Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
DEUTERONOMY
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 9
Deut WelBeibl 9:1  “Gwranda Israel! Rwyt ti ar fin croesi afon Iorddonen i gymryd tir y bobloedd sy'n byw yno oddi arnyn nhw – pobloedd sy'n gryfach na chi, ac yn byw mewn trefi mawr gyda waliau amddiffynnol uchel iawn.
Deut WelBeibl 9:2  Mae'n cynnwys disgynyddion Anac – maen nhw'n bobl anferth ac mae tyrfa fawr ohonyn nhw, a dych chi'n gwybod beth sy'n cael ei ddweud amdanyn nhw, ‘Pa obaith sydd gan unrhyw un yn erbyn yr Anaciaid!’
Deut WelBeibl 9:3  Wel, dw i eisiau i chi ddeall fod yr ARGLWYDD eich Duw fel tân sy'n difa popeth o'i flaen. Bydd e'n eu trechu nhw. Byddwch chi'n cymryd eu tir nhw, ac yn eu dinistrio nhw yn gyflym iawn, fel mae wedi dweud.
Deut WelBeibl 9:4  “Ond ar ôl i'r ARGLWYDD eu gyrru nhw allan o'ch blaenau chi, peidiwch meddwl am funud ei fod e'n rhoi'r tir i chi am eich bod chi'n bobl mor dda! Na, mae e'n gyrru'r bobloedd yma allan o'ch blaenau chi am eu bod nhw'n gwneud pethau mor ddrwg.
Deut WelBeibl 9:5  Does gan y peth ddim byd i'w wneud â'ch daioni chi a'ch moesoldeb chi. Na, y ffaith fod y bobl sy'n byw yno mor ddrwg, sy'n cymell yr ARGLWYDD eich Duw i'w gyrru nhw allan o'ch blaenau chi, a hefyd achos ei fod am gadw'r addewid wnaeth e i'ch hynafiaid chi, i Abraham, Isaac a Jacob.
Deut WelBeibl 9:6  Felly dw i eisiau i chi ddeall fod yr ARGLWYDD ddim yn rhoi'r tir da yma i chi am eich bod chi'n bobl dda. Dych chi'n bobl benstiff!
Deut WelBeibl 9:7  “Cofiwch – peidiwch byth anghofio – sut wnaethoch chi ddigio'r ARGLWYDD eich Duw pan oeddech chi'n yr anialwch. Dych chi ddim wedi stopio gwrthryfela yn ei erbyn ers y diwrnod daethoch chi allan o'r Aifft.
Deut WelBeibl 9:8  Roeddech wedi'i ddigio yn Sinai, ac roedd yn mynd i'ch dinistrio chi.
Deut WelBeibl 9:9  Pan es i i fyny'r mynydd i dderbyn y llechi carreg, sef llechi ymrwymiad yr ARGLWYDD i chi, dyma fi'n aros yno nos a dydd am bedwar deg diwrnod, heb fwyta nac yfed o gwbl.
Deut WelBeibl 9:10  A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r ddwy lechen garreg i mi, gydag ysgrifen Duw ei hun arnyn nhw; y Deg Gorchymyn roedd e wedi'u rhoi i chi o ganol y tân ar y mynydd, pan oeddech chi wedi casglu at eich gilydd.
Deut WelBeibl 9:11  “Ar ddiwedd y cyfnod o bedwar deg diwrnod, dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r ddwy lechen garreg i mi, llechi'r ymrwymiad.
Deut WelBeibl 9:12  Yna dwedodd, ‘Dos yn ôl i lawr ar unwaith; mae'r bobl wnest ti eu harwain allan o'r Aifft wedi pechu! Maen nhw wedi troi cefn yn barod ar y ffordd wnes i ei rhoi iddyn nhw, ac wedi gwneud delw o fetel tawdd.’
Deut WelBeibl 9:13  “Yna dyma fe'n dweud wrtho i, ‘Dw i wedi bod yn gwylio'r bobl yma – maen nhw'n griw penstiff!
Deut WelBeibl 9:14  Gad lonydd i mi, i mi gael gwared â nhw'n llwyr! Fydd neb yn cofio pwy oedden nhw! A bydda i'n dy wneud di yn genedl gryfach a mwy na nhw.’
Deut WelBeibl 9:15  “Felly dyma fi'n mynd yn ôl i lawr y mynydd tra oedd yn llosgi'n dân, gyda'r ddwy lechen yn fy nwylo.
Deut WelBeibl 9:16  A dyma fi'n gweld eich bod chi wedi pechu go iawn yn erbyn yr ARGLWYDD, a gwneud eilun ar siâp tarw ifanc. Roeddech chi wedi troi i ffwrdd mor sydyn oddi wrth beth roedd e'n ei ofyn gynnoch chi!
Deut WelBeibl 9:17  Felly dyma fi'n codi'r ddwy lechen, a'u taflu nhw ar lawr, a dyma nhw'n torri'n ddarnau yno o flaen eich llygaid chi.
Deut WelBeibl 9:18  “Yna dyma fi'n mynd ar lawr o flaen yr ARGLWYDD nos a dydd am bedwar deg diwrnod arall. Wnes i fwyta nac yfed dim byd o achos eich pechod chi, yn gwneud peth mor ofnadwy i bryfocio'r ARGLWYDD.
Deut WelBeibl 9:19  Roedd gen i wir ofn fod yr ARGLWYDD wedi digio mor ofnadwy hefo chi y byddai e'n eich dinistrio chi'n llwyr. Ond dyma fe'n gwrando arna i unwaith eto.
Deut WelBeibl 9:20  “Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio gydag Aaron hefyd, ac yn mynd i'w ladd, ond dyma fi'n gweddïo drosto fe hefyd.
Deut WelBeibl 9:21  Yna dyma fi'n cymryd y tarw ifanc roeddech chi wedi pechu drwy ei wneud, ei doddi yn y tân, ac yna ei falu nes ei fod yn fân fel llwch, cyn taflu'r llwch i'r nant oedd yn rhedeg i lawr y mynydd.
Deut WelBeibl 9:22  “A dyma chi'n digio'r ARGLWYDD eto, yn Tabera, Massa a Cibroth-hattaäfa.
Deut WelBeibl 9:23  A phan wnaeth e'ch anfon chi o Cadesh-barnea, a dweud wrthoch chi, ‘Ewch, a chymryd y tir dw i wedi'i roi i chi,’ dyma chi'n tynnu'n groes i'r ARGLWYDD eto, a gwrthod ei gredu na gwneud beth roedd e'n ddweud.
Deut WelBeibl 9:24  Dych chi wedi bod yn gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD o'r diwrnod cyntaf i mi eich nabod chi!
Deut WelBeibl 9:25  “Bues i'n gorwedd ar fy wyneb ar lawr o flaen yr ARGLWYDD nos a dydd am bedwar deg diwrnod, am ei fod wedi dweud y byddai'n eich dinistrio chi.
Deut WelBeibl 9:26  A dyma fi'n gweddïo, ‘O Feistr, ARGLWYDD, paid dinistrio dy bobl. Ti wedi defnyddio dy nerth rhyfeddol i'w gollwng nhw'n rhydd, a dod â nhw allan o'r Aifft.
Deut WelBeibl 9:27  Cofia dy weision – Abraham, Isaac a Jacob. Paid cymryd sylw o'r bobl ystyfnig, ddrwg yma sy'n pechu yn dy erbyn.
Deut WelBeibl 9:28  Does gen ti ddim eisiau i bobl yr Aifft ddweud, “Doedd yr ARGLWYDD ddim yn gallu mynd â'r bobl yma i'r wlad roedd e wedi'i haddo iddyn nhw. Aeth â nhw allan o'r Aifft am ei fod yn eu casáu nhw, ac am eu lladd nhw yn yr anialwch.”
Deut WelBeibl 9:29  Dy bobl di ydyn nhw; dy eiddo sbesial di. Ti wedi defnyddio dy rym a dy nerth rhyfeddol i'w gollwng nhw'n rhydd.’