DEUTERONOMY
Chapter 8
Deut | WelBeibl | 8:1 | “Rhaid i chi gadw'r gorchmynion yma dw i'n eu rhoi i chi heddiw. Os gwnewch chi hynny, cewch fyw, bydd eich niferoedd chi'n tyfu, a chewch fynd i mewn i'r wlad wnaeth yr ARGLWYDD addo ei rhoi i'ch hynafiaid chi. | |
Deut | WelBeibl | 8:2 | “Peidiwch anghofio'r blynyddoedd dych chi wedi'u treulio yn yr anialwch. Roedd yr ARGLWYDD yn eich dysgu chi a'ch profi chi, i weld a oeddech chi wir yn mynd i wneud beth roedd e'n ddweud. | |
Deut | WelBeibl | 8:3 | Profodd chi drwy wneud i chi fynd heb fwyd, ac wedyn eich bwydo chi gyda'r manna (oedd yn brofiad dieithr iawn). Roedd e eisiau i chi ddeall mai nid bwyd ydy'r unig beth mae pobl angen i fyw. Maen nhw angen gwrando ar bopeth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud. | |
Deut | WelBeibl | 8:4 | Am bedwar deg o flynyddoedd, wnaeth eich dillad chi ddim treulio, a wnaeth eich traed chi ddim chwyddo. | |
Deut | WelBeibl | 8:5 | “Dw i eisiau i chi ddeall fod yr ARGLWYDD eich Duw yn eich disgyblu chi fel mae rhieni'n disgyblu eu plentyn. | |
Deut | WelBeibl | 8:7 | Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd â chi i wlad dda, sy'n llawn nentydd, ffynhonnau a ffrydiau o ddŵr yn llifo rhwng y bryniau. | |
Deut | WelBeibl | 8:8 | Gwlad lle mae digon o ŷd a haidd, gwinwydd, coed ffigys, pomgranadau, ac olewydd, a mêl hefyd. | |
Deut | WelBeibl | 8:9 | Felly fyddwch chi byth yn brin o fwyd yno. Ac mae digon o fwynau i'w cloddio o'r tir – haearn a chopr. | |
Deut | WelBeibl | 8:10 | Bydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta, a byddwch yn moli'r ARGLWYDD eich Duw am roi gwlad mor dda i chi. | |
Deut | WelBeibl | 8:11 | “Gwnewch yn siŵr na fyddwch chi'n anghofio'r ARGLWYDD, nac yn peidio cadw'r gorchmynion, y canllawiau a'r rheolau dw i'n eu rhoi i chi heddiw. | |
Deut | WelBeibl | 8:14 | gwyliwch rhag i chi droi'n rhy hunanfodlon, ac anghofio'r ARGLWYDD eich Duw, wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision. | |
Deut | WelBeibl | 8:15 | Daeth yr ARGLWYDD â chi drwy'r anialwch mawr peryglus yna, oedd yn llawn nadroedd gwenwynig a sgorpionau. Roedd yn dir sych, lle doedd dim dŵr, ond dyma'r ARGLWYDD yn hollti craig, a gwneud i ddŵr bistyllio allan i chi ei yfed. | |
Deut | WelBeibl | 8:16 | Rhoddodd fanna i chi ei fwyta (profiad dieithr i'ch hynafiaid chi) er mwyn eich dysgu chi a'ch profi chi, a gwneud lles i chi yn y diwedd. | |
Deut | WelBeibl | 8:17 | Gwyliwch rhag i chi ddechrau meddwl, ‘Fi fy hun sydd wedi ennill y cyfoeth yma i gyd.’ | |
Deut | WelBeibl | 8:18 | Cofiwch mai'r ARGLWYDD eich Duw ydy'r un sy'n rhoi'r gallu yma i chi. Os cofiwch chi hynny, bydd e'n cadarnhau'r ymrwymiad wnaeth e ar lw i'ch hynafiaid chi. Mae wedi gwneud hynny hyd heddiw. | |
Deut | WelBeibl | 8:19 | “Ond rhaid i mi eich rhybuddio chi – os gwnewch chi anghofio'r ARGLWYDD, a mynd ar ôl duwiau eraill i'w haddoli nhw, bydd e'n eich dinistrio chi! | |