau – does neb yn mynd i farw, er ein bod ni'n mynd i golli'r llong. | |
Acts | WelBeibl | 27:23 | Safodd angel Duw wrth fy ymyl i neithiwr – sef y Duw biau fi; yr un dw i'n ei wasanaethu. | |
Acts | WelBeibl | 27:24 | A dyma ddwedodd, ‘Paid bod ag ofn, Paul. Mae'n rhaid i ti sefyll dy brawf o flaen Cesar. Ac mae Duw'n garedig yn mynd i arbed bywydau pawb arall sydd ar y llong.’ | |
Acts | WelBeibl | 27:25 | Felly codwch eich calonnau! Dw i'n credu fod popeth yn mynd i ddigwydd yn union fel mae Duw wedi dweud wrtho i. | |
Acts | WelBeibl | 27:27 | Roedd pedair noson ar ddeg wedi mynd heibio ers i'r storm ddechrau, ac roedden ni'n dal i gael ein gyrru ar draws Môr Adria. Tua hanner nos dyma'r morwyr yn synhwyro ein bod ni'n agos at dir. | |
Acts | WelBeibl | 27:28 | Dyma nhw'n plymio ac yn cael dyfnder o dri deg saith metr. Yna dyma nhw'n plymio eto ychydig yn nes ymlaen a chael dyfnder o ddau ddeg saith metr. | |
Acts | WelBeibl | 27:29 | Rhag ofn i ni gael ein hyrddio yn erbyn creigiau dyma nhw'n gollwng pedwar angor o'r starn ac yn disgwyl am olau dydd. | |
Acts | WelBeibl | 27:30 | Ond yna ceisiodd y morwyr ddianc o'r llong. Roedden nhw'n esgus eu bod nhw'n gollwng angorau ar du blaen y llong, ond yn lle gwneud hynny roedden nhw'n ceisio gollwng y cwch glanio i'r môr. | |
Acts | WelBeibl | 27:31 | Ond dyma Paul yn dweud wrth y swyddog Rhufeinig a'i filwyr, “Os fydd y dynion yna ddim yn aros ar y llong fyddwch chi ddim yn cael eich achub.” | |
Acts | WelBeibl | 27:32 | Felly dyma'r milwyr yn torri'r rhaffau oedd yn dal y cwch glanio a gadael iddi ddisgyn i'r dŵr. | |
Acts | WelBeibl | 27:33 | Dyma Paul yn annog pawb i fwyta cyn iddi wawrio. “Dych chi wedi bod yn poeni a heb fwyta dim byd ers pythefnos. | |
Acts | WelBeibl | 27:34 | Dw i'n erfyn arnoch chi i gymryd rhywbeth – bydd ei angen arnoch i ddod drwy hyn. Ond gaiff neb niwed.” | |
Acts | WelBeibl | 27:35 | Cymerodd Paul dorth o fara, diolch i Dduw o'u blaenau nhw i gyd, ac yna ei thorri a dechrau bwyta. | |
Acts | WelBeibl | 27:38 | Ar ôl cael digon i'w fwyta dyma'r criw yn mynd ati i ysgafnhau'r llong drwy daflu'r cargo o wenith i'r môr. | |
Acts | WelBeibl | 27:39 | Pan ddaeth hi'n olau dydd, doedd neb yn nabod y tir o'n blaenau. Roedd bae gyda traeth o dywod i'w weld a dyma nhw'n penderfynu ceisio cael y llong i dirio ar y traeth hwnnw. | |
Acts | WelBeibl | 27:40 | Felly dyma nhw'n torri'r angorau'n rhydd a'u gadael yn y môr, a'r un pryd yn datod y rhaffau oedd yn dal y llyw. Wedyn dyma nhw'n agor yr hwyl flaen i ddal y gwynt ac anelu am y traeth. | |
Acts | WelBeibl | 27:41 | Ond dyma'r llong yn taro banc tywod, ac roedd tu blaen y llong yn hollol sownd ac yn gwrthod dod y rhydd. A dyma'r starn yn dechrau dryllio wrth i'r tonnau gwyllt hyrddio yn erbyn y llong. | |
Acts | WelBeibl | 27:42 | Roedd y milwyr eisiau lladd y carcharorion rhag iddyn nhw nofio i ffwrdd a dianc, | |
Acts | WelBeibl | 27:43 | ond rhwystrodd y pennaeth nhw rhag gwneud hynny am ei fod eisiau i Paul gael byw. Wedyn rhoddodd orchymyn i'r rhai oedd yn gallu nofio i neidio i'r dŵr a cheisio cyrraedd y lan. | |