DEUTERONOMY
Chapter 9
Deut | WelBeibl | 9:1 | “Gwranda Israel! Rwyt ti ar fin croesi afon Iorddonen i gymryd tir y bobloedd sy'n byw yno oddi arnyn nhw – pobloedd sy'n gryfach na chi, ac yn byw mewn trefi mawr gyda waliau amddiffynnol uchel iawn. | |
Deut | WelBeibl | 9:2 | Mae'n cynnwys disgynyddion Anac – maen nhw'n bobl anferth ac mae tyrfa fawr ohonyn nhw, a dych chi'n gwybod beth sy'n cael ei ddweud amdanyn nhw, ‘Pa obaith sydd gan unrhyw un yn erbyn yr Anaciaid!’ | |
Deut | WelBeibl | 9:3 | Wel, dw i eisiau i chi ddeall fod yr ARGLWYDD eich Duw fel tân sy'n difa popeth o'i flaen. Bydd e'n eu trechu nhw. Byddwch chi'n cymryd eu tir nhw, ac yn eu dinistrio nhw yn gyflym iawn, fel mae wedi dweud. | |
Deut | WelBeibl | 9:4 | “Ond ar ôl i'r ARGLWYDD eu gyrru nhw allan o'ch blaenau chi, peidiwch meddwl am funud ei fod e'n rhoi'r tir i chi am eich bod chi'n bobl mor dda! Na, mae e'n gyrru'r bobloedd yma allan o'ch blaenau chi am eu bod nhw'n gwneud pethau mor ddrwg. | |
Deut | WelBeibl | 9:5 | Does gan y peth ddim byd i'w wneud â'ch daioni chi a'ch moesoldeb chi. Na, y ffaith fod y bobl sy'n byw yno mor ddrwg, sy'n cymell yr ARGLWYDD eich Duw i'w gyrru nhw allan o'ch blaenau chi, a hefyd achos ei fod am gadw'r addewid wnaeth e i'ch hynafiaid chi, i Abraham, Isaac a Jacob. | |
Deut | WelBeibl | 9:6 | Felly dw i eisiau i chi ddeall fod yr ARGLWYDD ddim yn rhoi'r tir da yma i chi am eich bod chi'n bobl dda. Dych chi'n bobl benstiff! | |
Deut | WelBeibl | 9:7 | “Cofiwch – peidiwch byth anghofio – sut wnaethoch chi ddigio'r ARGLWYDD eich Duw pan oeddech chi'n yr anialwch. Dych chi ddim wedi stopio gwrthryfela yn ei erbyn ers y diwrnod daethoch chi allan o'r Aifft. | |
Deut | WelBeibl | 9:9 | Pan es i i fyny'r mynydd i dderbyn y llechi carreg, sef llechi ymrwymiad yr ARGLWYDD i chi, dyma fi'n aros yno nos a dydd am bedwar deg diwrnod, heb fwyta nac yfed o gwbl. | |
Deut | WelBeibl | 9:10 | A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r ddwy lechen garreg i mi, gydag ysgrifen Duw ei hun arnyn nhw; y Deg Gorchymyn roedd e wedi'u rhoi i chi o ganol y tân ar y mynydd, pan oeddech chi wedi casglu at eich gilydd. | |
Deut | WelBeibl | 9:11 | “Ar ddiwedd y cyfnod o bedwar deg diwrnod, dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r ddwy lechen garreg i mi, llechi'r ymrwymiad. | |
Deut | WelBeibl | 9:12 | Yna dwedodd, ‘Dos yn ôl i lawr ar unwaith; mae'r bobl wnest ti eu harwain allan o'r Aifft wedi pechu! Maen nhw wedi troi cefn yn barod ar y ffordd wnes i ei rhoi iddyn nhw, ac wedi gwneud delw o fetel tawdd.’ | |
Deut | WelBeibl | 9:13 | “Yna dyma fe'n dweud wrtho i, ‘Dw i wedi bod yn gwylio'r bobl yma – maen nhw'n griw penstiff! | |
Deut | WelBeibl | 9:14 | Gad lonydd i mi, i mi gael gwared â nhw'n llwyr! Fydd neb yn cofio pwy oedden nhw! A bydda i'n dy wneud di yn genedl gryfach a mwy na nhw.’ | |
Deut | WelBeibl | 9:15 | “Felly dyma fi'n mynd yn ôl i lawr y mynydd tra oedd yn llosgi'n dân, gyda'r ddwy lechen yn fy nwylo. | |
Deut | WelBeibl | 9:16 | A dyma fi'n gweld eich bod chi wedi pechu go iawn yn erbyn yr ARGLWYDD, a gwneud eilun ar siâp tarw ifanc. Roeddech chi wedi troi i ffwrdd mor sydyn oddi wrth beth roedd e'n ei ofyn gynnoch chi! | |
Deut | WelBeibl | 9:17 | Felly dyma fi'n codi'r ddwy lechen, a'u taflu nhw ar lawr, a dyma nhw'n torri'n ddarnau yno o flaen eich llygaid chi. | |
Deut | WelBeibl | 9:18 | “Yna dyma fi'n mynd ar lawr o flaen yr ARGLWYDD nos a dydd am bedwar deg diwrnod arall. Wnes i fwyta nac yfed dim byd o achos eich pechod chi, yn gwneud peth mor ofnadwy i bryfocio'r ARGLWYDD. | |
Deut | WelBeibl | 9:19 | Roedd gen i wir ofn fod yr ARGLWYDD wedi digio mor ofnadwy hefo chi y byddai e'n eich dinistrio chi'n llwyr. Ond dyma fe'n gwrando arna i unwaith eto. | |
Deut | WelBeibl | 9:20 | “Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio gydag Aaron hefyd, ac yn mynd i'w ladd, ond dyma fi'n gweddïo drosto fe hefyd. | |
Deut | WelBeibl | 9:21 | Yna dyma fi'n cymryd y tarw ifanc roeddech chi wedi pechu drwy ei wneud, ei doddi yn y tân, ac yna ei falu nes ei fod yn fân fel llwch, cyn taflu'r llwch i'r nant oedd yn rhedeg i lawr y mynydd. | |
Deut | WelBeibl | 9:23 | A phan wnaeth e'ch anfon chi o Cadesh-barnea, a dweud wrthoch chi, ‘Ewch, a chymryd y tir dw i wedi'i roi i chi,’ dyma chi'n tynnu'n groes i'r ARGLWYDD eto, a gwrthod ei gredu na gwneud beth roedd e'n ddweud. | |
Deut | WelBeibl | 9:24 | Dych chi wedi bod yn gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD o'r diwrnod cyntaf i mi eich nabod chi! | |
Deut | WelBeibl | 9:25 | “Bues i'n gorwedd ar fy wyneb ar lawr o flaen yr ARGLWYDD nos a dydd am bedwar deg diwrnod, am ei fod wedi dweud y byddai'n eich dinistrio chi. | |
Deut | WelBeibl | 9:26 | A dyma fi'n gweddïo, ‘O Feistr, ARGLWYDD, paid dinistrio dy bobl. Ti wedi defnyddio dy nerth rhyfeddol i'w gollwng nhw'n rhydd, a dod â nhw allan o'r Aifft. | |
Deut | WelBeibl | 9:27 | Cofia dy weision – Abraham, Isaac a Jacob. Paid cymryd sylw o'r bobl ystyfnig, ddrwg yma sy'n pechu yn dy erbyn. | |
Deut | WelBeibl | 9:28 | Does gen ti ddim eisiau i bobl yr Aifft ddweud, “Doedd yr ARGLWYDD ddim yn gallu mynd â'r bobl yma i'r wlad roedd e wedi'i haddo iddyn nhw. Aeth â nhw allan o'r Aifft am ei fod yn eu casáu nhw, ac am eu lladd nhw yn yr anialwch.” | |