DEUTERONOMY
Chapter 3
Deut | WelBeibl | 3:1 | “Yna dyma ni'n troi i'r gogledd, ac yn mynd i gyfeiriad Bashan. A dyma Og brenin Bashan, yn dod â'i fyddin gyfan i ymladd yn ein herbyn ni yn Edrei. | |
Deut | WelBeibl | 3:2 | Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Paid bod â'i ofn. Dw i'n mynd i roi Og a'i fyddin a'i dir i gyd i ti. Byddi'n gwneud yr un fath iddo fe ag a wnest ti i Sihon brenin yr Amoriaid oedd yn byw yn Cheshbon.’ | |
Deut | WelBeibl | 3:3 | “A dyna wnaeth yr ARGLWYDD. Dyma ni'n taro Og, brenin Bashan a'i fyddin i gyd – cawson nhw i gyd eu lladd. | |
Deut | WelBeibl | 3:5 | Roedden nhw i gyd yn gaerau amddiffynnol, gyda waliau uchel a giatiau dwbl hefo barrau i'w cloi. Ac roedd llawer iawn o bentrefi agored yno hefyd. | |
Deut | WelBeibl | 3:6 | Dyma ni'n gwneud yn union yr un fath ag a wnaethon ni i drefi Sihon, brenin Cheshbon – eu dinistrio nhw i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw, hyd yn oed gwragedd a phlant. | |
Deut | WelBeibl | 3:8 | “Dyna pryd gwnaethon ni gymryd tir dau frenin yr Amoriaid, yr ochr draw i'r Iorddonen – o Ddyffryn Arnon yn y de yr holl ffordd i Fynydd Hermon yn y gogledd. | |
Deut | WelBeibl | 3:10 | Roedden ni wedi concro trefi'r byrdd-dir, Gilead i gyd a Bashan, yr holl ffordd i drefi Salca ac Edrei, oedd yn perthyn i deyrnas Og. | |
Deut | WelBeibl | 3:11 | (Og, brenin Bashan, oedd yr unig un o'r Reffaiaid oedd yn dal ar ôl. Roedd ei arch yn bedwar metr o hyd, a bron dau fetr o led, ac wedi'i gwneud o garreg basalt du. Gellir ei gweld yn Rabba, prif dref yr Ammoniaid.) | |
Deut | WelBeibl | 3:12 | “Felly, dyma'r tir wnaethon ni ei gymryd i'r dwyrain o afon Iorddonen: dyma fi'n rhoi'r tir sydd i'r gogledd o Aroer, ger Dyffryn Arnon, a hanner bryniau Gilead, i lwythau Reuben a Gad. | |
Deut | WelBeibl | 3:13 | Wedyn dyma fi'n rhoi gweddill Gilead a theyrnas Og, sef Bashan, i hanner llwyth Manasse. (Roedd ardal Argob i gyd, sef Bashan, yn arfer cael ei galw yn Wlad y Reffaiaid. | |
Deut | WelBeibl | 3:14 | Dyma Jair, o lwyth Manasse, yn cymryd ardal Argob, sef Bashan. Mae'r ardal yn ymestyn at y ffin gyda Geshwr a Maacha. Rhoddodd ei enw ei hun ar yr ardal – Hafoth-jair – a dyna'r enw ar yr ardal hyd heddiw.) | |
Deut | WelBeibl | 3:16 | “Yna i lwythau Reuben a Gad dyma fi'n rhoi'r tir sy'n ymestyn o Gilead i Ddyffryn Arnon (Dyffryn Arnon oedd y ffin), ac ymlaen at Afon Jabboc a ffin Ammon. | |
Deut | WelBeibl | 3:17 | “Y ffin i'r gorllewin oedd afon Iorddonen, o Lyn Galilea i lawr i'r Môr Marw, gyda llethrau Pisga i'r dwyrain. | |
Deut | WelBeibl | 3:18 | Dwedais wrthoch chi bryd hynny, ‘Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi rhoi'r tir yma i chi. Ond rhaid i'ch milwyr chi groesi o flaen gweddill pobl Israel, yn barod i ymladd. | |
Deut | WelBeibl | 3:19 | Bydd eich gwragedd a'ch plant yn cael aros yn y trefi dw i wedi'u rhoi i chi. A'r holl anifeiliaid sydd gynnoch chi hefyd – mae gynnoch chi lawer iawn o wartheg. | |
Deut | WelBeibl | 3:20 | Wedyn bydd eich dynion yn cael dod yn ôl pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi buddugoliaeth i weddill pobl Israel, fel y gwnaeth gyda chi; hynny ydy, pan fyddan nhw wedi cymryd drosodd y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi iddyn nhw yr ochr draw i afon Iorddonen.’ | |
Deut | WelBeibl | 3:21 | “A dyma fi'n dweud wrth Josua, ‘Dych chi wedi gweld beth wnaeth yr ARGLWYDD i'r ddau frenin yna. Bydd yn gwneud yr un fath i'r teyrnasoedd lle dych chi'n mynd. | |
Deut | WelBeibl | 3:24 | ‘O Feistr, ARGLWYDD, dw i'n dechrau gweld mor fawr ac mor gryf wyt ti! Oes yna dduw arall yn y nefoedd neu ar y ddaear sy'n gallu gwneud pethau mor anhygoel? | |
Deut | WelBeibl | 3:25 | Plîs, wnei di adael i mi groesi dros afon Iorddonen i weld y tir da sydd yr ochr arall? – Y bryniau hyfryd a mynyddoedd Libanus.’ | |
Deut | WelBeibl | 3:26 | “Ond roedd yr ARGLWYDD yn wyllt hefo fi o'ch achos chi. Doedd e ddim yn fodlon gwrando. Dyma fe'n dweud, ‘Dyna ddigon! Dw i eisiau clywed dim mwy am y peth. | |
Deut | WelBeibl | 3:27 | Cei ddringo i ben Mynydd Pisga, ac edrych ar y wlad i bob cyfeiriad, ond ti ddim yn mynd i gael croesi dros yr Iorddonen. | |
Deut | WelBeibl | 3:28 | Dw i eisiau i ti gomisiynu Josua, a'i annog a rhoi hyder iddo. Fe ydy'r un sy'n mynd i arwain y bobl yma drosodd i gymryd y wlad fyddi di'n ei gweld o dy flaen di.’ | |