Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
DEUTERONOMY
Prev Up Next
Chapter 33
Deut WelBeibl 33:1  Dyma'r fendith wnaeth Moses, dyn Duw, ei chyhoeddi dros bobl Israel cyn iddo farw:
Deut WelBeibl 33:2  “Daeth yr ARGLWYDD o Fynydd Sinai; roedd fel y wawr yn torri o gyfeiriad Edom. Roedd yn disgleirio o Fynydd Paran, ac yn dod allan gyda deg mil o angylion, a mellt yn saethu o'i law dde.
Deut WelBeibl 33:3  Mae'n amlwg ei fod yn caru'r bobl, ac yn gofalu am y rhai sydd wedi'u cysegru iddo. Maen nhw'n gwrando ar ei eiriau, ac yn addoli wrth ei draed.
Deut WelBeibl 33:4  Rhoddodd Moses gyfraith i ni; rhodd sbesial i bobl Jacob.
Deut WelBeibl 33:5  Yr ARGLWYDD oedd brenin Israel onest pan ddaeth arweinwyr y bobl a llwythau Israel at ei gilydd.
Deut WelBeibl 33:6  Boed i Reuben gael byw, nid marw, ond fydd ei bobl ddim yn niferus.”
Deut WelBeibl 33:7  Yna meddai am Jwda: “Gwranda, ARGLWYDD, ar lais Jwda, ac una fe gyda'i bobl. Rho nerth rhyfeddol iddo, a helpa fe i ymladd yn erbyn ei elynion.”
Deut WelBeibl 33:8  Yna meddai am Lefi: “I Lefi rhoddaist y Thwmim a'r Wrim, i'r gwas oedd wedi'i gysegru. Profaist e wrth Massa, a dadlau gydag e wrth Ffynnon Meriba.
Deut WelBeibl 33:9  Dwedodd wrth ei rieni, ‘Dw i erioed wedi'ch gweld’, wrth ei frodyr a'i chwiorydd, ‘Pwy ydych chi?’, ac wrth ei blant, ‘Dw i ddim yn eich nabod chi,’ am fod gwneud beth rwyt ti'n ddweud, ac amddiffyn dy ymrwymiad yn bwysicach ganddo.
Deut WelBeibl 33:10  Nhw sy'n dysgu dy ganllawiau i Jacob, a'th gyfarwyddiadau i Israel. Nhw sy'n cyflwyno arogldarth sy'n arogli'n hyfryd, ac offrymau cyflawn ar dy allor.
Deut WelBeibl 33:11  O ARGLWYDD, bendithia ei eiddo, a chael pleser o'r gwaith mae'n ei wneud. Torra goesau unrhyw un sy'n ymosod arno, a'r rhai sy'n ei gasáu, nes eu bod nhw'n methu sefyll.”
Deut WelBeibl 33:12  Yna meddai am Benjamin: “Bydd yr un sy'n annwyl gan yr ARGLWYDD yn byw yn saff wrth ei ymyl. Bydd Duw yn ei amddiffyn bob amser; bydd yr ARGLWYDD yn ei gadw'n saff.”
Deut WelBeibl 33:13  Yna meddai am Joseff: “Boed i'r ARGLWYDD fendithio ei dir, a rhoi cnydau da gyda gwlith o'r awyr, a'r dŵr sy'n ddwfn dan y ddaear;
Deut WelBeibl 33:14  cnydau wedi tyfu dan wenau'r haul ac yn aeddfedu o fis i fis;
Deut WelBeibl 33:15  cnydau'n tyfu ar ben y mynyddoedd hynafol, a'r cynhaeaf sy'n aeddfedu ar y bryniau;
Deut WelBeibl 33:16  y cnydau gorau all y tir ei roi, a ffafr yr Un oedd yn y berth oedd ar dân. Bendith Duw ar ben Joseff – ar ben yr un oedd y blaenaf o'i frodyr.
Deut WelBeibl 33:17  Mae iddo anrhydedd fel y tarw cyntaf, ac mae ei gyrn fel rhai ych gwyllt, i gornio'r bobloedd i ben draw'r byd – dyma ddegau o filoedd Effraim a miloedd Manasse.”
Deut WelBeibl 33:18  Yna meddai am Sabulon: “Bydd lawen, Sabulon, pan fyddi'n mynd allan, ac Issachar, pan fyddi yn dy bebyll.
Deut WelBeibl 33:19  Byddan nhw'n galw pobloedd at eu mynydd, ac yno'n cyflwyno aberthau iawn. Byddan nhw'n derbyn cyfoeth o'r moroedd, ac yn casglu trysorau o dywod y traeth.”
Deut WelBeibl 33:20  Yna meddai am Gad: “Bendith ar yr Un sy'n gwneud i Gad lwyddo! Bydd yn aros fel llew, yna'n rhwygo'r fraich a'r pen.
Deut WelBeibl 33:21  Mae wedi dewis y rhan orau iddo'i hun – rhan un sy'n rheoli. Daeth gydag arweinwyr y bobl, yn ufudd i ofynion da yr ARGLWYDD, a'i ganllawiau i bobl Israel.”
Deut WelBeibl 33:22  Yna meddai am Dan: “Mae Dan fel llew ifanc; bydd yn llamu allan o Bashan.”
Deut WelBeibl 33:23  Yna meddai am Nafftali: “O Nafftali, sy'n gorlifo o ffafr, ac wedi dy fendithio gymaint gan yr ARGLWYDD, dos i gymryd dy dir i'r gorllewin a'r de.”
Deut WelBeibl 33:24  Yna meddai am Asher: “Mae Asher wedi'i fendithio fwy na'r lleill! Boed i'w frodyr ddangos ffafr ato, a boed iddo drochi ei draed mewn olew olewydd.
Deut WelBeibl 33:25  Bydd y bariau ar dy giatiau o haearn a phres; byddi'n saff tra byddi byw.
Deut WelBeibl 33:26  Does neb tebyg i dy Dduw, o Israel onest; mae'n hedfan drwy'r awyr i dy helpu, a'r cymylau yn gerbyd i'w fawrhydi.
Deut WelBeibl 33:27  Mae'r Duw sydd o'r dechrau'n le diogel, a'i freichiau tragwyddol oddi tanat. Mae wedi gyrru dy elynion ar ffo, ac wedi gorchymyn eu dinistrio.
Deut WelBeibl 33:28  Mae Israel yn cael byw yn saff, ac mae pobl Jacob yn ddiogel, mewn gwlad o ŷd a grawnwin; lle mae gwlith yn disgyn o'r awyr.
Deut WelBeibl 33:29  Rwyt wedi dy fendithio, Israel! Oes pobloedd eraill tebyg i ti? – Pobl sydd wedi'ch achub gan yr ARGLWYDD, Fe ydy'r darian sy'n eich amddiffyn, a'r cleddyf gwych sy'n ymladd ar eich ran. Boed i'ch gelynion grynu o'ch blaen, a chithau'n sathru ar eu cefnau!”