DEUTERONOMY
Chapter 11
Deut | WelBeibl | 11:1 | “Rhaid i chi garu'r ARGLWYDD eich Duw, a gwneud beth mae e eisiau – cadw ei ganllawiau, ei reolau a'i orchmynion bob amser. | |
Deut | WelBeibl | 11:2 | Cofiwch mai nid gyda'ch plant chi dw i'n siarad, ond gyda chi sydd wedi gweld yr ARGLWYDD yn cosbi. Dych chi wedi gweld mor fawr a chryf a nerthol ydy e. | |
Deut | WelBeibl | 11:3 | Wnaeth eich plant ddim gweld y pethau ofnadwy wnaeth Duw i'r Pharo a'i bobl yn yr Aifft. | |
Deut | WelBeibl | 11:4 | Wnaethon nhw ddim gweld beth wnaeth e i fyddin yr Aifft, a'u ceffylau a'u cerbydau. Gwnaeth i'r Môr Coch lifo drostyn nhw a'u boddi nhw pan oedden nhw'n ceisio'ch dal chi. | |
Deut | WelBeibl | 11:5 | Wnaethon nhw ddim gweld beth wnaeth e i chi yn yr anialwch cyn i chi gyrraedd yma. | |
Deut | WelBeibl | 11:6 | Gwnaeth yr ARGLWYDD i'r ddaear agor yng nghanol y gwersyll, a dyma Dathan ac Abiram (meibion Eliab o lwyth Reuben), a'u teuluoedd a'u pebyll a'u hanifeiliaid i gyd, yn cael eu llyncu gan y ddaear. | |
Deut | WelBeibl | 11:8 | “Felly gwrandwch yn ofalus ar y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw. Wedyn byddwch chi'n gallu mynd i mewn a chymryd y tir | |
Deut | WelBeibl | 11:9 | wnaeth yr ARGLWYDD ei addo i'ch hynafiaid chi. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. | |
Deut | WelBeibl | 11:10 | Dydy e ddim yr un fath â'r tir yn yr Aifft, o'r lle daethoch chi. Yno roeddech chi'n hau'r had ac yn gorfod gweithio'n galed i'w ddyfrio, fel gardd lysiau. | |
Deut | WelBeibl | 11:11 | Na, mae'r wlad dych chi'n croesi afon Iorddonen i'w chymryd, yn wlad o fryniau a dyffrynnoedd, a'r tir yn cael ei ddyfrio gan y glaw sy'n disgyn o'r awyr. | |
Deut | WelBeibl | 11:13 | “Os gwrandwch chi'n ofalus ar y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw, a charu'r ARGLWYDD eich Duw â'ch holl galon ac â'ch holl enaid, | |
Deut | WelBeibl | 11:14 | mae e'n addo ‘Bydda i'n anfon glaw ar y tir ar yr amser iawn, sef yn yr hydref a'r gwanwyn, er mwyn i chi gasglu'ch cnydau o ŷd a grawnwin ac olewydd. | |
Deut | WelBeibl | 11:16 | “Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn troi cefn arno a dechrau addoli duwiau eraill! | |
Deut | WelBeibl | 11:17 | Os gwnewch chi hynny, bydd yr ARGLWYDD yn digio'n lân hefo chi, ac yn gwneud iddi stopio glawio. Fydd dim cnydau'n tyfu, a byddwch chi'n cael eich symud o'r tir da mae'r ARGLWYDD ar fin ei roi i chi. | |
Deut | WelBeibl | 11:18 | “Felly dysga'r gorchmynion yma ar dy gof. Rhwyma nhw ar dy freichiau i dy atgoffa di, a gwisga nhw ar dy dalcen i'w cofio. | |
Deut | WelBeibl | 11:19 | Dysga nhw'n gyson i dy blant, a'u trafod nhw pan fyddi adre yn y tŷ, ac i ffwrdd oddi cartref, pan fyddi'n mynd i gysgu, ac yn codi yn y bore. | |
Deut | WelBeibl | 11:21 | Os gwnei di hynny, byddi di a dy ddisgynyddion yn aros yn y wlad wnaeth yr ARGLWYDD ei haddo i dy hynafiaid am byth. | |
Deut | WelBeibl | 11:22 | “Os gwnewch chi'n union fel dw i'n dweud, caru'r ARGLWYDD eich Duw, byw fel mae e eisiau i chi fyw ac aros yn ffyddlon iddo, | |
Deut | WelBeibl | 11:23 | byddwch chi'n gyrru allan y bobloedd sydd o'ch blaenau chi, ac yn cymryd tir oddi ar genhedloedd mwy a chryfach na chi. | |
Deut | WelBeibl | 11:24 | Byddwch chi'n cael pob modfedd sgwâr o dir fyddwch chi'n cerdded arno. Bydd eich ffiniau'n mynd o'r anialwch yn y de i Libanus yn y gogledd, ac o afon Ewffrates yr holl ffordd at Fôr y Canoldir. | |
Deut | WelBeibl | 11:25 | Fydd neb yn gallu'ch rhwystro chi. Fel gwnaeth e addo i chi, bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gwneud i chi godi ofn ar bawb, lle bynnag dych chi'n mynd. | |
Deut | WelBeibl | 11:28 | Ond melltith gewch chi os byddwch chi'n cymryd dim sylw o'i orchmynion, yn troi cefn ar y ffordd dw i'n ei gosod o'ch blaen chi, ac yn addoli eilun-dduwiau dych chi'n gwybod dim amdanyn nhw. | |
Deut | WelBeibl | 11:29 | Pan fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn mynd â chi i mewn i'r wlad dych chi i'w chymryd, rhaid i chi gyhoeddi'r fendith ar Fynydd Gerisim, a'r felltith ar Fynydd Ebal. | |
Deut | WelBeibl | 11:30 | Maen nhw'r ochr draw i afon Iorddonen, ar dir y Canaaneaid sy'n byw yn Nyffryn Iorddonen, wrth ymyl Gilgal, heb fod yn bell o dderwen More. | |
Deut | WelBeibl | 11:31 | “Dych chi ar fin croesi afon Iorddonen i gymryd y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi. Dyna lle byddwch chi'n byw. | |