Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
DEUTERONOMY
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 3
Deut WelBeibl 3:1  “Yna dyma ni'n troi i'r gogledd, ac yn mynd i gyfeiriad Bashan. A dyma Og brenin Bashan, yn dod â'i fyddin gyfan i ymladd yn ein herbyn ni yn Edrei.
Deut WelBeibl 3:2  Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Paid bod â'i ofn. Dw i'n mynd i roi Og a'i fyddin a'i dir i gyd i ti. Byddi'n gwneud yr un fath iddo fe ag a wnest ti i Sihon brenin yr Amoriaid oedd yn byw yn Cheshbon.’
Deut WelBeibl 3:3  “A dyna wnaeth yr ARGLWYDD. Dyma ni'n taro Og, brenin Bashan a'i fyddin i gyd – cawson nhw i gyd eu lladd.
Deut WelBeibl 3:4  Dyma ni'n concro pob un o'i drefi – chwe deg ohonyn nhw – i gyd yn ardal Argob.
Deut WelBeibl 3:5  Roedden nhw i gyd yn gaerau amddiffynnol, gyda waliau uchel a giatiau dwbl hefo barrau i'w cloi. Ac roedd llawer iawn o bentrefi agored yno hefyd.
Deut WelBeibl 3:6  Dyma ni'n gwneud yn union yr un fath ag a wnaethon ni i drefi Sihon, brenin Cheshbon – eu dinistrio nhw i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw, hyd yn oed gwragedd a phlant.
Deut WelBeibl 3:7  Ond dyma ni'n cadw'r anifeiliaid ac unrhyw beth arall oedd yn werthfawr.
Deut WelBeibl 3:8  “Dyna pryd gwnaethon ni gymryd tir dau frenin yr Amoriaid, yr ochr draw i'r Iorddonen – o Ddyffryn Arnon yn y de yr holl ffordd i Fynydd Hermon yn y gogledd.
Deut WelBeibl 3:9  (Sirion ydy enw pobl Sidon ar Hermon, ac mae'r Amoriaid yn ei alw yn Senir.)
Deut WelBeibl 3:10  Roedden ni wedi concro trefi'r byrdd-dir, Gilead i gyd a Bashan, yr holl ffordd i drefi Salca ac Edrei, oedd yn perthyn i deyrnas Og.
Deut WelBeibl 3:11  (Og, brenin Bashan, oedd yr unig un o'r Reffaiaid oedd yn dal ar ôl. Roedd ei arch yn bedwar metr o hyd, a bron dau fetr o led, ac wedi'i gwneud o garreg basalt du. Gellir ei gweld yn Rabba, prif dref yr Ammoniaid.)
Deut WelBeibl 3:12  “Felly, dyma'r tir wnaethon ni ei gymryd i'r dwyrain o afon Iorddonen: dyma fi'n rhoi'r tir sydd i'r gogledd o Aroer, ger Dyffryn Arnon, a hanner bryniau Gilead, i lwythau Reuben a Gad.
Deut WelBeibl 3:13  Wedyn dyma fi'n rhoi gweddill Gilead a theyrnas Og, sef Bashan, i hanner llwyth Manasse. (Roedd ardal Argob i gyd, sef Bashan, yn arfer cael ei galw yn Wlad y Reffaiaid.
Deut WelBeibl 3:14  Dyma Jair, o lwyth Manasse, yn cymryd ardal Argob, sef Bashan. Mae'r ardal yn ymestyn at y ffin gyda Geshwr a Maacha. Rhoddodd ei enw ei hun ar yr ardal – Hafoth-jair – a dyna'r enw ar yr ardal hyd heddiw.)
Deut WelBeibl 3:15  “Dyma fi'n rhoi Gilead i ddisgynyddion Machir, mab Manasse.
Deut WelBeibl 3:16  “Yna i lwythau Reuben a Gad dyma fi'n rhoi'r tir sy'n ymestyn o Gilead i Ddyffryn Arnon (Dyffryn Arnon oedd y ffin), ac ymlaen at Afon Jabboc a ffin Ammon.
Deut WelBeibl 3:17  “Y ffin i'r gorllewin oedd afon Iorddonen, o Lyn Galilea i lawr i'r Môr Marw, gyda llethrau Pisga i'r dwyrain.
Deut WelBeibl 3:18  Dwedais wrthoch chi bryd hynny, ‘Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi rhoi'r tir yma i chi. Ond rhaid i'ch milwyr chi groesi o flaen gweddill pobl Israel, yn barod i ymladd.
Deut WelBeibl 3:19  Bydd eich gwragedd a'ch plant yn cael aros yn y trefi dw i wedi'u rhoi i chi. A'r holl anifeiliaid sydd gynnoch chi hefyd – mae gynnoch chi lawer iawn o wartheg.
Deut WelBeibl 3:20  Wedyn bydd eich dynion yn cael dod yn ôl pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi buddugoliaeth i weddill pobl Israel, fel y gwnaeth gyda chi; hynny ydy, pan fyddan nhw wedi cymryd drosodd y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi iddyn nhw yr ochr draw i afon Iorddonen.’
Deut WelBeibl 3:21  “A dyma fi'n dweud wrth Josua, ‘Dych chi wedi gweld beth wnaeth yr ARGLWYDD i'r ddau frenin yna. Bydd yn gwneud yr un fath i'r teyrnasoedd lle dych chi'n mynd.
Deut WelBeibl 3:22  Peidiwch bod ag ofn. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ymladd drosoch chi.’
Deut WelBeibl 3:24  ‘O Feistr, ARGLWYDD, dw i'n dechrau gweld mor fawr ac mor gryf wyt ti! Oes yna dduw arall yn y nefoedd neu ar y ddaear sy'n gallu gwneud pethau mor anhygoel?
Deut WelBeibl 3:25  Plîs, wnei di adael i mi groesi dros afon Iorddonen i weld y tir da sydd yr ochr arall? – Y bryniau hyfryd a mynyddoedd Libanus.’
Deut WelBeibl 3:26  “Ond roedd yr ARGLWYDD yn wyllt hefo fi o'ch achos chi. Doedd e ddim yn fodlon gwrando. Dyma fe'n dweud, ‘Dyna ddigon! Dw i eisiau clywed dim mwy am y peth.
Deut WelBeibl 3:27  Cei ddringo i ben Mynydd Pisga, ac edrych ar y wlad i bob cyfeiriad, ond ti ddim yn mynd i gael croesi dros yr Iorddonen.
Deut WelBeibl 3:28  Dw i eisiau i ti gomisiynu Josua, a'i annog a rhoi hyder iddo. Fe ydy'r un sy'n mynd i arwain y bobl yma drosodd i gymryd y wlad fyddi di'n ei gweld o dy flaen di.’
Deut WelBeibl 3:29  “Felly dyma ni'n aros yn y dyffryn gyferbyn â Beth-peor.