DEUTERONOMY
Chapter 29
| Deut | WelBeibl | 29:1 | Dyma amodau'r ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD orchymyn i Moses ei wneud gyda phobl Israel pan oedden nhw ar dir Moab. Roedd hwn yn ychwanegol i'r ymrwymiad wnaeth e gyda nhw ar Fynydd Sinai. | |
| Deut | WelBeibl | 29:2 | Dyma Moses yn galw pobl Israel at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw: “Dych chi wedi gweld popeth wnaeth yr ARGLWYDD yn yr Aifft i'r Pharo a'i swyddogion, a phawb arall drwy'r wlad. | |
| Deut | WelBeibl | 29:4 | Ond dydy'r ARGLWYDD ddim wedi rhoi'r gallu i chi ddeall y peth hyd heddiw. Does gynnoch chi ddim llygaid sy'n gweld na chlustiau sy'n clywed. | |
| Deut | WelBeibl | 29:5 | Dw i wedi'ch arwain chi drwy'r anialwch am bedwar deg mlynedd. Dydy'ch dillad chi ddim wedi difetha, na'ch sandalau chwaith. | |
| Deut | WelBeibl | 29:6 | Dych chi ddim wedi bwyta bara nac yfed gwin neu ddiod feddwol. A dw i wedi gwneud hyn i gyd er mwyn i chi ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi! | |
| Deut | WelBeibl | 29:7 | Pan gyrhaeddoch chi yma, dyma Sihon, brenin Cheshbon, ac Og, brenin Bashan, yn dod allan i ryfela yn ein herbyn ni, ond ni wnaeth ennill y frwydr. | |
| Deut | WelBeibl | 29:8 | Dyma ni'n cymryd eu tir nhw, a'i roi i lwythau Reuben a Gad, a hanner llwyth Manasse. | |
| Deut | WelBeibl | 29:9 | “Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw amodau'r ymrwymiad yma, a bydd popeth wnewch chi yn llwyddo. | |
| Deut | WelBeibl | 29:10 | Dych chi i gyd yn sefyll yma heddiw o flaen yr ARGLWYDD eich Duw – yn arweinwyr y llwythau, henuriaid, swyddogion, dynion, | |
| Deut | WelBeibl | 29:11 | plant, gwragedd, a'r bobl o'r tu allan sydd gyda chi, yn torri coed ac yn cario dŵr. | |
| Deut | WelBeibl | 29:12 | Dych chi i gyd yma i gytuno i amodau'r ymrwymiad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei wneud gyda chi. | |
| Deut | WelBeibl | 29:13 | Heddiw bydd e'n cadarnhau mai chi ydy ei bobl e, ac mai fe ydy'ch Duw chi, fel gwnaeth e addo i chi ar lw i Abraham, Isaac a Jacob. | |
| Deut | WelBeibl | 29:15 | ond pawb sy'n fodlon sefyll gyda ni o flaen yr ARGLWYDD ein Duw, a hefyd y rhai sydd ddim wedi'u geni eto. | |
| Deut | WelBeibl | 29:16 | “Dych chi'n gwybod sut roedden ni'n byw yn yr Aifft, a sut roedd rhaid croesi'r gwahanol wledydd wrth deithio. | |
| Deut | WelBeibl | 29:17 | Dych chi wedi gweld eu pethau ffiaidd nhw, a'u heilun-dduwiau o bren, carreg, arian ac aur. | |
| Deut | WelBeibl | 29:18 | Gwnewch yn siŵr fod neb yn troi cefn ar yr ARGLWYDD ein Duw, a dechrau addoli duwiau'r cenhedloedd hynny – gŵr, gwraig, teulu na llwyth. Byddai hynny fel gadael i wreiddyn sy'n rhoi ffrwyth gwenwynig, chwerw, dyfu yn eich plith chi. | |
| Deut | WelBeibl | 29:19 | Mae person felly yn clywed amodau'r ymrwymiad yma, ac eto'n dawel fach yn bendithio'i hun a dweud, ‘Bydd popeth yn iawn hyd yn oed os gwna i dynnu'n groes!’ Mae peth felly yn dinistrio'r tir da gyda'r tir sych. | |
| Deut | WelBeibl | 29:20 | Fydd yr ARGLWYDD ddim yn maddau i'r person hwnnw. Bydd e'n wyllt gynddeiriog gydag e, a bydd y melltithion sydd yn y sgrôl yma yn dod arno. Bydd yr ARGLWYDD yn cael gwared ag e'n llwyr! | |
| Deut | WelBeibl | 29:21 | Bydd yr ARGLWYDD yn ei bigo allan o ganol llwythau Israel i gyd, yn union fel mae'r melltithion sydd yn sgrôl y Gyfraith yn dweud. | |
| Deut | WelBeibl | 29:22 | “Bydd eich disgynyddion, a phobl sy'n teithio o wledydd pell, yn gweld fel roedd y wlad wedi dioddef o'r afiechydon a'r trasiedïau wnaeth yr ARGLWYDD eu hanfon. | |
| Deut | WelBeibl | 29:23 | Bydd y tir i gyd wedi'i ddifetha gan frwmstan a halen a rwbel yn llosgi. Fydd dim yn cael ei blannu a fydd dim yn tyfu arno. Bydd fel dinistr Sodom a Gomorra, Adma a Seboïm, gafodd eu dinistrio gan yr ARGLWYDD pan oedd e'n ddig. | |
| Deut | WelBeibl | 29:24 | A bydd y cenhedloedd i gyd yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD wedi gwneud hyn i'r wlad yma? Pam oedd e wedi gwylltio cymaint?’ | |
| Deut | WelBeibl | 29:25 | A bydd pobl yn ateb, ‘Am eu bod nhw wedi troi cefn ar yr ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, pan ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft. | |
| Deut | WelBeibl | 29:26 | Roedden nhw wedi troi i addoli duwiau eraill – eilun-dduwiau doedden nhw'n gwybod dim amdanyn nhw, a ddim i fod i'w haddoli nhw. | |
| Deut | WelBeibl | 29:27 | Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio'n lân gyda nhw, a dyna pam wnaethon nhw ddioddef yr holl felltithion mae'r sgrôl yma'n sôn amdanyn nhw. | |
| Deut | WelBeibl | 29:28 | Dyma'r ARGLWYDD yn eu diwreiddio nhw, a'u gyrru i wlad arall. Roedd yn flin, ac wedi digio'n lân gyda nhw.’ | |