Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
DEUTERONOMY
Prev Up Next
Chapter 1
Deut WelBeibl 1:1  Dyma beth ddwedodd Moses wrth bobl Israel i gyd pan oedden nhw yn yr anialwch yr ochr draw i afon Iorddonen – y tir anial sydd gyferbyn â Swff, rhwng Paran a Toffel, Laban, Chatseroth a Di-sahab.
Deut WelBeibl 1:2  Fel arfer mae'n cymryd un deg un diwrnod i deithio o Fynydd Sinai i Cadesh-barnea ar draws bryniau Seir.
Deut WelBeibl 1:3  Ond roedd pedwar deg mlynedd wedi mynd heibio. Roedd hi'r diwrnod cyntaf o fis un deg un y flwyddyn honno pan wnaeth Moses annerch pobl Israel, a dweud popeth roedd yr ARGLWYDD wedi'i orchymyn iddo.
Deut WelBeibl 1:4  Digwyddodd hyn ar ôl iddo ennill y frwydr yn erbyn Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon, ac Og, brenin Bashan, oedd yn byw yn Ashtaroth ac Edrei.
Deut WelBeibl 1:5  Yr ochr draw i afon Iorddonen, ar dir Moab, dyma Moses yn mynd ati i esbonio cyfarwyddiadau Duw iddyn nhw:
Deut WelBeibl 1:6  “Pan oedden ni wrth Fynydd Sinai, dyma'r ARGLWYDD ein Duw yn dweud wrthon ni, ‘Dych chi wedi aros wrth y mynydd yma ddigon hir.
Deut WelBeibl 1:7  Mae'n bryd i chi symud yn eich blaenau. Ewch i gyfeiriad bryniau'r Amoriaid, a'r ardaloedd cyfagos – y tir anial, y bryniau, yr iseldir i'r gorllewin, y Negef a'r arfordir – sef gwlad Canaan i gyd, ac o Libanus yr holl ffordd i afon Ewffrates fawr.
Deut WelBeibl 1:8  Mae'r tir yma i gyd i chi. Dyma'r tir wnes i addo ei roi i'ch hynafiaid chi – Abraham, Isaac a Jacob. Ewch, a'i gymryd drosodd.’
Deut WelBeibl 1:9  “Dyna'r adeg hefyd pan ddwedais wrthoch chi, ‘Alla i ddim gwneud hyn ar fy mhen fy hun – mae'n ormod o faich.
Deut WelBeibl 1:10  Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud i'ch niferoedd chi dyfu, a bellach mae yna gymaint ohonoch chi ag sydd o sêr yn yr awyr!
Deut WelBeibl 1:11  A boed i'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, ddal ati i'ch lluosi chi fil gwaith drosodd eto, a'ch bendithio chi fel gwnaeth e addo gwneud!
Deut WelBeibl 1:12  Ond sut alla i ddelio gyda'ch holl broblemau chi, a godde'ch cwynion chi i gyd?
Deut WelBeibl 1:13  Dewiswch ddynion doeth, deallus, o bob llwyth, i mi eu comisiynu nhw'n arweinwyr arnoch chi.’
Deut WelBeibl 1:15  Felly dyma fi'n cymryd y dynion doeth, deallus yma, a'u gwneud nhw'n arweinwyr y llwythau – yn swyddogion dros grwpiau o fil, cant, hanner cant, a deg o bobl.
Deut WelBeibl 1:16  “Cafodd rhai eraill eu penodi'n farnwyr, a dyma fi'n eu siarsio nhw i gymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif, a delio'n deg gyda'r achosion fyddai'n codi rhwng pobl – nid yn unig rhwng pobl Israel a'i gilydd, ond hefyd rhwng pobl Israel a'r rhai o'r tu allan oedd yn byw gyda nhw.
Deut WelBeibl 1:17  Dwedais wrthyn nhw am beidio dangos ffafriaeth wrth farnu achos, ond i wrando ar bawb, beth bynnag fo'i statws. A ddylen nhw ddim ofni pobl. Duw sy'n gwneud y barnu. Ac os oedd achos yn rhy gymhleth iddyn nhw, gallen nhw ofyn i mi ddelio gydag e.
Deut WelBeibl 1:18  “Rôn i wedi dweud wrthoch chi am bopeth roedd disgwyl i chi ei wneud.
Deut WelBeibl 1:19  “Yna, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i ni, dyma ni'n gadael Mynydd Sinai, a dechrau teithio drwy'r anialwch mawr peryglus yna, i gyfeiriad bryniau'r Amoriaid. A dyma ni'n cyrraedd Cadesh-barnea.
Deut WelBeibl 1:20  Ac yno dwedais wrthoch chi, ‘Dŷn ni wedi cyrraedd y bryniau lle mae'r Amoriaid yn byw. Mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi'r tir yma i ni nawr.
Deut WelBeibl 1:21  Edrychwch, mae'r tir yna i chi ei gymryd. Ewch, a'i gymryd, fel mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi dweud wrthoch chi. Peidiwch bod ag ofn na phanicio.’
Deut WelBeibl 1:22  “Ond daethoch ata i a dweud, ‘Beth am anfon dynion i edrych dros y wlad gyntaf? Gallen nhw awgrymu pa ffordd fyddai orau i fynd, a rhoi gwybodaeth i ni am y trefi sydd yno.’
Deut WelBeibl 1:23  “Rôn i'n meddwl ei fod yn syniad da, felly dyma fi'n anfon un deg dau o ddynion o'n blaenau ni, un o bob llwyth.
Deut WelBeibl 1:24  Aethon nhw drosodd i'r bryniau, a chyrraedd Wadi Eshcol. Ar ôl edrych dros y wlad,
Deut WelBeibl 1:25  dyma nhw'n dod yn ôl gyda pheth o gynnyrch y tir. Roedden nhw'n dweud, ‘Mae'r tir mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei roi i ni yn dir da!’
Deut WelBeibl 1:26  “Ond dyma chi'n gwrthod mynd yn eich blaenau. Yn lle hynny dyma chi'n gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD,
Deut WelBeibl 1:27  aros yn eich pebyll, a dechrau cwyno ymhlith eich gilydd, a dweud pethau fel, ‘Daeth yr ARGLWYDD â ni allan o'r Aifft am ei fod yn ein casáu ni, ac er mwyn i ni gael ein lladd gan yr Amoriaid!
Deut WelBeibl 1:28  I ble awn ni? Mae'r dynion aeth i chwilio'r tir wedi'n gwneud ni'n hollol ddigalon wrth sôn am bobl sy'n dalach ac yn gryfach na ni. Mae waliau amddiffynnol eu trefi nhw yn codi'n uchel i'r awyr. Ac yn waeth na hynny, maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi gweld cewri yno – disgynyddion Anac.’
Deut WelBeibl 1:29  “Gwnes i drio dweud wrthoch chi, ‘Does dim rhaid i chi fod ag ofn!
Deut WelBeibl 1:30  Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd o'ch blaenau chi! Bydd e'n ymladd drosoch chi, yn union fel y gwelsoch chi e'n gwneud yn yr Aifft!
Deut WelBeibl 1:31  Meddyliwch sut wnaeth e ofalu amdanoch chi yn yr anialwch! Mae wedi'ch cario chi yr holl ffordd yma, fel mae dyn yn cario'i fab!’
Deut WelBeibl 1:32  “Ond doedd dim ots beth roeddwn i'n ddweud, roeddech chi'n dal i wrthod trystio'r ARGLWYDD eich Duw,
Deut WelBeibl 1:33  yr un oedd yn mynd o'ch blaen chi, ac yn dod o hyd i leoedd i chi godi gwersyll. Roedd yn eich arwain chi mewn colofn dân yn y nos a cholofn niwl yn y dydd, ac yn dangos i chi pa ffordd i fynd.
Deut WelBeibl 1:34  “Pan glywodd yr ARGLWYDD beth roeddech chi'n ei ddweud, roedd wedi digio go iawn hefo chi, a dyma fe'n addo ar lw:
Deut WelBeibl 1:35  ‘Fydd neb o'r genhedlaeth yma yn cael gweld y tir da wnes i addo ei roi i'ch hynafiaid chi!
Deut WelBeibl 1:36  Caleb fab Jeffwnne fydd yr unig eithriad. Bydd e'n cael mynd yno, a bydda i'n rhoi iddo fe a'i ddisgynyddion y tir y buodd e'n cerdded arno, am ei fod wedi bod yn gwbl ffyddlon i mi.’
Deut WelBeibl 1:37  “Ac roedd yr ARGLWYDD wedi digio hefo fi hefyd o'ch achos chi. Dwedodd, ‘Fyddi di ddim yn cael mynd yno chwaith.
Deut WelBeibl 1:38  Ond bydd Josua fab Nwn, dy was di, yn cael mynd. Dw i eisiau i ti ei annog e. Fe ydy'r un fydd yn arwain Israel i gymryd y tir.
Deut WelBeibl 1:39  Ond bydd y plant bach hefyd, y rhai oedd gynnoch chi ofn iddyn nhw gael eu dal, yn cael mynd – y rhai sy'n rhy ifanc eto i wybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da. Bydda i'n rhoi'r tir iddyn nhw, a nhw fydd piau e.
Deut WelBeibl 1:40  Ond nawr rhaid i chi droi'n ôl, a mynd drwy'r anialwch yn ôl i gyfeiriad y Môr Coch.’
Deut WelBeibl 1:41  “Roeddech chi'n cyfaddef wedyn eich bod ar fai, a dyma chi'n dweud, ‘Dŷn ni wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. Gwnawn ni fynd i ymladd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrthon ni.’ “A dyma chi i gyd yn gwisgo'ch arfau, yn barod i fynd i ymladd yn y bryniau.
Deut WelBeibl 1:42  Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Dwed wrthyn nhw am beidio mynd i ymladd. Dw i ddim gyda nhw. Byddan nhw'n cael eu curo gan eu gelynion.’
Deut WelBeibl 1:43  “Rôn i wedi dweud wrthoch chi, ond roeddech chi'n gwrthod gwrando. Dyma chi'n gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD eto. I ffwrdd â chi, yn llawn ohonoch chi'ch hunain.
Deut WelBeibl 1:44  Dyma'r Amoriaid oedd yn byw yno yn dod allan fel haid o wenyn i ymladd gyda chi, a'ch gyrru chi i ffwrdd! Dyma nhw'n eich taro chi i lawr yr holl ffordd o dir Seir i dref Horma.
Deut WelBeibl 1:45  Pan gyrhaeddoch chi'n ôl, dyma chi'n mynd i ofyn i'r ARGLWYDD am help, ond wnaeth e ddim cymryd sylw ohonoch chi.
Deut WelBeibl 1:46  Felly dyma chi'n aros yn Cadesh am amser hir iawn.