DEUTERONOMY
Chapter 20
Deut | WelBeibl | 20:1 | “Pan fyddwch chi'n mynd i ryfel yn erbyn eich gelynion, ac yn gweld eu holl geffylau a'u cerbydau, a bod ganddyn nhw lawer mwy o filwyr na chi, peidiwch bod ag ofn. Mae'r ARGLWYDD Dduw, wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, gyda chi. | |
Deut | WelBeibl | 20:3 | ‘Ddynion Israel, gwrandwch! Dych chi ar fin mynd allan i ymladd yn erbyn eich gelynion. Peidiwch torri'ch calon na bod ag ofn. Peidiwch panicio. | |
Deut | WelBeibl | 20:4 | Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd gyda chi i ymladd yn erbyn eich gelynion, a'ch helpu chi i ennill y frwydr.’ | |
Deut | WelBeibl | 20:5 | “Yna mae'r swyddogion i ddweud wrth y milwyr, ‘Oes rhywun yma wedi adeiladu tŷ, a heb ei gyflwyno i Dduw? Gall fynd adre, rhag ofn iddo gael ei ladd yn y frwydr, ac i rywun arall gysegru'r tŷ. | |
Deut | WelBeibl | 20:6 | Oes rhywun yma wedi plannu gwinllan, a heb eto gael ffrwyth ohoni? Gall fynd adre, rhag ofn iddo gael ei ladd yn y frwydr, ac i rywun arall gael y ffrwyth. | |
Deut | WelBeibl | 20:7 | Neu oes rhywun yma sydd wedi dyweddïo gyda merch, ond heb eto'i phriodi hi? Gall fynd adre, rhag ofn iddo gael ei ladd yn y frwydr, ac i rywun arall ei phriodi hi.’ | |
Deut | WelBeibl | 20:8 | Maen nhw hyd yn oed i ddweud, ‘Oes rhywun yma sy'n nerfus ac yn ofnus? Gall fynd adre, rhag iddo wneud i'r milwyr eraill golli hyder hefyd.’ | |
Deut | WelBeibl | 20:9 | Ar ôl i'r swyddogion ddweud hyn i gyd, maen nhw i benodi capteiniaid i arwain unedau milwrol. | |
Deut | WelBeibl | 20:10 | “Pan fydd y fyddin yn dod yn agos at dref maen nhw'n bwriadu ymosod arni, maen nhw i gynnig telerau heddwch iddi gyntaf. | |
Deut | WelBeibl | 20:11 | Os byddan nhw'n cytuno i'r telerau ac yn ildio i chi, bydd y bobl i gyd yn gweithio fel caethweision i chi. | |
Deut | WelBeibl | 20:13 | Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich galluogi chi i'w choncro. Rhaid i chi ladd y dynion i gyd. | |
Deut | WelBeibl | 20:14 | Ond gallwch gadw'r merched, y plant, yr anifeiliaid, ac unrhyw beth arall gwerthfawr sydd yn y dref. Cewch gadw'r holl stwff mae'r ARGLWYDD yn ei roi i chi. | |
Deut | WelBeibl | 20:15 | “Dyna sut dych chi i ddelio gyda'r trefi sy'n bell o'ch tir chi'ch hunain (y rhai sydd ddim yn perthyn i'r bobloedd yn Canaan). | |
Deut | WelBeibl | 20:16 | Ond gyda'r trefi sy'n perthyn i'r bobloedd mae'r ARGLWYDD eich Duw yn rhoi eu tir nhw i chi, does yr un person nac anifail i gael ei adael yn fyw. | |
Deut | WelBeibl | 20:17 | Mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthoch chi. Rhaid i chi eu lladd nhw i gyd – yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a'r Jebwsiaid – | |
Deut | WelBeibl | 20:18 | rhag iddyn nhw'ch arwain chi i fynd drwy'r defodau ffiaidd maen nhw'n eu dilyn wrth addoli eu duwiau eu hunain, a gwneud i chi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw. | |
Deut | WelBeibl | 20:19 | “Os byddwch chi'n gwarchae am amser hir ar dref dych chi'n ymosod arni, rhaid i chi beidio torri ei choed ffrwythau i lawr. Gallwch fwyta'r ffrwyth oddi arnyn nhw, ond peidiwch torri nhw i lawr. Dydy'r coed ffrwythau ddim yn elynion i chi! | |