DEUTERONOMY
Chapter 21
Deut | WelBeibl | 21:1 | “Os byddwch chi'n darganfod corff yn rhywle yn y wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi, a neb yn gwybod pwy sydd wedi'i ladd, | |
Deut | WelBeibl | 21:2 | rhaid i'r arweinwyr a'r barnwyr fynd allan a phenderfynu pa dref sydd agosaf at y corff. | |
Deut | WelBeibl | 21:3 | Yna rhaid i arweinwyr y dref agosaf gymryd heffer ifanc (un sydd erioed wedi gweithio gydag iau), | |
Deut | WelBeibl | 21:4 | a mynd â hi i ddyffryn lle mae dŵr yn llifo, ond lle mae'r tir heb ei drin, a dim wedi'i hau yno. Wedyn maen nhw i ladd yr heffer. | |
Deut | WelBeibl | 21:5 | Yna bydd yr offeiriaid o lwyth Lefi yn camu ymlaen (sef, y rhai sydd wedi'u dewis gan yr ARGLWYDD i'w wasanaethu ac i fendithio pobl ar ei ran, a dyfarnu achosion yn y llysoedd). | |
Deut | WelBeibl | 21:6 | A bydd arweinwyr y dref agosaf yn golchi'u dwylo uwchben corff yr heffer gafodd ei lladd yn y dyffryn. | |
Deut | WelBeibl | 21:7 | Yna byddan nhw'n gwneud datganiad, ‘Wnaethon ni ddim lladd y person yma, a does neb yn gwybod pwy wnaeth. | |
Deut | WelBeibl | 21:8 | Felly, ARGLWYDD, paid rhoi'r bai ar dy bobl Israel a'u dal nhw'n gyfrifol am dywallt gwaed rhywun diniwed.’ A bydd yr ARGLWYDD yn maddau'r drosedd. | |
Deut | WelBeibl | 21:9 | Dyna sut mae symud yr euogrwydd fod person diniwed wedi'i ladd, a sut mae gwneud beth sy'n iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. | |
Deut | WelBeibl | 21:10 | “Dyma sydd i ddigwydd os byddwch yn mynd i ryfel, a'r ARGLWYDD yn gadael i chi ennill y frwydr, a chymryd pobl yn garcharorion: | |
Deut | WelBeibl | 21:11 | Os bydd un o'r carcharorion yn ferch hardd, ac un o'ch dynion chi yn ei ffansïo hi ac eisiau ei chymryd hi'n wraig, | |
Deut | WelBeibl | 21:13 | a thaflu i ffwrdd y dillad roedd hi'n eu gwisgo pan gafodd ei dal. Yna rhaid iddi aros yn y tŷ am fis cyfan, yn galaru am ei thad a'i mam. Dim ond ar ôl gwneud hynny y gall y dyn ei chymryd hi'n wraig a chael rhyw gyda hi. | |
Deut | WelBeibl | 21:14 | Os na fydd hi'n ei blesio wedyn, rhaid iddo adael iddi fynd yn rhydd. Dydy e ddim yn gallu'i gwerthu hi. Ddylai e ddim cymryd mantais ohoni, am ei fod eisoes wedi cael rhyw gyda hi. | |
Deut | WelBeibl | 21:15 | “Cymrwch fod gan ddyn ddwy wraig, ac mae'n caru un fwy na'r llall. Mae'r ddwy yn cael meibion iddo, ond y wraig mae'n ei charu leiaf sydd wedi cael y mab hynaf. | |
Deut | WelBeibl | 21:16 | Pan mae'r dyn yn rhannu'i eiddo rhwng ei feibion, dydy e ddim i roi siâr y mab hynaf i fab ei hoff wraig, yn lle'i roi i'r mab hynaf go iawn. | |
Deut | WelBeibl | 21:17 | Rhaid iddo dderbyn mai mab ei wraig arall ydy'r hynaf, a rhoi'r siâr ddwbl i hwnnw. Wedi'r cwbl, fe oedd y mab cyntaf i gael ei eni. | |
Deut | WelBeibl | 21:18 | “Os oes gan rywun fab penstiff, sy'n gwrthryfela, ac yn gwrthod gwrando ar ei dad a'i fam pan maen nhw'n ei ddisgyblu, | |
Deut | WelBeibl | 21:20 | Yna maen nhw i wneud y datganiad yma: ‘Mae ein mab ni'n benstiff ac yn gwrthryfela. Mae e'n gwrthod gwrando ar beth dŷn ni'n ddweud – mae e'n folgi ac yn feddwyn!’ | |
Deut | WelBeibl | 21:21 | Yna rhaid i ddynion y dref ladd y bachgen drwy daflu cerrig ato. Drwy wneud hynny, byddwch chi'n cael gwared â'r drwg o'ch plith. A bydd pobl Israel yn clywed am y peth ac yn dychryn. | |
Deut | WelBeibl | 21:22 | Os ydy rhywun yn cael ei ddienyddio am gyflawni trosedd oedd yn haeddu'r gosb eithaf, a'r corff yn cael ei hongian ar bren, | |